Cofiant cynhwysfawr a dadlennol un o ffigurau mwyaf Cymru yr ugeinfed ganrif. Yn y gyfrol bwrir golwg craff a thrwyadl ar bob agwedd ar fywyd y cymeriad enigmatig a ddaeth yn arwr Cymrieg, gan gynnwys ei gefndir a'i fagwraeth, ei yrfa, ei ddaliadau gwleidyddol a moesol, ei grefydd a llawer mwy. Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2007.
A comprehensive and revealing memoir of one of Wales's most prominent figures of the twentieth century. Every aspect of his life is examined perceptively and thoroughly, including his background and upbringing, his career, his political and moral principles, his religion and more. Book of the Year Short List 2007.
|
Anaml iawn y ceir dau gofiant i unrhyw wrthrych yn y Gymraeg. Yn Saesneg ceir yn aml nifer o gofiannau i’r un gwrthrych (bu cryn stŵr yn y wasg Lundeinig yn ddiweddar am ddau gofiant i John Betjeman, ac enghraifft fechan ydyw hwnnw), ond yma Na. Y mae nifer o gewri llên a chrefydd y bedwaredd ganrif ar bymtheg na chafwyd cofiannau diweddar iddynt, yn rhannol am fod rhywrai wedi’u coffáu yn union wedi’u marw, ond yn achos Saunders Lewis wele gofiant newydd sbon iddo lai nag ugain mlynedd ar ôl cyhoeddi o D. Tecwyn Lloyd gyfrol gyntaf ei Gofiant hirddisgwyliedig ef i SL (dair blynedd ar ôl ei farw), cyfrol a olrheinia’i fywyd hyd at ganol y dauddegau mewn tri chant a hanner o dudalennau. Gan Robin Chapman cawn fywyd SL i gyd mewn pedwar can tudalen. Dichon y dywedir bod Saunders Lewis yn ddyn o’r fath faintioli fel ei fod yn haeddu dau gofiant. Yn sicr, gan na welwyd ail gyfrol Tecwyn Lloyd, yr oedd gofyn am gofiant llawn iddo.
Pe na bai wedi llunio dim ond ei ragymadrodd, byddem yn ddwfn yn nyled Chapman: yno gesyd Lewis (chwedl yntau bob gafael) yn ei le fel beirniad esthetig a gwleidydd moesol a gafodd ddylanwad mor aruthrol ar haen bwysig o’r gymdeithas Gymraeg fel na ellir dadlau am na thraddodiad llenyddol na gwleidyddiaeth Cymru heb gyfeirio at ei syniadau a’i weithredoedd a’i ysgrifeniadau ef. Rhai od anghyffredin oeddynt, lawer ohonynt, od ac anghyffredin fel efe yn ei berson, fel y nodir yn y gyfrol drwyddi. Y gŵr athrylithgar hwn a oedd yn ŵyr i Owen Thomas Lerpwl, un o dywysogion mawr y Methodistiaid, a droes at Eglwys Rufain yn nawnddydd ei ddylanwad gwleidyddol ar Gymru Anghydffurfiol, yr Eglwys y bu’n fflyrtio â hi er ei ieuenctid, ac a’i gwnaeth yn ei fan yn Ben Marchog o Urdd Sant Gregori, ni allai fod yn ‘un ohonom,’ ys dywedir. Fel ŵyr i Dr Thomas yr oedd megis ar wahân; fel Pabydd yn llywyddu ar Blaid Cymru (fel y daethpwyd i’w nabod) yr oedd yn fwy neilltuedig fyth: eto erbyn ei henaint yr oedd yn Gristion yr oedd credu’n anodd ganddo, fel gan y rhan fwyaf o’i gyd-ddynion. Rhan ddoniol o ddifyr o lyfr Chapman yw’r trafod byr ar ei gerdd ‘Gweddi’r Terfyn’ a roes y fath fraw i Pennar Davies ac Aneirin Talfan Davies (tt. 370-372), a ddychrynodd am uniongrededd eu harwr. Ond y gwir amdani yw mai yn y darn barddoniaeth hwn am ymbalfaliad olaf pawb yn yr Angau y siaradodd SL huotlaf dros ei gyd-ddyn, oblegid fe rannodd ag ef brofiad sy’n brofiad dynol diwrthdro.
Casbeth fyddai dweud mai gambl iddo oedd mentro i Eglwys Rufain yn ddeugain oed. Ond gambl, heb os, oedd llawer o bethau iddo. Megis dod yn genedlaetholwr o Gymro. Gambl ddiystyr, yn ôl natur gambl, neu yn hytrach gambl ddiesboniad. Er gwyched y disgrifiad yn y gyfrol hon o flynyddoedd ffurfiannol y Saunders ifanc, nid yw’n gwbl eglur eto paham y dewisodd weithio yng Nghymru ac yna er mwyn Cymru. Ni charai hi fel yr oedd; yn bendifaddau ni charai’r Gymru gyfoes a ddehonglai ef iddo’i hun; a phrin y gellir meddwl bod yn y dehongliad angharedig hwnnw ddigon o hadau gobaith i beri i neb ymorol amdani. ‘ . . . mawr yw’r demtasiwn i roi’r ffidil yn y to a thewi am Gymru,’ meddai, t. 266. A gredodd erioed o gwbl y gellid gweddnewid y wlad a gasâi ef a’i throi’n Wrthffilistia Ddatddiwydiannol Gymraeg Berffaith? Go brin. Campus o draethiad yma yw hwnnw am ddefnydd Lewis o ‘iaith sagrafennol’ wrth drafod ei wleidyddiaeth, llosgi’r Ysgol Fomio yn achos Pennod 9, a champus yw’r dehongliad o’i anerchiad yn y Llys yng Nghaernarfon fel ‘ymarferiad mewn metaffuseg Gristnogol Aristotelaidd.’
Ceir yn y gyfrol drwyddi draw lawer o ddehongli call fel hyn: nodais ddehongliadau call ar dudalennau 231, 263-4, 276, 286-7, 298-290, 360 fel enghreifftiau. Ar dt. 286-7, beth a ddyfyd Chapman yw nad ‘seicolegu rhad yn hollol yw dweud i Blodeuwedd a’r dramâu a ddaeth yn ei sgil gyflawni ym mywyd Lewis yr hyn na allasai gwleidyddiaeth na newyddiaduraeth mo’i wneud. Cafodd boblogi ei Gymru ei hun a phennu tynged ei thrigolion.’ Doeth ac i’r dim. Yn yr un modd, ceir brawddegau na allaf bellach eu galw’n ddim ond brawddegau Chapmanaidd, lle dyry inni raeadr o resymau am bethau neu feddyliau yn llif rhethregol, tt. 119-120, er enghraifft, a 123, a 171-2, et cetera. Gwn nad yw rhestru tudalennau o lawer o iws i ddarllenydd adolygiad ar y we, ond siawns nad yw’r canmol ar y tudalennau hynny’n debyg o gyffroi’r darllenydd i chwilio am y gyfrol ac i chwilio am y darnau ardderchog hyn.
Y mae ambell lithriad yn y gyfrol: nid i Gadair Gymraeg Abertawe yr aeth T. J. Morgan yn 1951 eithr i Gofrestrfa Prifysgol Cymru; fel George (nid Francis) yr adwaenid Fisher, sefydlydd Theatr Fach Llangefni; a Wilbert nid Wilbur (er bod yna Wilbur eithaf amlwg)oedd Lloyd Roberts y cynhyrchydd drama. Ond cyfrol i’w hedmygu ydyw, ac i’w blasu am rwyddineb ei deall a rhyfyg (weithiau) ei disgrifiad. Ysgrifennodd Chapman eisoes gofiannau i W. J. Gruffydd ac i Ambrose Bebb a chyfrol ar ‘y dymer delynegol’ hwyr-Victorianaidd a oedd yn anathema gan y llenorion da hynny; y mae ei waith newydd ar Saunders Lewis yn ychwanegu’n fawr at ein hadnabyddiaeth angenrheidiol o’r genhedlaeth ddisglair honno a greodd y meddwl a’r dychymyg Cymreig yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.
Derec Llwyd Morgan
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|