Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig   English  
Gwybodaeth Lyfryddol
Cynhaeaf Hanner Canrif – Gwleidyddiaeth Gymreig 1945-2005
Awdur: Gwilym Prys Davies
Gweld rhagor o deitlau gan 'Gwilym Prys Davies'
ISBN: 9781843239420 (1843239426)
Dyddiad Cyhoeddi Mehefin 2008
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 215x140 mm, 180 tudalen
Ar gael 
Does dim Ymatebion Darllenwyr i'r teitl hwn.
 
 
Cynhaeaf Hanner Canrif – Gwleidyddiaeth Gymreig 1945-2005
Ein Pris: £8.99 
Darlun dadlennol a diddorol o wleidyddiaeth Gymreig rhwng 1945 a 2005 a hynny drwy lygaid un o wleidyddion pwysicaf y cyfnod hwnnw. Ceir yma bwyso a mesur gyfraniad Goronwy O. Roberts, James Griffiths, Cledwyn Hughes, George Thomas, John Morris, Ron Davies ac eraill. Sonnir am hanes sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a rhoddir sylw i gyfraniad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

A revealing and interesting account of Welsh politics between 1945 and 2005 through the eyes of one of the leading politicians of the period. The author analyses the contributions of Goronwy O. Roberts, James Griffiths, Cledwyn Hughes, George Thomas, John Morris, Ron Davies and others. Attention is given to the National Assembly of Wales and also the Welsh Language Society.
Ar 7 Gorffennaf 2007, union saith can mlynedd wedi marwolaeth Edward I, cynhaliwyd cyfarfod ym Mhontrhydfendigaid a roddodd y sêl derfynol ar Gytundeb Cymru’n Un, y cytundeb rhwng y blaengar yng Nghymru a’r gwlatgar yng Nghymru, carfanau a oedd – yn ôl ambell sylwebydd – wedi’u eu hysgaru am bron i ganrif. Ar lawer golwg, thema’r gyfrol hon yw’r carfanau hynny, cyfrol sy’n pwysleisio bod y garfan flaengar yn cynnwys elfennau gwlatgar, ac yn cydnabod bod y garfan wlatgar yn cynnwys elfennau blaengar.

Cân o glod sydd yma, clod i’r gwladgarwyr a’r datganolwyr Cymreig o fewn i’r Blaid Lafur. Y prif arwr yw James Griffiths, ond ceir geiriau gwresog a threiddgar hefyd am Goronwy Roberts, Cledwyn Hughes, John Morris a Ron Davies, ynghyd â theyrnged haeddiannol i Emrys Jones. Un o gryfderau’r gyfrol yw’r nodiadau manwl ar y ffynonellau yn ymwneud â gweithgaredd y blaengar gwlatgar. Â’r awdur wedi cyhoeddi ei hunangofiant (Llafur y Blynyddoedd, 1991), ychydig a ddywedir am ei gyfraniad ef i’r gweithgaredd, ond mae’r nodiadau yn dangos bod hwnnw yn anhraethol fwy na’r ‘rhan weithredol fychan’ y sonnir amdano ar dudalen ix.

Nodwedd amlycaf y gyfrol yw cwrteisi’r awdur, hyd yn oed wrth drafod y mwyaf tanbaid o’r gwrth-Lafurwyr a’r mwyaf ffyrnig o’r gwrthddatganolwyr. (Cofiaf gyda gwefr deyrnged Gwilym Prys Davies i’w hen gyfaill Harri Webb ar achlysur dadorchuddio cofeb i Harri yn llyfrgell Aberpennar.) Mae’n hael ei sylwadau ar Ness Edwards ac mae’n darganfod ambell beth dymunol i’w ddweud am George Thomas. Does odid ddim ar Megan Lloyd George, hithau, wrth fynnu sefyll yng Nghaerfyrddin yn etholiad cyffredinol 1966, wedi gwneud mwy na neb i amddifadu’r awdur o yrfa yn Nhŷ’r Cyffredin. Diddorol odiaeth yw’r sylwadau ar Gwynfor Evans, er y ceir awgrym bod Gwynfor, wrth ennill isetholiad 1966, wedi gwneud tasg y datganolwyr Llafurol yn galetach o lawer.

Tra bod yr awdur yn gwbl ymroddedig i ddatganoli, ac yn cynnig syniadau gwerthfawr ar y ffordd ymlaen, wrth drafod pwnc yr iaith y mae ar ei fwyaf gwresog. Fel yn ei hunangofiant, mae’n delynegol wrth gofio ei fagwrfa yng Nghymreictod cadarn Llanegryn y 1930au, ac efallai ei fod yn or-besimistaidd ynglŷn â dyfodol yr iaith yn yr ardaloedd gwledig. Mae hefyd, mi deimlaf, yn ddibris o Gymreictod cynhenid diwylliant ardaloedd Saesneg Cymru.

Yn ei Ragair, y mae Beverley Smith yn cyfeirio ar Gwilym Prys Davies fel ‘ceidwad cadarn ein hiaith a gwarchodwr rhin ein gweriniaeth’. Mae’n siŵr y bydd pawb sy’n darllen y gyfrol hon yn cytuno â’r sylw hwnnw.

John Davies

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Gwybodaeth Bellach:
Mae Cynhaeaf Hanner Canrif, gan yr Arglwydd Gwilym Prys Davies, yn cyflwyno darlun dadlennol a diddorol o wleidyddiaeth Gymreig rhwng 1945 a 2005 a hynny drwy lygaid un o wleidyddion pwysicaf y cyfnod hwnnw. Dilynir hynt a helynt digon cymhleth yr ymgyrchoedd gwleidyddol mawr yng Nghymru ar hyd hanner olaf yr ugeinfed ganrif i sicrhau mesur o ymreolaeth ac i ddiogelu parhad ein hiaith genedlaethol. Cofnodir y llwyddiannau ac adlewyrchir yr anawsterau, gan bwyso a mesur cyfraniad nifer o wleidyddion pwysig y dydd – Goronwy O. Roberts, James Griffiths, Cledwyn Hughes, George Thomas, John Morris, Ron Davies ac eraill – pobl yr oedd yr awdur yn eu hadnabod yn dda ac y bu’n cydweithio'n agos â nifer ohonynt. Sonnir am hanes sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru 'a all fod yn egin senedd ffederal Gymreig … y grym cynyddol [a fydd] yn gyfrifol am ddiogelu ein hetifeddiaeth genedlaethol a datblygu dinasyddiaeth Gymreig' a rhoddir sylw i gyfraniad allweddol Cymdeithas yr Iaith yn y frwydr i sicrhau cydraddoldeb i'r Gymraeg.

Dyma gyfrol bwysig gan ŵr craff a threiddgar ac un na ellid bod wedi ei hysgrifennu ond gan un a chanddo wybodaeth bersonol o'r hyn oedd yn digwydd y tu ôl i'r llenni.

HANES GWLEIDYDDIAETH CYMRU ERS 1945 GAN UN A FU YN EI CHANOL HI

Dyma gyfrol sydd wedi cymryd pedair blynedd i’w hysgrifennu, ond dros hanner canrif i’w pharatoi a rhwng y cloriau mae’r awdur yn mynd ati i grynhoi gwleidyddiaeth Cymru rhwng 1945 a 2005.

Mawr fu’r newidiadau yn y cyfnod hwn wrth reswm, ac mewn 180 o dudalennau mae Gwilym Prys Davies yn ymdrin yn bennaf â’r ddwy thema gyfochrog sydd wedi bod yn gyson drwy ei yrfa hir fel gwleidydd gwlatgarol, sef y frwydr dros sefydlu llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru a diogelu parhad ein hiaith genedlaethol drwy bwyso am statws cyfreithiol i’r Gymraeg.

Yr Arglwydd Prys Davies, brodor o Lanegryn, Sir Feirionnydd a chyfreithiwr wrth ei broffesiwn, oedd yr ymgeisydd Llafur a drechwyd gan Gwynfor Evans yn isetholiad Caerfyrddin 1966. Fe weithiodd yn ddiwyd dros Gymru drwy gydol ei yrfa wleidyddol ac fel un a chanddo wybodaeth bersonol o’r hyn oedd yn digwydd y tu ôl i’r llenni, yn enwedig o fewn y Blaid Lafur, mae’n pwyso a mesur ag awdurdod gyfraniad nifer o wleidyddion a gweision sifil dylanwadol y dydd – Goronwy O. Roberts, James Griffiths, Cledwyn Hughes, J. Emrys Jones, George Thomas, John Morris, Ron Davies ac eraill – pobl yr oedd yn eu hadnabod yn dda, a rhai ohonynt yn gydweithwyr iddo.

Meddai’r golygydd, J. Elwyn Hughes: “Mae Gwilym Prys Davies yn dadlennu sawl cyfrinach ddiddorol dros ben yn y gyfrol hon na chawsant erioed eu datgelu’n gyhoeddus o’r blaen. Mae hefyd yn dangos i ba raddau yr oedd ei berthynas o ag aelodau o bleidiau eraill yn allweddol bwysig mewn sawl cyfeiriad – er enghraifft, y cyfarfod rhyfeddol hwnnw a fu rhyngddo fo a Gwynfor Evans.”

Mae’r gyfrol hefyd yn gyfle i Gwilym Prys Davies roi sêl ei fendith ar ffurfio llywodraeth glymblaid Llafur/Plaid Cymru yn 2007: "Fe’m blinid drwy gydol ymgyrchoedd yr hanner canrif gan y gwrthdrawiadau celyd a difäol yn rhengoedd radicalaidd Cymru; felly, datblygiad pwysig a chalonogol, yn 2007, oedd furfio llywodraeth glymblaid Llafur/Plaid Cymru ar lwyfan y Cynulliad yn seiliedig ar ddogfen bolisi Cymru’n Un (er ei geiriau amherffaith). Ffurfiwyd y glymblaid o ganlyniad i amgylchiadau gwleidyddol arbennig ac nid yw’n dilyn y bydd yr hen elyniaeth a fu mor ddinistriol yn diflannu. Ein gobaith yw y tyf parch, ysbryd cydweithredol a chymod parhaol rhyngddynt mewn llywodraeth. Ac os digwydd hynny, bydd o werth cyffredin difesur i Gymru.”

Mae’r awdur yn pwysleisio drwy gydol y gyfrol y llwybr anodd sydd i’w droedio ym myd gwleidyddiaeth rhwng cadw at egwyddorion a chyfaddawdu lle bo hynny’n ddilys.

Ychwanega J. Elwyn Hughes, “Beth yr ydych yn ei gael gan Gwilym Prys Davies yn y gyfrol hon yw gwybodaeth o lygad y ffynnon – gwybodaeth gan ŵr a oedd yn yr union fan a lle – yn sylwebydd o’r tu mewn ond yn gallu edrych o’r tu allan, yn wrthrychol ac yn deg iawn.”

Dyma rai o sylwadau Gwilym Prys Davies o’r llyfr ar rai o fawrion y Blaid Lafur yng Nghymru...

Ar John Morris...."Dros gyfnod o ddeugain mlynedd ar y Fainc Flaen, gweithredwr gwleidyddol ydoedd o ran ei anian, gŵr a nodweddid gan ymroddiad pwrpasol a phenderfyniad i gyflawni amcan pan oedd amodau'n caniatáu. Heb iddo gael y cyfle i weithredu’n gadarnhaol, ni fynnai ymhél yn llwyr â gwleidyddiaeth gan dueddu i gilio’n ôl at ei waith ar y Bar. Mentraf awgrymu mai’r elfen hon yn ei gymeriad yw cryfder pennaf John Morris, mewn un ystyr, a hanfod y llwyddiant a ddaeth i’w ran.”

