Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Merch o dan Ddaear
Morris Gleitzman
ISBN: 9781843238423 (184323842X)Dyddiad Cyhoeddi Mai 2008
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Elin Meek.Addas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 3 Fformat: Clawr Meddal, 196x128 mm, 208 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Pris Llawn: £4.99 
Ein Pris: £2.00 
Rydych yn Arbed: £2.99 (59.9%) 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Stori am gyfeillgarwch a dewrder wrth i Bridget fynd ati gyda'i ffrind newydd i geisio rhyddhau ffoadur o Afghanistan o'r gwersyll creulon. Dyma ddilyniant i Bachgen yn y Môr. Addasiad Cymraeg o Girl Underground.

Bridget sets out to free Jamal, the refugee from Afghanistan held in a detention centre. A sequel to Bachgen yn y Môr. A Welsh version of Girl Underground.
Nofel yw Merch o dan Ddaear sy'n adrodd hanes Bridget White wrth iddi geisio derbyn ei chefndir teuluol. Mae ei rhieni, sydd chefndir eithaf brith, eisiau bywyd gwell iw merch ac yn ei hanfon i ysgol breswyl orau Awstralia. Er ei hofn y bydd ei chyd-ddisgyblion yn dod i wybod am gefndir troseddol ei theulu, mae Bridget yn dod yn gyfeillgar bachgen or enw Menzies. Mab i Weinidog yn y Llywodraeth yw Menzies sydd diddordeb mawr yn nhrafferthion truenus y ffoaduriaid syn dianc i Awstralia ac yn cael eu dal mewn canolfannau cadw. Gydai gilydd mae Bridget a Menzies yn penderfynu ceisio newid tynged dau or ffoaduriaid, plant or enw Jamal a Bibi, er nad yw hyn wrth fodd tad Menzies nar Prif Weinidog ac mae hyn yn eu harwain at sawl antur.

Cryfderaur nofel hon yw ei bod yn llawn cyffro, yn gyfoes ac yn sensitif iawn yn ei hymdriniaeth phwnc llosg gwleidyddol. Serch hynny, er bod testun y nofel yn berthnasol i ni yng Nghymru a bod ei harddull yn naturiol, nid ywn bosibl anghofio wrth ei darllen mai addasiad ywr nofel hon ai bod wedi ei chyhoeddin wreiddiol yn Awstralia. Efallai fod tueddiad hefyd i or-symleiddio cefndir da a drwg y cymeriadau mewn nofel sydd wedi ei hanelu at arddegwyr yn hytrach na phlant ifanc.

Wedi dweud hynny, mae hon yn nofel gyffrous syn llwyddo i ddal sylwr darllenydd ac yn sicr o apelio at unrhyw berson ifanc syn mwynhau stori am gyfeillgarwch ac antur.

Sioned Jones

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
What's the Word ...
 
£6.99
 
Prynwch
Dan Leuad Llŷn
Penri Jones
£5.95
 
Prynwch
Powdwr Rhech!
Eirug Wyn
£3.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Esgyrn
Heiddwen Tomos
£8.99
 
Prynwch
Saesneg
Red Hearts and Roses? - ...
Rhiannon Ifans
£10.99
 
Prynwch
Plant
Natur Ych a Fi
Carol Barratt
£7.99
 
Prynwch