Eich basged
Mae eich Basged yn Wag
Ewch i...
Gwerthwyr Gorau
Dolenni
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Pwll, Pêl a PhulpudElwyn Jenkins
Gweld rhagor o deitlau gan 'Elwyn Jenkins' |
ISBN: 9781843239499 (1843239493)Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2008
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, LlandysulFformat: Clawr Meddal, 216x140 mm, 112 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£7.99
| |
| Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
|
Hunangofiant y Parch. Elwyn Jenkins, gweinidog yn ardal Llanbedr Pont Steffan. Ynddo mae'n adrodd ei hanes, o gyfnod cynnar pan oedd yn blentyn yn ardal Cross Hands, ei gyfnod yn gweithio dan ddaear mewn pwll glo, ei gampau ar y cae rygbi pan chwaraeodd dros Gymru yn erbyn y Llewod Prydeinig, a'i gyfnod fel gweinidog yn Nyffryn Aman, Aberystwyth, a maes o law yn ardal Llanbed.
The autobiography of the Rev. Elwyn Jenkins, a minister of religion in the Lampeter area. He recounts his story from his early childhood growing up in Cross Hands, his work as a coal-miner, his achievement on the rugby field when he played for Wales against the British Lions, and his period as a minister in the Amman Valley, Aberystwyth, and latterly in the Lampeter area.
|
|
Er mai yn anaml bellach y cyhoeddir cofiant neu hunangofiant gweinidog, mae'n dda bod Ray Gravell wedi perswadio Elwyn Jenkins i gofnodi stori'i fywyd diddorol yn y gyfrol hon. Fel yr awgryma'r teitl, glo, rygbi ac Anghydffurfiaeth sy'n cael sylw yn y gyfrol, heb anghofio dylanwad bro mebyd Elwyn ym Mhen-twyn ger Cross Hands. Wrth ddiolch am ddylanwad cartref a chapel, mae'n cyflwyno hanes ei filltir sgwâr a'i chymeriadau, ac yn sôn am un o feibion disglair y fro, y Parchedig William Jones (hen dad-cu Huw Llewelyn Davies), y daeth 3,000 o bobl i'w angladd.
Fel ei deulu a'i gyfoedion, aeth Elwyn i weithio yng nglofa'r Mynydd Mawr, ac er iddo wybod am dalcen caled y lofa, mae'n hael ei glod i gwmni digymar ei gyd-weithwyr a chymdogaeth dda Cwm Gwendraeth: 'Os mai prin oedd anadl y gweithwyr, nid oeddent brin o ddeallusrwydd, o gyfeillgarwch nac o hawddgarwch.'
Ar ôl chwarae rygbi i dîm Cross Hands a chael ei hyfforddi gan Carwyn James, dewiswyd Elwyn i chwarae dros Lanelli yn 18 oed cyn symud wedyn i Abertawe. Wrth gymharu ddoe a heddiw dyfynnir sylw gan un cyfaill 'mai chwarae o'r galon roeddem ni yn ei wneud yn y cyfnod hwnnw, ond chwarae o'r waled y maent heddiw'. Wedi sôn am wrthwynebiad yr eglwysi i weinidog ac offeiriad oedd yn chwarae rygbi W. T. Havard, Esgob Llanelwy, a chwaraeodd dros Lanelli, yn un mae Elwyn yn llawdrwm ar Undeb Rygbi Cymru 'yn danfon hyfforddwyr i drefi a phentrefi'n gwlad ar fore Sul adeg cynnal Ysgolion Sul ac oedfaon'.
Am mai fel pregethwr a bugail da y meddyliwn am Elwyn, mae'n dda cael darllen am ei lafur ym Mrynaman, Aberystwyth a Llanbed. 'O ran ei ddiléit yn y natur ddynol', meddai Hywel Teifi Edwards yn y Cyflwyniad, ei synnwyr digrifwch ffein a'i werthfawrogiad hael o'r bobol yn y gwahanol ofalaethau, daw Elwyn Jenkins i'r amlwg yn yr hunangofiant fel gŵr o Gristion hawddgar. Ar ôl i Bresbyteriaid ac Annibynwyr Llanbed ddod ynghyd i ffurfio Gweinidogaeth Bro, gofid i Elwyn yw 'bod llawer o bentrefi a threfi wedi bod yn araf i fabwysiadu'r cynllun'.
