Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig   English  
Gwybodaeth Lyfryddol
Glyndŵr a Gobaith y Genedl: Agweddau ar y Portread o Owain Glyndŵr yn Llenyddiaeth y Cyfnod Modern
Awdur: E. Wyn James
Gweld rhagor o deitlau gan 'E. Wyn James'
ISBN: 9781845120641 (1845120647)
Dyddiad Cyhoeddi Medi 2007
Cyhoeddwr: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, Aberystwyth
Fformat: Clawr Meddal, 216x135 mm, 112 tudalen
Ar gael 
Does dim Ymatebion Darllenwyr i'r teitl hwn.
 
 
Glyndŵr a Gobaith y Genedl: Agweddau ar y Portread o Owain Glyndŵr yn Llenyddiaeth y Cyfnod Modern
Ein Pris: £9.99 
Cyfrol hygyrch sy'n amlinellu'r sylw a dderbyniodd Owain Glyndŵr (Glyn dŵr) gan ein beirdd a'n llenorion o tua diwedd yr Oesoedd Canol ymlaen, gan fanylu'n arbennig ar flynyddoedd ei anterth fel eicon cenedlaethol o tua 1880 hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf ynghyd â thaflu golwg ar ddatblygiad y ddrama Gymraeg, a lle Glyndŵr yn y datblygiad hwnnw.

An accessible volume outlining how Owain Glyndwr (Glyn dwr) as portrayed in Welsh poetry, prose and drama from the late Middle Ages onward, detailing especially the years of his zenith as a national icon from 1880 until the First World War.
Bywgraffiad Awdur:
Uwch-Ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yw E. Wyn James. Mae'n awdurdod ar lên a diwylliant Cymraeg y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Prif feysydd arbenigaeth Dr James yw'r emyn a’r faled, ac ef yw Golygydd Gwefan Ann Griffiths a Gwefan Baledi Cymru.
Gwybodaeth Bellach:
'Cenedl heb gof, cenedl heb galon.' Ac yn y cof hwnnw, y mae gan Owain Glyndwr le allweddol, heddiw fel erioed.
Wrth edrych yn ôl dros y canrifoedd, gwelwn y portread o Glynd?r yn newid yn syfrdanol o gyfnod i gyfnod. Bu'n fab darogan, yn fethiant amherthnasol, yn ddewin, yn arwr gwerin, yn rhyfelwr rhamantaidd, yn obaith tawel.
Mae'r gyfrol hon yn amlinellu’r sylw a dderbyniodd Glyndwr gan ein beirdd a'n llenorion o tua diwedd yr Oesoedd Canol ymlaen, gan fanylu'n arbennig ar flynyddoedd ei anterth fel eicon cenedlaethol o tua 1880 hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf. Cawn olwg hefyd ar ddatblygiad y ddrama Gymraeg, a lle Glyndwr yn y datblygiad hwnnw.
Gwelwn ddwy thema yn gwau trwy'r ymdriniaeth hon. Yn gyntaf, natur 'hanes' a'r ffordd y mae cenedl yn creu ac yn dehongli hanes i gyd-fynd â'i dyheadau. Yr ail thema yw natur gyfnewidiol 'Prydeindod' y Cymry o oes i oes.
Ym mhob cam yn hanes y portread o Owain Glyndwr, ailgreodd y Cymry'r gorffennol ar gyfer y presennol — er mwyn y dyfodol.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol: