Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Rhag Ofn Ysbrydion – Chwilio am y Gwir am Straeon YsbrydJ. Towyn Jones Gweld rhagor o deitlau gan 'J. Towyn Jones'
ISBN: 9781845120788 (1845120787)Dyddiad Cyhoeddi Hydref 2008
Cyhoeddwr: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, Aberystwyth
Fformat: Clawr Meddal, 216x135 mm, 256 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £9.99 
Rhag Ofn Ysbrydion – Chwilio am y Gwir am Straeon Ysbryd
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Astudiaeth o dystiolaeth ddogfennol a thystiolaeth llygad-dystion am ymweliadau honedig gan ysbrydion yn Nyfed yn bennaf gan awdur a gyfunodd ei ddyletswyddau yn weinidog yr Efengyl gydag ymchwil brwd i gefndir nifer o straeon ysbryd.

A study of both documented evidence and eye-witness accounts of alleged ghost visitations mainly in West Wales by an author who combined his duties as a minister of Religion with an enthusiastic exploration of the background to many ghost stories.
Nid cyfrol i’r rhai sydd am ddarllen straeon ysbryd iasol mo hon. Mae’r straeon hynny rhwng ei chloriau ond mae hi hefyd yn gyfrol a ddylai fodloni'r darllenwyr hynny sydd ddim am lyncu pob stori ysbryd heb chwilio ychydig yn ddyfnach am ei gwreiddiau.

Yr hen Ddyfed, yn fras, yw maes yr ymchwil. Y Ddyfed sydd â chymaint o hud wedi bod o’i chwmpas hi erioed. Mae’r awdur yn crwydro y tu hwnt i Geredigion, Caerfyrddin a Phenfro o dro i dro ond ar y cyfan, dyma gartref ysbrydol a chorfforol y cymeriadau mae Towyn Jones yn olrhain eu hanes yn y gyfrol hon.

Oes, mae yma gasgliad o straeon o bob math am ysbrydion eglwysig, ysbrydion gwrêng a bonedd fel ei gilydd, ysbrydion trafferthus a charedig. Ceir yma hefyd adrannau ar gymeriadau unigol pur nodedig fel Dr Joseph Harries, o Dinas, ger Trefdraeth.

Nid yw’r awdur byth yn derbyn y storïau hyn heb fynd i olrhain yr hanes yn ei fanylder. Pwy all yr ysbryd fod? Pa mor gredadwy yw’r ffynhonnell? A oes sawl fersiwn o’r un stori? Sut mae hynny’n cymharu â motiffau a storïau eraill sy’n digwydd ledled y byd? A phan mae’n dod o hyd i'r dystiolaeth, mae’n nodi’r ffynonellau a’r dyddiadau'n fanwl. Dylai hyn fodloni’r amheuwyr.

Mae Towyn Jones yn nodedig fel un sy’n bencampwr ar adrodd storïau ysbryd ac efallai fod hynny’n cael ei adlewyrchu yn yr ychydig o frychau sydd yn y gyfrol. Mae gormodedd o ebychnodau, lle byddai’n disgwyl ymateb gan ei gynulleidfa petai’n dweud stori, efallai, a thueddiad ambell waith i neidio o un stori i’r llall. Casgliad o straeon yw casgliad o straeon, heb gysylltiad rhwng y naill â’r llall. Mae cyfrol sy’n ceisio dilyn trywydd ymchwil mwy thematig yn anifail gwahanol. Weithiau mae yna ansicrwydd ynglŷn â pha deulu mae’r gyfrol yn perthyn iddo.

Wedi dweud hynny, mae hon yn gyfrol ddifyr a darllenadwy sydd nid yn unig yn adrodd straeon ysbryd ond, fel mae’n dweud ar y clawr, yn chwilio am y gwir am straeon o'r fath ac yn sgil hynny yn tynnu at ei gilydd gyfoeth o hanes lleol a hanes llafar a ddylai blesio sawl cynulleidfa.

Arwel Rocet Jones

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.




Gwybodaeth Bellach:
Ysbryd y Nos - Y Gwir am Straeon Ysbryd

Gyda’r gwynt yn chwibanu yng nghanghennau moel y coed a’r nosweithiau tywyll, oer yn ymddangos yn ddi-ben-draw, beth am eistedd o flaen tanllwyth o dân â llyfr da? Mewn awyrgylch mor iasoer, dim ond y dewraf fyddai’n mentro pori drwy dudalennau cyfrol newydd J. Towyn Jones Rhag Ofn Ysbrydion.