Sonnir hefyd am dristwch cau capeli’r Tabernacl, Aberystwyth, lle gweinidogaethodd am wyth mlynedd ar hugain, a chapel ei gynefin ym Mhen-twyn: 'bellach nid yw'r capel yn adeilad ar fryn na ellir ei guddio, ac ni wêl pobl Cross Hands oleuni yn ei ffenestri yn nhywyllwch gaeaf yn eu hatgoffa am y realiti dwyfol.'
Cyflwynodd Elwyn Jenkins stori'i fywyd mewn modd naturiol ac agos atoch, ac mae'r hanes yn gofnod diddorol am ffordd o fyw sy'n mynd yn fwyfwy dieithr.
W. J. Edwards
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Bywgraffiad Awdur: Cafodd y Parch. Elwyn Jenkins ei eni yn ym Mhentwyn, ger Cross Hands yng Nghwm Gwendraeth yn un o wyth o blant. Bu'n gweithio ym Mhwll Glo'r Mynydd Mawr o 1948 tan 1959. Yn 1957 priododd ag Elizabeth o Gynwyl Elfed, ac mae ganddynt 3 o blant.
Bu'n chwarae rygbi dros y Tymbl, Llanelli ac Abertawe. Chwaraeodd rygbi dros Gymru yn erbyn y Llewod Prydeinig yn 1955.
Yn ddiweddarach yn ei yrfa trodd at y weinidogaeth. Aeth i Goleg Trefeca yn 1959 ac yna i'r Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth. Rhwng 1964-1970 bu'n weinidog ar Gapel Moriah, Brynaman a chapel Brynllynfell yng Nghwmllynfell. Yn 1970 aeth yn weinidog i’r Tabernacl yn Aberystwyth. Ers 1998 bu'n bugeilio Eglwysi Shiloh, Llanbed, Salem, New Inn a Maesffynnon, Llangybi.
Gwybodaeth Bellach: Dull yr hen bregethwyr o ddal sylw eu cynulleidfaoedd fyddai codi tri phen ond, yn y gyfrol ddifyr ac anarferol hon, deil y Parchedig Elwyn Jenkins ein sylw wrth godi tri phen ei fywyd cyfan!
Dyna'r pwll: glofa'r Mynydd Mawr, lle treuliodd y bachgen ifanc o ardal Pen-twyn, y Tymbl, ddyddiau gwaith cynnar yng nghwmni digymar y glowyr a chymdeithas glòs Cwm Gwendraeth. Pêl wedyn – y bêl hirgron, wrth gwrs; yn ei oriau hamdden, disgleiriodd Elwyn ar y cae rygbi i rai o dimau mwyaf Cymru: yng nghrys Sgarlad Llanelli; gyda chlwb rygbi Abertawe, a hyd yn oed yn y prawf terfynol dros Gymru ar Barc yr Arfau. Ac yna'r pulpud; ers blynyddoedd lawer bellach, bu Elwyn Jenkins yn weinidog yr efengyl, gan fugeilio pobl Dduw mewn sawl rhan o Gymru; diolcha bod ‘ei linynnau wedi disgyn mewn lleoedd hyfryd’ – Brynaman a Chwmllynfell, Aberystwyth ac ardal Llanbed.
Glo, rygbi ac Anghydffurfiaeth: mae'r nodweddion hynny a ddaeth mor symbolaidd o dde Cymru i'w cael yn naturiol a gwirioneddol ym mywyd Elwyn Jenkins. Ac er mai hunangofiant un dyn sydd yma, mae'n cwmpasu ffordd o fyw cymdeithas gyfan.
Bydd holl elw’r llyfr yn mynd tuag at waith Cymorth Cristnogol.
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|
|
Rhagor o Deitlau
|
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
|
Llyfr y Mis
|