Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Ar Bigau: Dim Ond Enwau
Catherine MacPhail
ISBN: 9781845212025 (1845212029)Dyddiad Cyhoeddi Mehefin 2007
Cyhoeddwr: CAA Cymru, Aberystwyth
Golygwyd gan Delyth Ifan Addaswyd/Cyfieithwyd gan Gordon Jones.Addas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 3/4 Fformat: Clawr Meddal, 196x130 mm, 80 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £4.99 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Un o lyfrau'r gyfres Ar Bigau ar gyfer arddegwyr a darllenwyr anfoddog. Mae Llion yn meddwl mai fe yw'r bachgen mwyaf poblogaidd a doniol yn yr ysgol. Felly, pam mae pawb yn credu ei fod wedi dwyn ffôn symudol Tony Owen? Addasiad o Sticks and Stones.

One of the titles in the Ar Bigau series for teenagers and reluctant readers. Llion thinks that he's the most popular and funny pupil at school. So why has everybody come to the conclusion that he's stolen Tony Owen's mobile phone? A Welsh adaptation of Sticks and Stones.
Braf yw gallu dweud fod stori afaelgar a chyffrous rhwng cloriaur llyfr yma. Ac yn hufen ar y cyfan, y maen arbennig o addas ar gyfer bechgyn Cyfnod Allweddol 3 a 4. Fel cyn-athrawes, fe wn or gorau pa mor anodd yw cael llyfrau addas i fechgyn or oed yma, ond mae Dim ond Enwau yn mynd i hoelio sylw sawl un, rwyn sicr.

O anwybyddur clawr (sef unig wendid y llyfr ar gyfres yn gyffredinol yn fy marn i), ceir yma hanes difyr Llion Llion Eynon, Brenin y Llysenwau. Treulior diwrnodau yn creu llysenwau iw gyd-ddisgyblion a chwarae triciau arnynt y mae Llion. Ac yntaun credu ei fod yn feistr ar ei grefft, y maen cymryd digwyddiad difrifol iawn iddo sylweddoli nad pawb syn mwynhau ac yn gwerthfawrogi ei glyfrwch.

Anodd iawn gwybod, felly, pwy na fyddai eisiau ei weld mewn trwbl yn yr ysgol, gartref a gydar heddlu hyd yn oed. Ond gyda chymorth annisgwyl iawn fe ddaw tro ar fyd ac fe sylweddola Llion Eynon pa mor greulon y bu iw gyfoedion.

Ceir ymar doniol ar difrifol, y tynnu coes ar tynnu gwallt, ac ar ddiwedd y stori ni ellir ond cofio am yr hen ddywediad – Maen rhaid cael y drwg cyn y da.

Siwan Wyn Drake

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.


Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Cyfres Pen Dafad: Jibar
Bedwyr Rees
£2.95
 
Prynwch
Cyfres Pen Dafad: Ceri Grafu
Bethan Gwanas
£2.95
 
Prynwch
Cyfres Ar Bigau: Cysgod ...
Ann Halam
£4.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mam - Cerddi gan Famau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Talk Welsh
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Plant
Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
£5.99
 
Prynwch