Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cerddi'n Cerdded
Gwyneth Glyn
ISBN: 9781843238034 (1843238039)Dyddiad Cyhoeddi Ebrill 2008
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Darluniwyd gan Mary KilvertAddas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 245x164 mm, 32 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Pris Llawn: £4.99 
Ein Pris: £2.49 
Rydych yn Arbed: £2.50 (50.1%) 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Casgliad o gerddi gan Gwyneth Glyn, cyn Fardd Plant Cymru, wedi ei ddarlunio'n lliwgar.

A collection of poems by Gwyneth Glyn on a variety of themes.
Rwy’n cael yr argraff bod cyfrolau o gerddi Cymraeg i blant yn dod yn fwyfwy poblogaidd y dyddiau hyn, ac mae’n debyg mai i swydd gymharol newydd Bardd Plant Cymru y mae’r diolch am hynny. Mae barddoniaeth yn gyfrwng sy’n gweddu i’r dim i ddarllenwyr ifanc – yn gryno, yn gofiadwy ac yn wych i’w chlywed ar lafar – ac mae cerddi Gwyneth Glyn yn y gyfrol hon yn enghraifft ragorol o hynny.

Efallai fod y themâu a’r lluniau’n llawn asbri, ond o ddarllen y cerddi ar goedd maent yn gyflwyniad gwerth chweil hefyd i’r hwyl sydd yna i’w chael gydag odlau a chyflythrennu a chyda sain geiriau yn gyffredinol. Pa well prentisiaeth i feirdd ifanc na darllen am y ‘cnonod yn y nionod’ (o’r gerdd ‘Pry Pric yn y Picnic’) neu wrando’n astud ar gampau geiriol ‘Datgymalu Cylymau Cymylau’?

Hoffech chi flas ar yr arlwy sydd rhwng y cloriau? Wel, dylai fod rhywbeth at ddant pawb yma: cerddi ‘neis’ fel y rhai am y babi newydd a dweud gair o ddiolch cyn mynd i gysgu; cerddi amserol yn trafod gwarchod yr amgylchedd a thecstio; ambell gerdd hir sy’n adrodd stori; ac un gerdd â chlamp o air mawr pwysig yn deitl iddi – ‘Hunaniaeth’! Mae ’na hyd yn oed elfen o ddychan yn rhai o’r cerddi. Wedi’r cyfan, efallai mai cyfrol o gerddi newydd i blant yw hon, ond mae hi’n rhan o draddodiad hwy o lawer!

Nia Peris

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Caneuon Hwyl a Sbri i Blant
 
£8.99
 
Prynwch
Hwyl y Ddawns Werin/Fun ...
Eddie Jones
£12.00
 
Prynwch
Sali Mali (DVD) (DVD092)
 
£5.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mam - Cerddi gan Famau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Talk Welsh
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Plant
Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
£5.99
 
Prynwch