Ynddi mae J. Towyn Jones, sy’n weinidog yng Nghaerfyrddin, yn cynnig tystiolaeth ddogfennol a thystiolaeth gan lygad-dystion am ymweliadau gan ysbrydion yn Nyfed yn bennaf. Ond yn fwy na hynny mae’r awdur yn ceisio darganfod y gwir tu ôl i’r stori. O hanesion am ysbrydion wrth droed y gwely i straeon am orymdaith gan fynachod ar hyd ffordd unig, ceir yma ymchwil oes i godi gwallt eich pen.

Er bod yr awdur yn enwog am ei ddawn dweud, ei ddawn i ymchwilio i ddyfroedd tywyll y byd goruwchnaturiol aiff â’i fryd yn y gyfrol hon. Gellir dweud gyda pheth sicrwydd bod Rhag Ofn Ysbrydion yn torri tir newydd yn y Gymraeg ym maes ymchwil i’r anwel, ac y mae yma ddigon o dystiolaeth i ysgogi amheuaeth yn y sgeptig mwyaf hyd yn oed.

Bu gan J. Towyn Jones ddiddordeb mewn straeon am ysbrydion a’r goruwchnaturiol er pan oedd yn ddim o beth. Meddai, “Ar noson o eira mawr yn 1947 pan oeddwn i’n blentyn yn byw mewn ffermdy uchel, unig fe ddaeth dau gymeriad lleol heibio, Dan Waunlwyd a John Plasnewydd. Gan fod y storm wedi dod a mantell dew o eira dros y wlad, fe dreuliodd y ddau'r noson acw yn adrodd straeon ysbryd o flaen y tân. Er mai dim ond pump oed oeddwn i ar y pryd, dwi’n cofio eistedd ar fainc o flaen y tân ac roeddwn i’n hooked ar straeon y ddau.”^

Wedi’r noson honno, fe ddaeth yr awdur i ymddiddori fwyfwy mewn straeon iasol a dechreuodd eu casglu, eu hastudio a cheisio eu dadansoddi. Er mwyn cyflawni’r “gwaith fforensig” a osododd iddo’i hun bu’n rhaid iddo dwrio drwy’r cyfrifiad, cofrestri claddu, adroddiadau papurau newydd ynghyd â phapurau’r crwner a sawl cwest.

Er nad yw’r awdur yn honni iddo weld ysbryd gyda’i lygaid ei hun, fe gafodd sawl profiad iasol a gododd ofn gwirioneddol arno.
“Beth sy’n gwneud dyn weithiau’n fwy ofnus na’i gilydd? Weithiau fyddwn ni ddim yn ofni dim, ond dro arall bydd gan ddyn ofn ei gysgod. Ai cyflwr dyn yw hynny neu a oes yna rywbeth arall gerllaw sy’n codi’r ofn?” gofynna.

Mae’r gyfrol, sydd wedi ei rhannu’n naw adran, yn cynnig arolwg dadansoddol ar nifer o agweddau o fyd ysbrydion. Er enghraifft, wrth drafod poltergeistiaid yn gyffredinol cawn ymchwiliad manwl i achosion penodol; felly hefyd gyda bwganod plastai, eglwysi, doniau rhyfeddol ambell unigolyn, a rhai ymddangosiadau arswydus o ddychrynllyd. Ar ôl darllen gwaith J. Towyn Jones nid tanio’r dychymyg fydd raid ond ei ffrwyno.

Medd yr awdur eto, “Fe heria i chi, beth bynnag fo’ch safbwynt ar ysbrydion, i ddarllen y gyfrol hon am hanner nos yng ngolau cannwyll o flaen hen wardrob a’r drws yn gil agored a’ch cefn ato. A gwneud hynny heb droi rownd unwaith i edrych dros eich ysgwydd – mi fyddwn i’n dweud fod hynny bron yn amhosib!”

A wnewch chi fentro?
Diweddarwyd ar 08 Mawrth 2011
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Cyfres Hwylio 'Mlaen: ...
Catrin Stevens
£3.00
 
Prynwch
Plentyndod Ym Mhenfro - ...
Stan Jones
£4.50
 
Prynwch
Twenty Thousand Saints
Fflur Dafydd
£9.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Alarch Du, Yr
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Prynwch
Saesneg
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Prynwch