Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Whap!: Angel Pen Ffordd
Sonia Edwards
ISBN: 9781843237792 (1843237792)Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2012
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Addas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 3 Fformat: Clawr Meddal, 196x126 mm, 128 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £2.00 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Nofel gyffrous am ysgol berfformio newydd. Mae Meleri, Anwen, Linda Jên ac Arwyn yn edrych ymlaen at lwyfannu'r sioe gyntaf - Angel Pen Ffordd. Tybed pwy gaiff pa ran? Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 2008.

An exciting novel set in a new drama school. Meleri, Anwen, Linda Jên and Arwyn look forward to stage the school's first musical - 'Angel Pen Ffordd'. How will the different parts be shared? Reprint; first published in 2008.
Llongyfarchiadau mawr ir awdur, Sonia Edwards, am lunio nofel sydd mor atyniadol i bobl ifanc. Braf iawn yw cael nofel wreiddiol mor ddarllenadwy yn Gymraeg.

Mae popeth sydd ei angen mewn nofel dda iw gael yn hon. Yn gefndir iddi mae byd y sioeau cerdd pwy gaiff actior brif ran? Dyma stori ddirgelwch gyda thipyn o antur a chyffro a fyddech chin fodlon mentro allan i dŷ gwag yn y tywyllwch er bod ysbryd yno? Pwy sydd eisiau rhoir tŷ ar dn? Dyma stori ddigon doniol ar adegau, yn enwedig anturiaethau Wilff y ci yn bwytar hosan! A dyna i chir stori garu, pwy mae Arwyn yn ei ffanso? Beth syn digwydd rhwng Moelwyn ac Enfys?

Mae holl ing a theimladau bod yn eich arddegau yma y gall bob person ifanc uniaethu nhw, or cochi ar ffrindiau, i fechgyn a rhieni yn codi cywilydd arnoch. Mae hin sicr yn nofel syn darllen ac yn llifon hawdd (diolch yn bennaf i benodau byr a stori afaelgar). Maer iaith ynddi yn gref a chyhyrog ond yn gyfoes iawn, ac yn siŵr o ehangu geirfa roeddwn in hoff iawn or holl gnawes, jadan, a jolpan. Efallai fod y diweddglo yn rhy ffuglennol o hapus, a bod cymeriad y prifathro braidd yn ystrydebol, ond dyma yn sicr nofel berffaith ir rhai dros 11 oed.

Gwenllan Dafydd

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Chwaer Fawr Blodeuwedd
Sian Northey
£5.95
 
Prynwch
Cyfres Nofelau i'r ...
Gwen Lasarus
£3.95
 
Prynwch
Cyfres Pen Dafad: Ceri Grafu
Bethan Gwanas
£2.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mam - Cerddi gan Famau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Talk Welsh
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Plant
Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
£5.99
 
Prynwch