Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Ar Lafar, Ar Goedd
David Jenkins
ISBN: 9781845120559 (1845120558)Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2007
Cyhoeddwr: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, Aberystwyth
Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 198 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o Stoc - Archebir yn l y galw Ein Pris: £9.99 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Golwg ar gymdeithas wledig de Ceredigion drwy graffu ar gyfoeth yr iaith ymhlith y brodorion. Mewn tair ysgrif gydgysylltiol trafodir trefn strwythurol cymdeithasol cefn gwlad de Ceredigion a'i ddulliau amaethu trwy ystyried ymadroddion llafar y gymdeithas.

A study of rural society in south Ceredigion through observation on the richness of language among the inhabitants. Three related essays discuss the social structure of south Ceredigion and its agricultural methods, and how this is reflected in the oral dialect of the community.
Yn y dosbarth Daearyddiaeth yn yr Ysgol Uwchradd y deuthum ar draws David Jenkins am y tro cyntaf. Cyfeiriwyd ni at lyfr or enw Welsh Rural Communities syn cynnwys dadansoddiad treiddgar o boblogaeth plwyf genedigol y cymdeithasegydd o Aberporth. Hyfryd felly, hanner canrif yn ddiweddarach, oedd cael cyfle i ailgyfarfod r myfyriwr ymchwil disglair hwnnw, a hynny o fewn cloriau cyfrol arall. Unwaith eto, gydag oes o brofiad wrth ei gefn erbyn hyn, cymdeithas ei filltir sgwr sydd o dan ei chwyddwydr.

Mewn tair pennod swmpus sydd yn plethu iw gilydd dangosir yn feistrolgar a dysgedig fel y dylanwadodd tirwedd godre Ceredigion ar iaith, ar bobl ac ar ffordd o fywr trigolion dros y canrifoedd. Canlyniad naturiol y cydymdreiddio cyson a ddigwyddodd rhwng iaith a thir, chwedl yr Athro J. R. Jones, ywr gymdeithas frodorol, a chynnyrch y frwydr barhaus rhwng dyn r elfennau sydd yn gyfrifol am gyfoeth ymadroddion llafar hen ŷd y wlad. Pobl y pridd oeddynt a delweddau fferm a thyddyn a fyddain lliwior siarad. Nodir enghreifftiau lawer megis ceffyl blaen, mochyn deudwlc a dafad gorniog. Cofiaf innau hefyd glywed ffermwr, wrth wrthod ychwaneg o beth yfed, yn cyfeirio gyda chwithdod at y car a yrrwyd ganddo ir dafarn y noson honno fel caseg dywyll.

Ymdrinnir yn ogystal r hierarchaeth a fodolai o fewn y gymdeithas amaethyddol a morwrol hon, ac fel y newidiodd y gair gwerin ei ystyr fwy nac unwaith ers yr Oesoedd Canol. Cyfeirir yn helaeth at weithiau Beirdd yr Uchelwyr gan ganolbwyntio ar gywydd enwog Dafydd Nanmor iw noddwyr, sef teulu Rhys ap Maredudd o fferm y Tywyn, ger y Ferwig. Maen werth nodi wrth fynd heibio fod yr hen draddodiad yn dal yn fyw yn y fro gan i Emyr Oernant, dros bedair canrif yn ddiweddarach, ganu cywydd o fawl i John Evans ai deulu am y lletygarwch a brofir yng Ngwestyr Emlyn, Tan-y-groes gan feirdd ein dyddiau ni. Yr un ywr mesur a ddefnyddiwyd, yr un hefyd ywr croeso ar diolch.

Mae hon yn gyfrol iw thrysori. Fel y ddau Jones, y bardd Dic ar arlunydd Aneirin, llwyddodd yr academydd David Jenkins i roi inni ddarlun cofiadwy iawn or berthynas rhwng dyn i amgylchfyd yn y cornelyn bach hwn or byd.

Idris Reynolds

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Gwybodaeth Bellach:
Mewn tair ysgrif gydgysylltiol trafodir trefn a strwythur cymdeithasol cefn-gwlad de Ceredigion a'i ddulliau amaethu trwy graffu ar ymadroddion llafar y gymdeithas.
Yn yr ysgrif gyntaf dadleuir bod ymadroddion y 'werin' yn datgelu sut y gwl y gymdeithas ei strwythur ei hun a'r categorau sydd ganddi. Treiddia'r ymadroddion hynafol hyn trwy lafar y gymdeithas gyfan.
Trafodaeth ar ystyr 'gwerin' sydd yn yr ail ysgrif a thrwy ddadansoddi'r modd y defnyddid y gair, a thrwy gymharu defnydd tebyg geiriau cyfatebol mewn ieithoedd eraill, ceir darlun o berthynas haenau cymdeithas 'i gilydd. Pan newidiodd natur y berthynas, cyfyngwyd ystyr y gair 'gwerin' i'r hyn ydyw heddiw.
Dechreua'r drydedd ysgrif gyda geirfa ffermydd ac eir ymlaen i ddisgrifio, ar sail llawer math o dystiolaeth, hanes dulliau amaethu a'r modd y trinid rhannau gwahanol o'r tir. Atgyfnerthir casgliadau'r awdur mapiau, dogfennau a ffotograffau.
Yn 'Ar Lafar, Ar Goedd' gwelwn gymdeithasegydd proffesiynol yn trafod ei gymdeithas ei hun; cymdeithas sydd bellach wedi diflannu.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Darlith Flynyddol Clwb y ...
Robert M. Morris
£4.00
Language, Identity and ...
Nikolas Coupland
£45.00
Merched Gwyllt Cymru/ ...
Beryl Hughes Griffiths
£7.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch