Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Wythnos yng Nghymru Fydd
Islwyn Ffowc Elis
ISBN: 9781843238621 (1843238624)Dyddiad Cyhoeddi Mehefin 2007
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £8.99 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Argraffiad newydd o glasur Islwyn Ffowc Elis sy'n sôn am Gymru fel y gallai fod yn y flwyddyn 2033. Mae'n dathlu hanner canmlwyddiant ers cyhoeddi'r nofel. Cynhwysir rhagair newydd gan y newyddiadurwr a'r llenor Dylan Iorwerth yn ogystal â chlawr newydd.

A new edition of Islwyn Ffowc Elis's classic Welsh novel which portrays Wales as it could be in the year 2033. Includes a new foreword by Dylan Iorwerth.
Er i’r nofel hon gael ei chyhoeddi gyntaf ym 1957, mae’n sicr yn stori sy’n cydio yn nychymyg y darllenydd o’r dechrau, a hynny hanner can mlynedd yn ddiweddarach. Gwir yw nodi fod rhai o’r syniadau sydd i fod i ymddangos yn fodern ac anghredadwy yn ymddangos yn henffasiwn erbyn heddiw, ond wrth gofio'r cyfnod yr ysgrifennwyd hi, mae yna rywsut fwy o hud a chlyfrwch yn perthyn i’r stori.

Heb ddatgelu gormod, stori am Ifan Powell yn neidio o’r flwyddyn 1956 i’r flwyddyn 2033 ydyw hon, gyda chymorth Dr Heinkel a’r elfen K. Drwy ddefnyddio’r trydydd dimensiwn, â Ifan o Gymru lwfr, Brydeinig, draddodiadol y cyfnod i Gymru Rydd ddelfrydol. Nid oes dim o’i le ar y wlad annibynnol hon, o’r bwyd a’r gerddoriaeth i’r ffyrdd y cosbir troseddwyr. Gyda chymorth teulu Llywarch, caiff Ifan Powell ei hebrwng drwy Gaerdydd a Chymru gyfan i weld ffermydd, chwareli a glofeydd cymunedol a llwyddiannus y wlad. Mae pob golygfa yn odidog ac nid oes brys ar Ifan i ddychwelyd, yn enwedig ar ôl cyfarfod Mair Llywarch. Ond nid yw’r siwrne’n fêl i gyd pan ddaw wyneb yn wyneb ag arweinyddion cas y Crysau Porffor sydd am weld Cymru'n rhan o Brydain unwaith eto. Maent yn benderfynol y bydd Ifan yn eu cynorthwyo i wneud hynny, boed hynny o’i wirfodd neu beidio.

Mae’n rhaid i Ifan ddychwelyd i’w oes ei hun yn fuan, er y carai ef aros yn y Gymru Rydd. Wedi ychydig o amser yn ôl yn 1957, penderfyna ei fod eisiau dychwelyd i 2033 er gwaethaf rhybuddion Dr Heinkel am y peryglon. Wrth geisio mynd yn ôl i’r flwyddyn 2033 am yr ail dro, â pethau o chwith i Ifan. Yma gwelwn wrthgyferbyniad llwyr â’r Gymru ddelfrydol, heddychlon a brofodd Ifan ar ei ymweliad cyntaf. Nid Cymru ydyw’r wlad bellach, ond Lloegr Orllewinol. Dyma ddarlun hollol wahanol i’r Gymru Rydd welodd ef gynt; cyferbyniad sy’n ddigon i godi ias. Mae’r iaith Gymraeg wedi marw ac mae Cymru erbyn hyn yn lle erchyll i fyw ynddo gyda chriwiau megis y platoons yn gwneud i’r crysau porffor edrych yn heddychlon.

Mae’n amlwg wrth ddarllen y nofel heddiw mai nofel o bropaganda cenedlaetholgar y cyfnod yw hon, ac nid yw Islwyn Ffowc Elis yn ceisio celu hynny. Mae cyflwyniad newydd Dylan Iorwerth yn cyfoethogi’r darlleniad, ac yn amlygu cysyniadau difyr iawn. Dyma nofel a wna i chi grio, chwerthin, gwenu a gobeithio – er nad yw rhai o’r syniadau pellgyrhaeddol yn ymddangos mor amhosib erbyn heddiw.

Lowri Mair Jones

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.


Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Ysgrifau Beirniadol XVI
 
£8.50
 
Prynwch
Cyfres yr Academi:2. ...
André Gide
£1.00
Ffair Gaeaf a ...
Kate Roberts
£5.00
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Cyfres y Dderwen: Rhywle ...
Sonia Edwards
£5.95
 
Prynwch
Saesneg
Library of Wales: ...
W. H. Davies
£8.99
 
Prynwch