Ar Goronwy O. Roberts...“Bydd Goronwy Roberts yn haeddiannol enwog am ffurfio’r Mudiad Gwerin, er na ddaeth dim ohono pan ddaeth y Rhyfel i chwalu’r aelodau. Rhaid diolch am y ‘Rhaglen i Gymru’, am y ‘Portreadau’ gwerthfawr...ac am ei waith blaenllaw ar hyd y blynyddoedd yn agor clust y Mudiad Llafur yng Nghymru i’r achos deallusol dros bolisïau Cymreig. Nid oedd modd gwybod bryd hynny fod ei strategaeth ganolog o Gymreigio’r Blaid Lafur yng Nghymru yn un y gellid ei gwireddu. Ond fe’i gwireddwyd.”

Ar Jim Griffiths....“Ni chredaf y byddwn ymhell o’m lle trwy honni mai [Jim Griffiths] fu’r gwladweinydd Cymraeg amlycaf a mwyaf dylanwadol yn hanes y Blaid Lafur hyd yn hyn. Ac anodd meddwl am neb a allai fod wedi rhoi i Gymru yr arweiniad a roes ef yng nghyfnod olaf ei fywyd.”

Ar Cledwyn Hughes....“Rhadlonrwydd, cydbwysedd, goddefgarwch, dyfalbarhad, agosatrwydd gwerinol, rhyw gymaint o gyfrwystra gwleidyddol – ynghyd â hiwmor bob amser – dyna nodweddion neilltuol Cledwyn Hughes.”

Ar George Thomas....“Bu’n gymwynaswr â’r gwan a’r anghenus a’r oedrannus a’r methedig. Ac eto, er cystal yr holl weithgarwch daionus hwn, medrai’r funud nesaf droi i fod yn ddyn bychan a milain. Hawdd iawn oedd pechu yn ei erbyn - ac ni faddeuai’n hawdd i’r rhai a droseddodd yn ei erbyn. Roedd yn deyrngar i’r carn ac yn was bach i Wilson. Roedd yn elyn milain i’r cenedlaetholwyr Cymreig ac yn wrthwynebydd ffyrnig i bob amlygiad o ddeffroad yr ymwybod cenedlaethol yng Nghymru. Tueddwyd i’w gymryd yn llawer rhy ysgafn gan ei gyd-wleidyddion. Camgymeriad oedd hynny. Roedd yn wleidydd medrus a chanddo gyfrwystra’r cadno.”

Ar Ron Davies....“Mor rhyfedd, mor ddyrys, yw bywyd. Os bu Rhagluniaeth yn garedig wrth Ron Davies ar y deunawfed o Fedi 1997, eto ymhen blwyddyn, ac yntau yn awr anterth ei nerth, bu ffawd yn ddidostur wrtho. Yn sydyn, ar noson 26 Hydref 1998, daeth argyfwng yn ei fywyd personol...Sut y medrai ‘eiliad o wallgofrwydd’ ddinistrio mor llwyr? Gwelwyd ei golli. Ni all neb ohonom wybod a fyddai Ron Davies wedi aros yr un dyn yn y swydd. Ond mae ei record fel Ysgrifennydd Cymru, fel Llefarydd ar faterion Cymreig, y berthynas ragorol a fu rhyngddo a Dafydd Wigley, ei agwedd gadarnhaol tuag at anghenion y Gymraeg a’r dystiolaeth ei fod yn coleddu’r egwyddor weriniaethol, i gyd yn argoeli y gallasai fod yn arweinydd eofn a radical mewn cyfnod allweddol yn hanes ein cenedl.”