Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Madfall: Cawr Mawr Hyll, Y
Malachy Doyle
ISBN: 9781845120016 (1845120019)Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2004
Cyhoeddwr: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, Aberystwyth
Darluniwyd gan David LucasAddaswyd/Cyfieithwyd gan Gwen Angharad Jones.Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 195 x 127 mm, 64 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £4.50 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Addasiad Cymraeg o stori dylwyth teg wreiddiol am hogyn fferm ifanc yn ennill tir y Cawr Mawr Hyll, ond yn gorfod cwblhau tair tasg er mwyn cadw'i ben. Lluniau du-a-gwyn.

A Welsh adaptation of an original fairy tale about a young farmer's son who wins the Ugly Great Giant's land, but has to complete three tasks in order to keep his head. Black-and-white illustrations.
Brwydr y mawr a’r bach yw prif lif y llyfr hwn, wrth i Sam y bachgen tlawd chwarae gêmau peryglus gyda’r Cawr Mawr Hyll gan brofi llwyddiant a methiant yn y broses. Yn null nifer o chwedlau Celtaidd ceir fformiwla’r dasg aruthrol y disgwylir i’r arwr ei chyflawni cyn ennill hapusrwydd. Yma hefyd ceir ailadrodd cynyddol o gymalau a digwyddiadau sy’n pwysleisio ymdrech y bychan.

Mae’r stori’n llifo’n rhwydd a’r arddull yn ysgafn er gwaethaf erchylltra’r bygythiad gan y cawr o dorri pen Sam bach oni chwblheir y dasg. Gwelir Sam yn llwyddo, gyda help goruwchnaturiol merch y Cawr, i ladd yr un fu’n ei fygwth. Ac wrth iddo ddychwelyd adre at ei rieni mae’r foeswers oesol o ddychwelyd at ddiogelwch y cyfarwydd wedi profi dychryn y newydd, yn gryf.

Ceir darluniau “naïf” a deniadol eu harddull i gyd-fynd â’r stori, a’r awyrgylch ynddynt yn gwrthgyferbynnu ar adegau â naws erchyll rhannau o’r stori.

Caiff y llyfr hwn ei fwynhau gan fechgyn a merched fel ei gilydd – stori sylweddol ei chynnwys mewn arddull fywiog a darllenadwy.

Mari Rhian Owen

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Llyfrau Lloerig: Syniad Gwich?
Michael Morpurgo
£2.95
 
Prynwch
Llyfrau Lloerig: Sianco
Pat Thomson
£2.95
 
Prynwch
A-Bi-Clec! Hwyl Gyda'r ...
Haf Llewelyn
£6.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch