Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Siapiau Sali Mali a'i Ffrindiau
Gordon Jones
ISBN: 9781845120122 (1845120124)Dyddiad Cyhoeddi Medi 2004
Cyhoeddwr: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, Aberystwyth
Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1 Fformat: Clawr Meddal, 180 x 180 mm, 16 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o brint Pris Llawn: £4.50 
Ein Pris: £2.00 
Rydych yn Arbed: £2.50 (55.6%)   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Llyfr llun-a-stori wreiddiol a doniol am Jac Do a Tomos Caradog yn paratoi sioe siapiau arbennig, i gynorthwyo plant i adnabod ac enwi siapiau; i blant 4-6 oed.

An original and lively picture story book about Jac Do and Tomos Caradog preparing a special house of shapes, to assist children to recognize and name shapes; for children aged 4-6 years.
Dyma gyfrol sy’n defnyddio’r cymeriadau adnabyddus Sali Mali a’i ffrindiau (Jac y Jwc, Tomos Caradog a Jac y Do) er mwyn cyflwyno’r gwahanol siapiau. Cawn dudalen yn llawn sgwariau gwahanol, un arall yn llawn cylchoedd ac eraill y llawn diemwntau, petryal, hirgylch a thriongl, ac mae’n llyfr sy’n annog y plentyn i’w ‘ddarllen’ drwy orfod chwilio am y patrymau hyn yng nghanol y darluniau. Yn wir, ceir darlun bywiog iawn ar bob tudalen (megis Jac y Jwc yn edrych yn giami iawn ar gefn beic) a’r rheiny’n ddarluniau llawn straeon bychain difyr sydd yn werthfawr iawn wrth gadw sylw’r plentyn yn y llyfr, megis gweithgareddau doniol iawn y falwen. Ar ben hyn oll, mae dirgelwch mawr o beth yn union y mae Jac y Jwc a Tomos Cadwaladr yn ei wneud yn llinyn storïol drwy’r tudalennau.

O ran y llyfr ei hun, mae’r diwyg yn lliwgar a deniadol a’r gyfrol yn un fach, ysgafn a hylaw iawn. Dyma gyfres addysgiadol ac mae hwn yn sicr yn llyfr gwerthfawr arall gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion i blant bach Cymru.

Gwenllïan Dafydd

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Cwm Rhyd y Rhosyn 1 (SCD2090)
 
£10.20
 
Prynwch
Storïau Paent Gwlyb ...
 
£24.95
Cysgliad (CD-ROM)
 
£40.00
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mam - Cerddi gan Famau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Talk Welsh
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Plant
Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
£5.99
 
Prynwch