Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig   English  
Gwybodaeth Lyfryddol
Aber - Ysgrifau am Aberystwyth
Awdur: Amrywiol/Various
Gweld rhagor o deitlau gan 'Amrywiol/Various'
ISBN: 9781843239697 (1843239698)
Dyddiad Cyhoeddi Gorffennaf 2008
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Darluniwyd gan Keith Morris
Fformat: Clawr Caled, 225x250 mm, 84 tudalen
Ar gael 
Does dim Ymatebion Darllenwyr i'r teitl hwn.
 
 
Aber - Ysgrifau am Aberystwyth
Ein Pris: £14.99 
Llyfr bwrdd coffi lliw-llawn i ddathlu un o drefi glan-y-môr a phrifysgol amlycaf Cymru. Cynhwysir cyfraniadau gan awduron sy'n amlwg yn eu cysylltiad ag Aberystwyth - Catrin Beard, Lyn Lewis Dafis, Lyn Ebenezer, Meleri Wyn James, Sioned Puw Rowlands ac Eurig Salisbury. Gyda lluniau gan y ffotograffydd profiadol Keith Morris.

A striking photographic full-colour hardback book to celebrate a seaside and university town, considered to be one of the most iconic towns in Wales. Authors well known for their associations with Aberystwyth - Catrin Beard, Lyn Lewis Dafis, Lyn Ebenezer, Meleri Wyn James, Sioned Puw Rowlands, Eurig Salisbury - contribute short essays to accompanyKeith Morris's witty images.
Tref y sefydliadau yw Aberystwyth: y Brifysgol, y Llyfrgell Genedlaethol, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Merched y Wawr, Cyngor Llyfrau Cymru, a mwy. Ond mae rhai o gymeriadau’r dref hefyd bron iawn yn sefydliadau ynddyn nhw eu hunain – yn eu plith y ffotograffydd allblyg Keith Morris. Does yna’r un digwyddiad cyhoeddus yn cyfrif yn Aberystwyth oni bai ei fod ef yno gyda’i gamera a’i wên lydan.

Dim rhyfedd, felly, ei fod dros y blynyddoedd wedi tynnu mwy na digon o ffotograffau o’r dref i greu’r gyfrol hon, sy’n cyfuno bron i 100 o’i ddelweddau gydag ysgrifau gan chwe awdur lleol: Eurig Salisbury, Catrin Beard, Sioned Puw Rowlands, Lyn Lewis Dafis, Meleri Wyn James, a Lyn Ebenezer. Yr un amcan sydd i’r ysgrifau ag i’r lluniau: ceisio dal ychydig o hud y dref unigryw hon, a chyfleu mewn gair neu ddelwedd un neu fwy o agweddau ar fywyd ger y lli.

Bu pob un ond un o’r chwe ysgrifwr yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, ond nid llyfr o atgofion dyddiau coleg sydd yma – arwydd efallai o gryfder cymeriad y dref ei hun yn wyneb y llanw enfawr blynyddol o fyfyrwyr. Mae’r ddau awdur a fagwyd yn lleol, Sioned Puw Rowlands a Lyn Ebenezer, yn tystio i’r newid a fu ar hyd y blynyddoedd: y Gymraeg yn colli tir a’r hen atyniadau fel Neuadd y Brenin a Chaffi’r Seagull yn diflannu. Eto, fel y dywed Catrin Beard, mae’r Penguin gystal lle heddiw i wylio’r byd yn mynd heibio ag yr oedd i’w mam ddeugain mlynedd yn ôl. Ac fel y gwelir yn lluniau Keith Morris o droi Capel St Paul yn dafarn, mae pob newid yn cynnig bywyd newydd.

Yn yr ysgrifau hyn cawn glywed am Aberystwyth y plentyn, y myfyriwr, y fam, y tad, y paffiwr, y newyddiadurwr, yr efengylwr a’r Groegwr. Mae’r lluniau yn rhoi cip i ni ar Aber y mewnfudwr, y twrist, y protestiwr, y pysgotwr, yr Iddew, y pensaer a’r artist. O dreulio amser yn Aberystwyth, rydych yn dod i ddisgwyl yr annisgwyl, ac mae lluniau Keith Morris yn awgrymu hynny. Pam fod yna gwpwl yn dawnsio ar y prom? Gwewyr y foment neu ŵyl ddawnsio ryngwladol? Mae’r naill a’r llall yr un mor debygol yn Aber. Ai eira neu ewyn sydd ar y traeth y tu allan i Neuadd Alexandra? Rhaid craffu’n ofalus i ganfod yr ateb. Mae’r gyfrol hardd hon yn cyfleu naws arbennig y dref ecsentrig hon i’r dim.

Kate Crockett

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol: