Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Ar Bigau: Sbectol y Gwirionedd
James Lovegrove
ISBN: 9781845212469 (1845212460)Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2007
Cyhoeddwr: CAA Cymru, Aberystwyth
Golygwyd gan Delyth Ifan Darluniwyd gan Mike CollinsAddaswyd/Cyfieithwyd gan Helen Emanuel Davies.Addas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 3/4 Fformat: Clawr Meddal, 198x130 mm, 66 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o Stoc - Archebir yn l y galw Ein Pris: £4.99 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Un o lyfrau'r gyfres Ar Bigau ar gyfer arddegwyr a darllenwyr anfoddog. Mae Hefin, ffrind gorau Dan, yn cael syniadau mawr a rhyfedd yn aml. Nawr mae Hefin wedi creu Sbectol y Gwirionedd; mae'n dweud ei fod e'n gallu gweld pethau drwyddyn nhw, pethau does neb i fod i'w gweld. Addasiad o Ant God.

One of the titles in the Ar Bigau series for teenager and reluctant readers. Hefin, Dan's best friend, often has big and weird ideas. He has now devised a pair of Truth Spectacles, which enables him to see different things through them, things that no one else should see. A Welsh adaptation of Ant God.
Llyfr arall or gyfres Ar Bigau yw Sbectol y Gwirionedd (addasiad gan Helen Emanuel Davies o un o lyfrau Barrington Stoke Ltd) ac rwyn hynod falch o ddweud ei fod yn llyfr arall hyfryd ar gyfer bechgyn (a merched, wrth gwrs) yn eu harddegau.

Ceir yma stori afaelgar ac arswydus, gyda dechreuad campus. Maen llawn dirgelwch, gydar darllenydd yn sicr o fod eisiau gwybod beth yw cyfrinach fawr Dan.

Bachgen cyffredin yw Dan, ac mae e'n wrthgyferbyniad llwyr iw ffrind, Hefin. Syniadau mawr a rhyfedd syn mynd bryd Hefin, a gall greu pob math o ddyfeisiadau newydd, gwyddonol. Od ond diogel yw pob syniad a chreadigaeth sydd wedi bod cyn hyn, ond gydar ddyfais ddiweddaraf, sef Sbectol y Gwirionedd, fe sylweddolar ddau ffrind yn fuan iawn eu bod wedi mynd un cam yn rhy bell y tro hwn.

Llwyddodd yr awdur i greu naws anesmwyth drwyr stori gyfan, a dawr cyfan i uchafbwynt brawychus ar y diwedd.

Weithiau, maen amlwg ei bod yn well i ni geisio peidio gwybod y cyfan nac ymhl gormod r gwirionedd chwaith. Wrth feddwl am ffawd neu ragluniaeth, ac wrth ystyried ein lle ni yn y byd ar dylanwad ar cyfrifoldeb sydd arnom wrth fyw ein bywydau o ddydd i ddydd, camp i chi edrych ar forgrugyn yn yr un golau byth eto ar l darllen y stori wych yma.

Siwan Wyn

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.


Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Cyfres Pen Dafad: Jibar
Bedwyr Rees
£2.95
 
Prynwch
Cyfres Pen Dafad: Ceri Grafu
Bethan Gwanas
£2.95
 
Prynwch
Cyfres Whap!: O Ongl Arall
Martyn Geraint
£2.00
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mam - Cerddi gan Famau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Talk Welsh
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Plant
Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
£5.99
 
Prynwch