Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Ar Bigau: Deri (Ddim) yn Dair ar Ddeg
Pete Johnson
ISBN: 9781845212438 (1845212436)Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2007
Cyhoeddwr: CAA Cymru, Aberystwyth
Golygwyd gan Delyth Ifan Darluniwyd gan Sarah SpencerAddaswyd/Cyfieithwyd gan Helen Emanuel Davies.Addas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 3/4 Fformat: Clawr Meddal, 198x130 mm, 69 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £4.99 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Un o lyfrau'r gyfres Ar Bigau ar gyfer arddegwyr a darllenwyr anfoddog. Stori am Deri sy'n teimlo pwysau'i gyfoedion i ddilyn ffasiwn a steil arbennig o fyw. Addasiad o Diary of an (Un)teenager.

One of the titles in the Ar Bigau series for teenagers and reluctant readers. Deri feels the pressure of his peers to follow the same fashion and trends as them. A Welsh adaptation of Diary of an (Un)teenager.
Addasiad o waith Pete Johnson yw’r llyfr hwn o’r gyfres ‘Ar Bigau’. Ceir yma ddyddiadur y prif gymeriad, Deri, sydd ddim cweit yn deall pam fod ei ffrind gorau, Zac, yn gwneud cymaint o ymdrech i newid ei ddelwedd a’i ymddygiad am ei fod bellach yn dair ar ddeg! Mae Deri’n benderfynol na fydd ef yn newid dim, er bod disgwyliadau arno yntau i ‘newid’ ei ffordd pan fydd ef yn cyrraedd y garreg filltir bwysig hon. Diddorol yw gweld sut mae’n datblygu yn ystod y stori.

Mae diniweidrwydd y cymeriadau’n tynnu gwên yn aml iawn, a dychmygaf y bydd y llyfr hwn yn adnodd gwych ar gyfer athrawon wrth geisio denu bechgyn, yn arbennig, i ddarllen. Mae’n darllen yn rhwydd, yr ieithwedd yn syml, a’r eirfa’n addas ar gyfer plant yn eu harddegau – mae’r awdur yn sicr wedi adnabod ei gynulleidfa. Dyma’r math o lyfr sydd ei angen er mwyn i blant yn eu harddegau fwynhau darllen.

Siân Eirug

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.


Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Cyfres Pen Dafad: Jibar
Bedwyr Rees
£2.95
 
Prynwch
Cyfres Pen Dafad: Ceri Grafu
Bethan Gwanas
£2.95
 
Prynwch
Cyfres Whap!: O Ongl Arall
Martyn Geraint
£2.00
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch