|
Cyfrol deyrnged i ddathlu cyfraniad sylweddol Yr Athro Hywel Teifi Edwards i fyd llenyddol, ysgolheictod a hanes Cymru. Dewisodd sawl cyfrannwr, yn ddigon naturiol, fwrw eu sylw ar y bedwaredd ganrif ar bymtheg - y ganrif fwyaf, yn llygaid yr athro. Ceir hefyd ysgrif-bortread ohono, detholiad o luniau personol, a thair cerdd newydd i'w gyfarch.
A collection of articles written by some of Wales's most prominent scholars and writers as a tribute to the work of Prof. Hywel Teifi Edwards.
|
|
Gan dderbyn y dybiaeth ddychmygus fod pawb ohonom, yn rhinwedd ein natur a’n personoliaeth, yn perthyn nid yn unig i’r oes y’n ganed iddi ond yn perthyn hefyd i oes arall, gellir dweud yn ddibetrus mai Oes Victoria yw ail oes Hywel Teifi Edwards. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, lle bynnag y cariai’r gerbydres ef, gyda’i egni Brunelaidd, areithiai’n hir mor hyglyw a di-gloc â Gladstone mewn pafiliynau difeicroffon gerbron cynulleidfaoedd mwstashog a glawlennog, ar bopeth o symbolaeth regalia’r Orsedd hyd at delynegion Ceiriog; ar wibdaith i’r Palas Grisial mynnai’r crymffast ynddo dreulio’r prynhawn yn y Neuadd Wen mewn ymladdfa ddyrnog gyda Ralph Lingen, yr atgasaf o awduron Llyfrau Gleision 1847; a gartref yn ei Geredigion hoff fe geisiai sicrhau mai i Aberystwyth y deuai’r Llyfrgell a’r Amgueddfa Genedlaethol newydd. Cawr i’w genedl yn wir, ys myn teitl y gyfrol gyfarch hon a’i mawryga (er nad da ganddo ef mo’r epithet).
Fel y gellid disgwyl, yr hyn a geir yn y gwaith hwn yw erthyglau ar bethau a phobl y traethodd HTE arnyn nhw a’u tebyg yn ystod gyrfa gynhyrchiol hir ysgolheigion, eisteddfodau ac eisteddfodwyr, beirdd, pregethwyr, gweision sifil a’u seicoleg, celfyddydwyr. Ceir ynddo hefyd dair cerdd fawl iddo, portread ardderchog ohono gan y naill olygydd, a’i lyfryddiaeth yn llawn gan y golygydd arall.
Am fod y gorffennol mor fawr a chilfachog a phoblog, y mae’n anochel o hyfryd y cawn mewn gweithiau fel hyn gyfarfod o’r newydd â dieithriaid difyr, neu ddynion o arwyddocâd sy’n rhannol ddieithr, cywion Edward Lhuyd, er enghraifft, John Jones Llangollen, G. G. Francis Abertawe, T. H. Thomas (Arlunydd Penygarn), a ddaw’n fyw bob un yn y gyfrol hon. Cawn hefyd ddeongliadau newydd o fywyd a gwaith pobl wir enwog: os caf ddatgan hynny, y ddwy erthygl y cefais i’r blas mwyaf oll arnynt yw erthygl goeth a gwâr Prys Morgan ar y trisais a luniodd y Llyfrau Gleision ac erthygl synhwyrfawr Christine James ar dirluniau Gwenallt. Y mae cywydd Peredur Lynch i’r 19eg ganrif yntau’n wir gofiadwy.
Un nodyn personol arall. Yr oedd fy mam yn aelod o ddosbarth allanol Hywel Teifi yng Nghwmllynfell. Yn garedig iawn, byddai ef yn ei chodi wrth y bus-stop ar waelod Cefnbrynbrain ac yn ei chludo i’r dosbarth yn ei gar. Unwaith, fe dorrodd y car i lawr cyn iddo’i chyrraedd hi. Yr wythnos wedyn, O, fe gafodd y car hi! ‘Pam ddiawl oedd yn rhaid i mi brynu car sy’n torri i lawr o flaen capeli? Pam ddiawl na f’aswn i wedi ca’l car sy’n torri i lawr o fla’n tafarne? ac yn y blaen ac yn y blaen. Yn feirniadol yr adroddai Mam am y rhegi, ac ni faliai lawer am gyfeiriad yr athro at y dafarn chwaith. Buasai wrth ei bodd yn lân fod ar glawr Cawr i’w Genedl bortread o Hywel y blaenor yn ei gapel! Enough said.
Derec Llwyd Morgan
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|