Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Candi-Fflos
Jacqueline Wilson
ISBN: 9781843237754 (184323775X)Dyddiad Cyhoeddi Mai 2013
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Darluniwyd gan Nick SharrattAddaswyd/Cyfieithwyd gan Elin Meek.Addas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 198x130 mm, 366 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o brint Ein Pris: £6.99   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Dyw bywyd ddim yn rhwydd i Candi-Fflos. Mae ei rhieni wedi gwahanu ac mae Fflos yn byw gyda'i mam yn ystod yr wythnos ac yn mynd at ei thad yn ystod y penwythnos. Addasiad Cymraeg o Candyfloss. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 2007.

Life's not easy for Candi-Fflos. Her parent have split up and Fflos lives with her mother during the week and goes to her father's at the weekend. A Welsh adaptation of Candyfloss. Reprint; first published in 2007.
Mae Jacqueline Wilson wedi hen ennill ei phlwy fel un o’r awduron mwyaf poblogaidd sydd yn ysgrifennu i blant heddiw. Dyma gyfrol lwyddiannus arall i ychwanegu at ei rhestr.

Problemau teuluol o ryw fath yw cefndir y mwyafrif o lyfrau’r awdur yma ac yn y llyfr hwn mae’n delio â sawl thema gyfoes megis ysgaru, digartrefedd, bwlio a diffyg arian a hynny mewn ffordd gwbl realistig heb fod yn ddigalon o gwbl.

Mae partner newydd Mam wedi cael swydd newydd yn Awstralia a phroblem fawr Fflur – sydd wedi’i llysenwi'n Fflos – yw a ddylai hi fynd gyda hwy neu aros gyda'i thad yn ei fflat bychan, blêr, uwchben y caffi ble mae’n gweithio. Mae hi dipyn yn fain ar Dad – nid oes llawer o ofyn am ei fytis sglodion ac mae pres yn brin. Beth sydd am ddigwydd i’r ddau ohonynt? A fydd ganddynt do uwch eu pennau? Sut mae Fflos am ddelio gyda Rhiannon sydd i fod yn ffrind gorau iddi? A fydd yn rhaid iddi ddilyn ei mam i Awstralia wedi’r cwbl?

Mae yna ddigon o gyffro yn y stori hon i gadw diddordeb y darllenydd ac mae’r cyfan wedi’i addasu’n gelfydd gyda naws Gymreig gan Elin Meek.

Glenda Williams

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.


Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Dirgelwch yr Ogof
T. Llew Jones
£5.99
Mabin-Od-i, Y
Hilma Lloyd Edwards
£3.95
 
Prynwch
Cyfres Pen Dafad: Aminah ...
Gwyneth Glyn
£2.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch