Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Fyny Lawr
Meleri Wyn James
ISBN: 9781843237600 (1843237601)Dyddiad Cyhoeddi Rhagfyr 2006
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 196x129 mm, 320 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o Stoc - Archebir yn l y galw Ein Pris: £7.99 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Llyfr y Mis: Chwefror 2007
Nofel ysgafn sy'n adrodd helynt bywyd Judith Myfanwy Evans. Mae Erin, ei ffrind, yn ei pherswadio i fynd i'r clwb colli pwysau... a dyna sut y mae'n cwrdd â 'Huw Teifi', actor enwog yr opera sebon 'Pobol y Gwm'. Mae hyn yn ddechrau ar gyfres o ddigwyddiadau sy'n arwain at ddatgelu cyfrinach y mae Judith wedi ei chadw ar hyd y blynyddoedd...

A novel about the 'ups and downs' in the life of Judith Myfanwy Evans. Her friend Erin persuades her to join a slimming club where she meets 'Huw Teifi' the soap opera star of 'Pobol y Gwm'. Their subsequent relationship sets off a series of events that reveal a secret Judith has tried to keep for years...
Mae darllen nofel ddiweddara Meleri Wyn James yn brofiad tebyg i wrando ar sgwrs ffn led gyfrinachol rhwng dau ffrind, neu ddarllen e-bost neu decst y daethoch ar ei draws yn ddamweiniol. Ddylech chi ddim gwrando na darllen, ond mae min ir hyn sydd och blaen, a fedrwch chi ddim llai na gwneud hynny.

Mae Judith Myfanwy Evans yn gyndyn o fynychu clwb Tew Cymru i golli pwysau. Wrth ymuno, down iw hadnabod hi ai ffrindiau, trwy gyfrwng sgyrsiau, tecstiau, e-byst a Huw Teifi, actor gorjys Pobl y Gwm.

Mae Judith yn ferch i rieni traddodiadol Cymreig syn credu bod bolan gefn i ti ac syn ysu am drefnui phriodas. Cyfieithydd ir cwmni Chwarae ar Eiriau yw ei gwaith bob dydd. Llwyddar awdur i ganfod hiwmor or cefndir cyfarwydd hwn a symud y stori yn ei blaen wrth ei chyfuno ag ymddygiad annisgwyl Erin (ffrind) ar fam.

Cyfleir yr obsesiwn syn llenwi meddwl y sawl syn ymwybodol ei fod ar ddiet, ar fin mynd ar ddiet, neu newydd fethu ar ddiet, a hynnyn ddoniol ar adegau. Gallwn, yn hawdd, gamgymryd arweinydd twyllodrus y clwb colli pwysau am brifathrawes flin. Ei disgyblion ywr aelodau anwadal syn osgoi bwyta pwdin oherwydd eu bod wedi cael gwin ond eto i gyd yn mwynhau swper ffein llawn braster yn well na dim. Mister Pringles yw enwr gath hyd yn oed.

Nofel ysgafn yw hon, sydd eto i gyd yn dreiddgar a thywyll mewn mannau. Mae Meleri Wyn James yn giamstar ar y natur ddynol a chanddir ddawn i ddarlunior gorgyfarwydd mewn ffordd ddifyr. Hefyd down ar draws sgyrsiau mae pob merch wediu cael i ffrindiau gorau. Ond yng nghanol y gwirioneddau mawr, ceir dirgelwch ynghylch y cymeriadau au perthynas i gilydd, ar hyn maen nhwn ei feddwl o'i gilydd.

Llosgwch ychydig o galoraur Dolig wrth ddarllen hon; ond cliriwch eich cypyrddau or Pringles yn gyntaf, a rhowch eich gwydr lawr rhwng pob sip.

Sin Reeves

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Pedair Cainc y Mabinogi i ...
Alun Ifans
£3.99
Wynebau Cymru
Ann Sumner
£1.00
 
Prynwch
Ar y Lein Eto
Bethan Gwanas
£7.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch