|
Monograff ymchwilgar sy'n mentro gofyn pwy oedd Rhys Gethin, un o gadfridogion Owain Glyndŵr (Glyn dŵr). Cyfrol hylaw sy'n cloriannu'r dystiolaeth am saith dyn o'r un cyfnod o'r enw Rhys Gethin, er mwyn barnu pa un ohonynt sydd debycaf o fod y cadfridog enwog.
A monograph in search of the real Rhys Gethin, one of Owain Glyndŵr's generals.
|
|
Pan oedd yr ymgyrch llosgi tai haf ar ei anterth, roedd yr heddlu yn awyddus i ganfod rhywun a arddelai’r enw Rhys Gethin. Arwyddwyd nifer o lythyron gan rywun yn cydnabod rhai o’r achosion o losgi tai yn enw Cadfridog Owain Glyndŵr. Methiant llwyr ar ran yr heddlu fu canfod y llosgwr honedig.
Yn y cyswllt hwn gellir maddau yn hawdd i’r heddlu am eu methiant i ganfod Rhys Gethin ein hoes ni. Hyd yn gymharol ddiweddar, methiant hefyd fu ymdrechion haneswyr i ganfod manylion am y Rhys Gethin gwreiddiol. Diolch i Cledwyn Fychan, rydym bellach lawer yn nes at adnabod y dyn.
Fel y dywed yr awdur ar gychwyn y gyfrol, does yna’r un bywgraffiadur, cofiant, llyfr hanes, nofel, drama nac erthygl a ysgrifennwyd hyd at ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg am Owain Glyndŵr sydd hyd yn oed yn cyfeirio at Rhys Gethin. Ddim ond ar droad y ganrif honno yr ymddangosodd cyfeiriad ato a’i lansiodd ‘ar don o boblogrwydd’ ac a’i gwnaeth ‘y mwyaf adnabyddus o blith holl ddilynwyr Owain Glyndŵr erbyn heddiw.’
Mae cyfrol Cledwyn Fychan yn darllen fel nofel dditectif. Mae’r awdur wedi dilyn y cliwiau yr holl ffordd, yn ôl ac ymlaen, o gyfrol ddadlennol Arthur Granville Bradley, Owain Glyndŵr and the Last Struggle for Welsh Independence yn 1901, drwy restr faith o destunau er mwyn canfod y gwir.
Nid yw’n help i unrhyw ymchwilydd fod yna saith gŵr o’r enw Rhys Gethin a oedd yn cydoesi â Glyndŵr. A’r hyn sy’n gwneud y gyfrol hon yn glasur bychan i mi yw’r modd y defnyddiodd yr awdur nid yn unig dystiolaeth llên a hanes ond hefyd draddodiadau a thystiolaeth traddodiadau llafar bugeiliaid mynyddoedd y canolbarth wrth geisio mynd â’r maen i’r wal.
Gan mai cyfrol dditectif yw hon, dydw i ddim yn mynd i ddifetha’ch darllen drwy ddatgelu pa un o’r saith oedd y Rhys Gethin a roddodd ei enw, dros chwe chanrif a hanner yn ddiweddarach, i losgwr honedig tai haf. Mae’r trywydd ymchwil yn union fel rhyw helfa sy’n mynd â ni o un darn o dystiolaeth i'r llall ac mae'r awdur yn gyfuniad o gynnydd a helgi wrth iddo ddilyn y trywydd hwnnw.
Un o agweddau mwyaf diddorol y gyfrol yw’r modd y mae enwau lleoedd yn gweithredu fel math ar fynegbyst yr hanes. Mae rhai o’r enwau’n gyfareddol: Crugiau Cysgu, Banc Llwyn Owain a Mynydd Mallaen, er enghraifft. Craig yr Alltwineu wedyn a Rhyd Crych y Cawr a Llwyngwychwyr.
Dyma berl o gyfrol, o ran cynnwys ac o ran diwyg. Hon yw’r gyntaf o gyfres ‘Monograffau Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf’. Mae hi’n dwt ac yn gain, ac os yw’n ernes o’r hyn sydd i ddod, yna edrychaf ymlaen yn ddisgwylgar.
Lyn Ebenezer
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|