Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Madfall: Tili a'r Geifr
Joan Lingard
ISBN: 9781845120290 (1845120299)Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2005
Cyhoeddwr: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, Aberystwyth
Darluniwyd gan Sarah WarbutonAddaswyd/Cyfieithwyd gan Gwen Angharad Jones.Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 195x127 mm, 144 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o stoc Pris Llawn: £4.50 
Ein Pris: £2.00 
Rydych yn Arbed: £2.50 (55.6%) 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Addasiad Cymraeg o Tilly and the Wild Goats, stori gyffrous am anturiaethau dau ffrind wrth iddynt ymgyrchu i achub catref teuluol a chynefin gyr o eifr gwyllt, gan adlewyrchu pwysigrwydd cymuned dda, cyfeillgarwch triw, a'r amgylchedd. 85 llun du-a-gwyn.

A Welsh adaptation of Tilly and the Wild Goats, an exciting story about the adventures of two friends to save a family home and the habitat of a herd of wild goats, reflecting the importance of a good community, true friendship, and the environment. 85 black-and-white illustrations.
Mae'n dda gweld Cymdeithas Lyfrau Ceredigion yn parhau i ychwanegu teitlau da at ei chyfres hynod lwyddiannus ar gyfer plant tua 9 oed i fyny, sef Cyfres Madfall. Teitlau wedi eu haddasu o'r Saesneg yw'r rhain ac mae'n rhaid i mi ganmol addasiad medrus a llyfn Gwen Angharad Jones sy'n darllen yn rhwydd ac yn glir. Yn ogystal, roeddwn yn falch eithriadol o weld Gwen Angharad Jones wedi lleoli'r stori hon yn Arfon ac wedi rhoi naws cwbwl Gymreig iddi.

Helynt Tili Trotman a'i mam a geir yma, dwy o Loegr yn wreiddiol ond yn rhugl yn y Gymraeg erbyn hyn. Maent yn wynebu bod yn ddigartref o'u tŷ rhent o fewn mis, ac ar ben hyn mae si ar led fod cwrs golff newydd i'w godi ger y pentref. Yn waeth na dim, bydd yn rhaid i'r geifr gwyllt sy'n rhodio Caeau'r Afon chwilio am gartref newydd hefyd. Mae Tili a Gwilym, ei ffrind pennaf, yn trefnu deiseb i achub y geifr ac yn datrys y dirgelwch pam nad oes neb wedi gweld Mr Llywelyn, perchennog caeau'r cwrs golff arfaethedig.

Mae hon yn nofel afaelgar wedi ei hysgrifennu'n dda, ac mae digon o antur ynddi i gadw'r darllenydd i droi'r tudalennau. Diau hefyd y bydd yn cael ymateb gwresog mewn ysgolion gan fod ynddi negeseuon pwysig am gyfeillgarwch, gwarchod cymunedau a'r amgylchedd.

Nia Gruffydd

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatād Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.


Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Stamp Owain Glyndŵr ...
 
£2.00
 
Prynwch
Solva Blues - An ...
Meic Stevens
£9.95
 
Prynwch
Dywysoges Sach Datws, Y
Robert Munsch
£3.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch