| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Cyfres Ar Bigau: Teulu TwyllKevin Brooks
Gweld rhagor o deitlau gan 'Kevin Brooks' |
ISBN: 9781845212445 (1845212444)Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2007
Cyhoeddwr: Canolfan Astudiaethau Addysg, AberystwythGolygwyd gan Delyth Ifan
Darluniwyd gan Robin LawrieAddaswyd/Cyfieithwyd gan Helen Emanuel Davies.Addas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 3/4
Fformat: Clawr Meddal, 198x130 mm, 120 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£4.99
| |
| Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
Un o lyfrau'r gyfres Ar Bigau ar gyfer arddegwyr a darllenwyr anfoddog. Croeso i gartref y teulu Tomos: pedair cenhedlaeth o ddynion diog, celwyddog a barus. Addasiad o Bloodline. Clip SainOne of the titles in the Ar Bigau series for teenagers and reluctant readers. Welcome to the Tomos family: four generations of lazy, lying and greedy men. A Welsh adaptation of Bloodline. Play Audio
|
|
Nofel yn y gyfres ‘Ar Bigau’ yw Teulu Twyll, ac yn sicr mae’r teitl awgrymog yn rhoi syniad pa fath o gymeriadau slei sydd i’w cael yn y stori. Ceir sefyllfa gyffrous wrth i ferch walltgoch mewn lledr du ruthro i dŷ’r Tomosiaid a’u cadw’n wystlon yn eu cartref wedi iddi ddwyn arian o siop leol. Mae’r nofel i gyd wedi’i lleoli yn y tŷ a chawn wybod sut mae’r cymeriadau gwahanol yn dod i delerau â’r sefyllfa.
Yn anffodus i’r ferch, nid pobl gyffredin mo trigolion y tŷ. Pedair cenhedlaeth o ddynion blin a hunanol sydd yma. Wrth ddarllen eu hanes, allwn ni ddim cydymdeimlo lawer â nhw yng nghanol eu helynt gan nad oes dim byd agos-atoch-chi amdanyn nhw. Cymeriadau digon annymunol yw’r dynion, ond dyna sy’n ychwanegu cyffro i’r stori – eu hymddygiad barus a’r ffordd maen nhw’n delio gyda’u hymwelydd annisgwyl. Pe bai’n rhaid teimlo trueni dros un ohonyn nhw, Arthur, bachgen 15 oed, fyddai hwnnw gan ei fod yn cael ei orfodi i wneud amryw o bethau yn groes i’w ewyllys. Gwelwn nad oes ganddo’r awydd lleiaf i fod yng nghwmni ei dad, ei dad-cu na’i hen dad-cu – sefyllfa drist iawn.
Hoffais y ffordd yr adeiladwyd y nofel hon. Roedd digon o ddigwyddiadau annisgwyl yn y plot hyd at y tudalennau olaf. Tybiaf y bydd hi’n nofel fydd yn apelio at griw o bobl ifanc sydd wrth eu bodd yn darllen am arian, trais a thwyll. Un cwestiwn sy’n codi wrth i chi ddarllen y llyfr – ‘beth fyddech chi’n ei wneud yn yr un sefyllfa?’
Huw Vaughan Hughes
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|