EICH BASGED
EWCH I...
CYSYLLTIADAU
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Dauwynebog |
| Awdur: Ceri Wyn Jones Gweld rhagor o deitlau gan 'Ceri Wyn Jones'
|
| ISBN: 9781843238898 (1843238896) |
Dyddiad Cyhoeddi Ebrill 2008
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul |
| Fformat: Clawr Meddal, 215x140 mm, 78 tudalen |
| Ar gael |
Does dim Ymatebion Darllenwyr i'r teitl hwn.
|
| | |
|
|
| |
|
|
|
Ein Pris:
£7.99
|
|
Casgliad cyntaf o gerddi i oedolion gan y Prifardd o Aberteifi. Yn cynnwys yr awdl 'Gwaddol' a enillodd iddo Gadair Eisteddfod Genedlaethol y Bala, 1997. Ail argraffiad; cyhoeddwyd gyntaf Hydref 2007.
A collection of poems from a well-known poet from Cardigan. Including the poem 'Gwaddol', which won him the Chair at Bala National Eisteddfod, 1997. Second edition; first published in October 2007.
|
|
Bu cryn edrych ymlaen at hon, sef cyfrol gyntaf o gerddi (ar gyfer oedolion) Ceri Wyn Jones. Bydd pawb sy’n cymryd y diddordeb lleiaf ym myd cerdd dafod yn gwybod yn iawn eisoes mai Ceri Wyn yw un o feistri cyfoes y grefft honno. Doedd dim angen iddo gyhoeddi cyfrol i brofi hynny i neb; ond dyna a wnaeth, a thrwy hynny gadarnhau’r farn honno.
Y perygl mewn adolygiad byr fel hwn yw dyfynnu’n rhy helaeth gan mor loyw yw’r grefft a’r mynegiant. Ceisiaf osgoi hynny os yn bosib!
Pam Dauwynebog? Un o’r themâu amlycaf yn y gyfrol yw’r ymdriniaeth â’r newidiadau cymdeithasol ac ieithyddol sy’n digwydd o’i gwmpas yng ngodre Ceredigion, a’i ymateb yntau i’r newidiadau hynny. Mae’n cyfaddef ei fod yn egwyddorol gadarn yn ei gerddi ac yn ei stydi; mater arall, wrth gwrs, yw ymateb yn ymarferol i sefyllfaoedd penodol. Er enghraifft, pan fydd Saesnes mewn parti yn dweud wrtho am beidio siarad Cymraeg mae’n
. . . rhegi’r wraig eger hon
yn nhawelwch fy nghalon;
rhegi, a mynd i’m cragen,
casáu gyda hances wen.
(Dial)
Eto i gyd, mae’n cyfaddef fod yna ddycnwch rhyfeddol gan y Cymry o hyd, ac mae’n dathlu’r ffaith honno hefyd.
Yn ei gerddi ac englynion sy’n ymwneud ag Iwerddon a hanes cythryblus yr ynys honno, mae yna ddeuoliaeth arall. Mae’n dod wyneb yn wyneb â hanes treisgar y wlad yn aml, er mai mewn ffyrdd anuniongyrchol y digwydd hynny – mewn cyngerdd, neu yng ngeiriau myfyriwr ifanc sy’n adrodd yr hanes yn amgueddfa Kilmainham:
brawddegau o glwyfau gwlad
yn yr adrodd yn ffrwydrad
(Cymwynaswr)
Wrth ymateb i hyn i gyd mae’r bardd yn profi dau emosiwn; cyffro ac ofn. Ac, wrth gwrs, mae’r hanes mor wahanol i hanes ei wlad ei hun.
Dewisodd y bardd hefyd gyfosod dwy gerdd wahanol iawn i’w gilydd yn y gyfrol, sef ‘Cywyddau Cyhoeddus’ ac ‘RS’. Mae’r cywydd cyntaf yn dathlu adfywiad y gynghanedd a’r nosweithiau hwyliog o ddarlleniadau cyhoeddus; nosweithiau ‘real yobs y gynghanedd’. Tra bo’r ail yn dathlu athrylith wahanol R. S. Thomas a’i ‘delyneg eger’. Mae elfen o chwilio am y fonllef o gymeradwyaeth yn rhy hawdd yn y darlun cyntaf, a chydnabod nad dyna oedd bwriad R.S. – o gwbl – yn yr ail. Yn ‘RS’ mae’r bardd yn cyfaddef peryglon y canu poblogaidd er mwyn ennyn ymateb yn y fan a’r lle, sy’n gallu creu canu arwynebol a disylwedd.
Gan ei fod yn ymwybodol o hynny, ac oherwydd ei ddawn anghyffredin, nid oes peryg o gwbl i hynny ddigwydd yn y gyfrol arbennig hon.
Dafydd John Pritchard
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Bywgraffiad Awdur: Ganed Ceri Wyn Jones yn Welwyn Garden City, Swydd Hertford ond derbyniodd ei addysg yn Ysgolion Cynradd Cilgerran ac Aberteifi; Ysgol Uwchradd Aberteifi a Choleg Prifysgol Cymru Aberystwyth.
Enillodd gadair yr Eisteddfod Ryngolegol yn 1990, Cadair Eisteddfod yr Urdd ym Mro Glyndŵr yn 1992 a Chadair yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meirion yn 1997.
Bu’n athro Saesneg yn Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi am dros 12 mlynedd. Treuliodd flwyddyn fel Bardd Plant Cymru rhwng 2004-5.
Yn ogystal â chyhoeddi’r gyfrol i blant Dwli o Ddifri mae hefyd wedi cyfrannu at flodeugerddi eraill ar gyfer plant, yn cynnwys Ar Hyd y Flwyddyn, Gwlad y Dreigiau a Byd Llawn Hud (enillydd Gwobr Tir na n-Og.)
Ef oedd addasydd y llyfrau stori-a-llun Barti a Bel yn Crwydro Cymru a Barti a Bel ar Goll Mewn Llyfr.
Yn 2007 enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru ar y cyd ag Einir Dafydd, gyda’r gân ‘Blwyddyn Mas’.
Mae’n golofnydd selog i Barddas a phapur newydd y Teifi-seid.
Mae’n byw yn Aberteifi gyda’i deulu, ac yn gweithio fel golygydd llyfrau Saesneg i oedolion yng Ngwasg Gomer.
Mae'n un o dîm barddoni y Taeogion, gyda Tudur Dylan Jones ac Emyr Davies.
Mae’n aelod o gorau Cywair ac Ar ôl Tri. Gwybodaeth Bellach: Ddeng mlynedd wedi iddo ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala, mae’r Prifardd Ceri Wyn Jones newydd gyhoeddi ei gasgliad cyntaf o gerddi i oedolion.
Cerddi cynganeddol, fwy na heb, sydd yn ei gyfrol Dauwynebog, yn amlygu ei ymlyniad angerddol at fesurau’r englyn a'r cywydd. Ac os oes rhai'n holi pam nad oes mwy o amrywiaeth o ran ffurf yn y gyfrol, ei gwestiwn syml o ateb yw ‘Sneb yn gofyn i glarinetydd pam nad yw e'n canu'r trombôn, oes e?!’
Bydd nifer o bobl am wybod hefyd pam fod Ceri wedi aros deng mlynedd ar ôl iddo ennill y gadair cyn cyhoeddi ei gyfrol gyntaf? Meddai, dan chwerthin ‘Dwi’n falch mewn ffordd mod i wedi oedi cyhyd cyn mentro…rwy wastad yn meddwl taw’r peth gorau i fi ei sgrifennu yw’r hyn dwi newydd ei wneud ac yn aml dwi’n edrych nôl ac yn cywilyddio o weld rhai o’m hen gerddi mewn print!’
Roedd y flwyddyn enillodd Ceri’r Gadair yn 1997 yn flwyddyn hanesyddol mewn sawl ffordd: refferendwm dros y Cynulliad, marwolaeth y Fam Theresa a marwolaeth Diana. Bu’r ddeng mlynedd ers hynny yn gyfnod o newid byd i Ceri yn bersonol hefyd – fe briododd, fe fagodd deulu; fe newidiodd swydd. Drwy’r cyfan oll, bu’n ymarfer ei grefft fel bardd y canu caeth.
Yn ei englyn i’r Gynghanedd, dywed y bardd:
Oherwydd nad oes mo’i thorri, na modd, mi wn, i’w meistroli, pan ganaf fe weithiaf i adenydd o’i chadwyni.
Nid yw trwch y cerddi yn Dauwynebog wedi ymddangos mewn print o’r blaen – mae nifer ohonynt yn newydd sbon danlli, eraill yn fersiynau diwygiedig o gerddi a weithiwyd at ddibenion penodol. Cynhwysir hefyd rai o’r cerddi hynny mae Ceri’n eu perfformio wrth deithio’r wlad yn diddanu amrywiol gymdeithasau a chynulleidfaoedd, sy’n gerddi mwy bachog a thafod-mewn-boch yn aml.
Meddai yn y gyfrol:
Pe na bai am gynghanedd, Y sain a’r groes a’r draws, Fe fyddai gwneud englynion Jyst lôds yn blydi haws!
Yn ôl Alan Llwyd yn ei adolygiad yn Barddas ‘Gwyddem yn 1997, a chyn hynny, fod llais newydd, cyffrous wedi cyrraedd. Mae’r llais hwnnw bellach wedi cyrraedd ei lawn aeddfedrwydd…Dyma waith gwir feistr, ac ni allaf gymeradwyo’r gyfrol ddigon.’
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
|
|