Peryglon ‘Hwdlyms’ CasnewyddBlas ar fywyd yn ninas Casnewydd, cyffuriau a’r hyn sy’n cyffroi pobl ifanc heddiw yw cefndir
Blas Cas, nofel gyntaf Ion Thomas, athro Cymraeg yn Ysgol Gyfun Gwyllyw, Pontypŵl. Blas y de-ddwyrain welir yn y llyfr hwn yng nghyfres Whap! a gyhoeddir gan Wasg Gomer, ond mae’r awdur ei hun yn hanu o Gaerfyrddin yn y de-orllewin. Gyda thwf aruthrol ysgolion Cymraeg y de-ddwyrain, gall eu disgyblion yn arbennig uniaethu â chynnwys a thafodiaith y stori hon a lleoedd fel Rodney Parade a Chanolfan Glanyrafon.
Mae’r awdur Ion Thomas hefyd yn gyfarwydd iawn â Rodney Parade oherwydd clywir ei lais yn aml ar Radio Cymru fel sylwebydd rygbi. Mae’r gêm hefyd yn chwarae rhan yn
Blas Cas wrth i’r prif gymeriad, Dafydd, gael ei ddanfon o’r cae rygbi wythnos cyn iddo chwarae dros y sir! Roedd mor gryf ac egnïol ond ai bai y cyffur roedd e’n ei dreialu oedd hynny? Mab i wyddonydd oedd Dafydd ac fel sawl un arall roedd wedi cytuno i gymryd rhan mewn arbrawf i dreialu cyffur newydd sbon. Dyma sydd wrth wraidd yr helynt a’r cyffro yn y ‘thriller’ hwn i ieuenctid.
Beicwyr mewn hwdis ar y strydoedd yn herio cyfraith a threfn “ ‘Odd e’n mega ffyni,’ dechreuodd Pete adrodd yr hanes wrth ei gynulleidfa. ‘Weles i fe’n smaco mewn i’r cyrb ac yn smasho drwy’r ffenest. Cyfle gwych i smash and grab! We hei! Bingo! Gawson ni loads o stwff.” Dyma hwdlyms Casnewydd a’u hiaith fratiog ond pobl hŷn, cyfrwys â’u chwant barus i gael eu dwylo ar y cyffur newydd er eu lles ariannol eu hunain, yw’r perygl mwyaf yn
Blas Cas.
Gwrthdaro â rhieni, cael eich diarddel o’r ysgol ac ymgyrchu dros yr iaith yw rhai o’r themâu eraill sy’n dod i’r brig yn
Blas Cas.
Mae copi braille a phrint bras o'r llyfr yma ar gael i'w fenthyg gan RNIB Cymru. Cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth Hygyrch RNIB Cymru ar 029 2045 0440 neu
gwybodaethhygyrchcymru@rnib.org.uk am fwy o wybodaeth.