Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Artemis Gwarth
Eoin Colfer
ISBN: 9781843238430 (1843238438)Dyddiad Cyhoeddi Mehefin 2008
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Catrin Dafydd.Addas i oed 9-11+ neu Cyfnod Allweddol 2/3 Fformat: Clawr Meddal, 196x128 mm, 336 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o brint Pris Llawn: £6.99 
Ein Pris: £2.00 
Rydych yn Arbed: £4.99 (71.4%)   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Mae gan y dihiryn deuddeg mlwydd oed, Artemis Gwarth, gynlluniau troseddol dyfeisgar iawn. Dyma stori o gyffro, herwgipio, brwydro a chwedloniaeth. Addasiad Cymraeg o Artemis Fowl.

A Welsh version of Artemis Fowl, in which the twelve-year-old villain is the most ingenious criminal mastermind in history.
Disgrifir digwyddiadaur nofel hon fel pantomeim arallfydol gan un or cymeriadau sydd o fewn ei thudalennau ac ni allaf feddwl am grynodeb gwell ohoni. Yma cawn hanes y bachgen-ddihiryn Artemis Gwarth sydd i fryd ar adennill ffortiwn teulur Gwarthiaid wedi diflaniad ei dad. Mae gan Artemis gynllun mileinig i ddwyn trysor y tylwyth teg ac yn sicr mae ganddor ymennydd athrylithgar a fyddain gallu twyllor mwyafrif. Er ei fod yn llwyddo i gyfieithu beibl y tylwyth i ddarganfod llawer ou cyfrinachau, nid ywn gwbl barod am yr hyn sydd yn ei ddisgwyl wrth iddo gymryd y Capten Heulwen Pwyll yn wystl. Yng nghanol y cyffro ar erchylltra syn digwydd ym Mhlastyr Gwarth wrth i ni gwrdd r gorau ar gwaethaf or is-fyd, gwelwn hefyd bwysigrwydd teulu a ffyddlondeb yng nghanol hunanoldeb ac uchelgais. Mae gan hyd yn oed ddrwgweithredwr fel Artemis Gwarth deimladau ...

Tipyn o gyfrifoldeb yw cyfieithu nofel sydd wedi gwerthu yn ei miliynau o amgylch y byd ac wedi esgor ar sawl nofel ddilynol. A bod yn onest, doeddwn i ddim yn gyfarwydd r bachgen-droseddwr Artemis Gwarth nac Artemis Fowl cyn darllen y nofel hon, ond gallaf ddweud m llaw ar fy nghalon ei bod yn nofel gyffrous a gwreiddiol syn dal sylwr darllenydd oi dechrau hyd at ei diwedd. Yng nghanol y dyfeisiadau technolegol gwych, y cynllwynio, yr ymladd ar antur, i mi, maer gwir gyffro wrth i ni ddarganfod nad yw popeth yma fel maen ymddangos ac nad ywr llinell rhwng da a drwg bob amser yn eglur. Er mai creaduriaid hud a lledrith ywr mwyafrif or rhai yr ydym yn cwrdd hwy yma, maent yn gymeriadau y byddwn in falch o ddarllen llawer mwy amdanynt. A dymar rheswm, mwy na thebyg, am lwyddiant y gwreiddiol ar nofelau sydd wedi ei dilyn yn Saesneg.

Prif lwyddiant yr addasiad yw ei bod yn hawdd credu mai yn y Gymraeg yr ysgrifennwyd y nofel yn gyntaf, gydar iaith dechnolegol, yr enwau ar lleoliadau yn taro deuddeg ar cyfan yn darllen yn rhwydd iawn. Efallai mai nofel i blant ydy hi ond mae hon yn nofel a fyddain apelio at ddarllenwyr syn hoffi cyffro, antur ac ychydig o hud a lledrith, beth bynnag fou hoedran!

Sioned Jones

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Cwm Teg (DVD083)
 
£5.99
 
Prynwch
Hwrê! Mae 'Na Hipo'n ...
Sonia Edwards
£3.95
 
Prynwch
Cyfres Cymêrs Cymru: ...
 
£5.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch