|
Monograff ymchwilgar am gyfraniad unigryw John Griffith (1821-77), newyddiadurwr proffesiynol cyntaf Cymru, a hynny'n benodol yn ystod cynyrfiadau ymgyrchu etholiadol yng Ngheredigion ym 1868.
A monograph about the unique contribution of John Griffith (1821-77), Wales's first professional journalist, in particular during the stirring election campaigning in Ceredigion in 1868.
|
|
Fel un a fu’n hacio yn y maes newyddiadurol ers deugain mlynedd bellach, mae’n gywilydd gen i orfod cyfaddef na wyddwn i ddim am fodolaeth John Griffith (Y Gohebydd). Fe gymerodd gyfrol Dylan Iorwerth i agor fy llygaid i hanes a gwaith un a fynnai fod angen ‘wrth ddau beth i gael pwt o ohebiaeth – yn gyntaf, stwff; ac yn ail, hamdden i’w osod ynghyd.’
Gohebydd gyda Baner ac Amserau Cymru oedd John Griffith. Ac nid unrhyw ohebydd chwaith ond, yn hytrach, Y Gohebydd. Ac yn y gyfrol hon mae’r awdur yn gosod Y Gohebydd yng nghyd-destun Y Flwyddyn Fawr, sef 1868 a’r etholiad yng Ngheredigion.
John Griffith oedd y gohebydd proffesiynol cyntaf yn y Gymraeg, a’i Lythyr o Lundain oedd conglfaen y Faner. Down i wybod bod y Gohebydd wedi cael ei eni yn y Bermo ddiwedd 1821, ei fam yn chwaer i Samuel Roberts Llanbryn-mair, hwnnw ei hun yn newyddiadurwr, ymhlith pethau eraill. Aeth John yn brentis i siop fferyllydd. Yna symudodd i weithio mewn warws ddillad yn Lerpwl yn 1840. Dioddefai o broblemau’r ysgyfaint, a gwan iawn oedd ei iechyd. Symudodd i gadw siop yn Llangynog cyn mynd i Lundain i fod yn Is-ysgrifennydd i Hugh Owen yn ei Gymdeithas Addysgiadol Gymreig. Cadwai siop hefyd yn Walworth House.
Yno y dechreuodd ar ei yrfa newyddiadurol, gan ddechrau ysgrifennu i’r Cronicl. O fewn tair wythnos i hynny fe’i bachwyd gan Thomas Gee i fod yn Ohebydd yn Llundain, swydd a ddaliodd am ugain mlynedd. Hoffaf y frawddeg ddisgrifiadol hon ohono gan Y Parchedig D. Evans, Caerfyrddin: ‘Yr oedd yn hollol amlwg ei fod wedi ei fwriadu gan Ragluniaeth i waith uwch na lapio te a phwyso siwgr.’
Ymhell cyn Etholiad 1868, roedd gan John Griffith gysylltiad agos â Cheredigion. Ymwelai’n rheolaidd ag Aberystwyth. Ef hefyd oedd un o brif ysgogwyr y syniad o godi cofeb i Daniel Rowland yn Llangeitho. Cyn – ac yn ystod – yr ymgyrch etholiadol yn 1868, bu’r Gohebydd yn ymweld â Cheredigion. Yn draddodiadol, etholiad oedd hwn, i bob pwrpas, rhwng criw’r Trawsgoed a Nanteos ar un llaw a chriw Gogerddan ar y llall. Y ddau wrthwynebydd yn yr achos hwn oedd Henry Mallet Vaughan, Tori, a Mathew Richards, Rhyddfrydwr. Wrth yr ail yr hoeliodd Y Gohebydd ei liwiau.
Â’r gyfrol â ni i faes y frwydr, y rhaniadau rhwng y tai mawr, anghydffurfiaeth a’r eglwys. A ffefryn Y Gohebydd a orfu.
Anodd crynhoi cynnwys y gyfrol hon, er nad yw hi ond 64 tudalen o hyd. Mae hi’n gyforiog o hanes y cyfnod, o Lundain i Geredigion ac i America. Cawn awyrgylch y cyfnod yn fyw iawn a chipolwg ar hanes gŵr gwirioneddol bwysig yn ei faes. A da y gwnaeth Dylan Iorwerth gyfyngu’r hanes i etholiad cyffredinol a fu’n drobwynt yn hanes Ceredigion a Chymru gyfan.
Lyn Ebenezer
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|