Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Llyfrau Henri Helynt: Pants Henri Helynt
Francesca Simon
ISBN: 9781845212360 (1845212363)Dyddiad Cyhoeddi Hydref 2007
Cyhoeddwr: CAA Cymru, Aberystwyth
Golygwyd gan Delyth Ifan Darluniwyd gan Tony RossAddaswyd/Cyfieithwyd gan Elin Meek.Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 194x124 mm, 102 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £4.99 
Sgr y Cwsmeriaid ar gyfartaledd:
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
 
Darllen Adolygiadau...
Addasiad Cymraeg o un o lyfrau'r gyfres 'Horrid Henry' (Horrid Henry's Underpants); llyfrau darllen hwyliog ar gyfer CA2.

A Welsh adaptation of one of the titles in the 'Horrid Henry' series (Horrid Henry's Underpants); a collection of entertaining reading books for KS2.
Mae e 'nl! Dyma Henri Helynt yn dychwelyd am ragor o ddrygioni mewn dwy gyfrol ac wyth stori wych (Bom Drewllyd Henri Helynt a Pants Henri Helynt). Maen brwydro yn erbyn ei elynion arferol: rhieni dioddefgar (Paid, Henri!), athrawon dychrynllyd (Miss Hen Sguthan), ffrindiau pryfoclyd (Bethan Bigog, Glenda Glyfar, Tudwal Tew) – ac wrth gwrs, Alun Angel (y Mwydyn), ei frawd bach perffaith ofnadwy. Pawb, yn fras, heb ddeall hawl Henri i fyw ei fywyd delfrydol (soffa, teledu, pitsa, comics . . .). Nid bod bywyd yn hawdd i Henri druan, dim o bell ffordd: sut, er enghraifft, y bydd en osgoir cywilydd o ddangos i bawb, mewn gwers ymarfer corff, y pants les, pinc chalonnau pefriog a wisgodd drwy gamgymeriad un bore? Sut fydd en osgoi bwyta llysiau ych a fi bob nos am wythnos, ar l taro bargen gyda'i dad? A sut fydd en llwyddo i ddarllen (darllen?!!) digon o lyfrau mewn noson i ennill tocyn teulu i barc thema newydd sbon?

Erbyn hyn mae llyfrau Horrid Henry wedi concror byd: ceir cyfieithiadau i sawl iaith, gan gynnwys Sbaeneg, Eidaleg, Ffinneg ac Islandeg. Bydd pob rhiant a phlentyn mewn addysg yng Nghymru (yn enwedig rhieni bechgyn syn llawer rhy brysur i ddarllen llyfrau) yn ddiolchgar iawn fod y Gymraeg yn eu plith. Mae addasiad Elin Meek yn hyfryd o fywiog, ac yn bleser iw ddarllen; a lluniau Tony Ross, fel arfer, yn ychwanegun ffraeth at y testun.

Mary Ann Constantine

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council

Rhoddodd Niamh o Castell Newydd Emlyn i'r teitl yma ac ysgrifennodd:
"Roedd y llyfr Pants Henri Helynt yn ddoniol. Roedd Henri Helynt yn grac yn y llyfr. Dyna beth oedd y peth gorau am y llyfr."
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Tinc a Thonc
Ceinwen Roberts
£1.00
Llyfrau Dau Dau: Llyfr ...
Mary Vaughan Jones
£2.50
Helpwch eich Plentyn / ...
Elin Meek
£4.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch