Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Trên Mawr GlasJulia Jarman Gweld rhagor o deitlau gan 'Julia Jarman'
ISBN: 9781843238843 (1843238845)Dyddiad Cyhoeddi Hydref 2007
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Darluniwyd gan Adrian ReynoldsAddaswyd/Cyfieithwyd gan Sioned Lleinau.Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1 Fformat: Clawr Meddal, 290x250 mm, 32 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £4.99 
Trên Mawr Glas
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Llyfr stori-a-llun hwyliog am griw o anifeiliaid sy'n mynd ar antur mewn trên arbennig. Addas i blant dan 7 oed. Cyfieithiad o'r gyfrol Saesneg, 'Big Blue Train'.

A story in which animals go on an adventure in a big blue train. Suitable for readers aged under 7 years. A Welsh translation of 'Big Blue Train'.
Dyma lyfr mawr 30 tudalen sy'n gwahodd y plentyn i ddod ar y trên mawr gyda Cadi a Cai i barti ar y traeth. Mae'n daith gyffrous a charlamus. Gadael yr orsaf yn gynta ac yna mynd ar frys gwyllt i'r parti pen blwydd sy'n cychwyn am dri. Ar y ffordd, caiff Cadi a Cai gwmni pws, arth, llewpart, dau fwnci, iâr, buwch a chamel wrth iddynt wibio drwy Begwn y Gogledd, y jyngl, fferm a'r anialwch, cyn cyrraedd parti'r ci bach tair oed ar lan y môr. Mae'n antur ryfeddol wrth i bawb geisio gwasgu ar y trên.

Mae'r llyfr wedi'i drosi yn raenus iawn o'r Saesneg. Mae'r odlau yn gwbl naturiol ac yn llwyddo i greu gwefr anhygoel wrth i'r stori gael ei hadrodd. Dyma lyfr hynod o liwgar a deniadol a fyddai'n anrheg hyfryd i blentyn rhwng tair a phump oed. Ac am bum punt namyn ceiniog mae'r daith ar y trên yn werth pob ceiniog!

Sarah Down

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.


Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Wil Cwac Cwac (Cdr112)
 
£17.35
 
Prynwch
Tablau a Rhifo (CD)
 
£8.99
 
Prynwch
Straeon Hud a Lledrith / ...
Iwan John
£4.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Prynwch
Saesneg
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Prynwch