|
Casgliad o gerddi gan bump o feirdd ifanc: Catrin Dafydd, Eurig Salisbury, Aneirin Karadog, Iwan Rhys a Hywel Griffiths. Ceir yma gerddi ar wahanol bynciau ac mewn gwahanol fesurau - canu caeth, cerddi ar fydr ac odl a cherddi'n y wers rydd.
A compilation of poetry by five young Welsh poets: Catrin Dafydd, Eurig Salisbury, Aneirin Karadog, Iwan Rhys and Hywel Griffiths. The poems range in topic and metres.
|
|
Cyfrol gan bump o feirdd ifanc, sef Catrin Dafydd, Eurig Salisbury, Aneirin Karadog, Iwan Rhys a Hywel Griffiths, yw Crap ar Farddoni, ac fel y gellid disgwyl gyda chyfrol o’r fath, mae ynddi ddigon o amrywiaeth. Mae’r pump ohonyn nhw’n feirdd sy’n dra adnabyddus a phob un ohonyn nhw wedi cipio prif wobrau Eisteddfod yr Urdd, ac yn prysur anelu’n uwch.
Mae teitl y gyfrol yn un difyr iawn, a’r llun o feiro yn sgriblo ar bapur tŷ bach ar y clawr yn codi gwên, ond a dweud y gwir, mae gan y pump yma grap go dda ar farddoni, ac maent yn llwyddo trwy gyfrwng y teitl a thrwy gyfrwng nifer o gerddi yn y gyfrol ei hun i wneud tipyn o hwyl am eu pennau eu hunain. Does dim un o’r pump sydd wedi cyfrannu at y gyfrol hon yn fardd sy’n cymryd ei hun ormod o ddifri.
Mae Eurig yn dweud yn y gerdd deitl wrth sôn am y gyfrol ac amdano’i hun;
Caf grap mewn gobaith, weithiau,
Y daw rhywdro athro iau
Neu rhyw sgolor i dorri
Dalen o hon daliwn i
I wenu pe bai hwnnw’n
Cael crap ar y cleciwr hwn.
Ac er y byddai’r gyfrol hon yr un mor addas fel cyfrol tŷ bach ag y byddai fel cyfrol bwrdd coffi, dwi’n amau’n gryf na fyddai neb yn rhwygo un tudalen allan ohoni.
Mae ynddi ganu caeth, cerddi ar fydr ac odl a cherddi penrhydd, ac mae arddulliau’r pum bardd a’r testunau y maent yn canu iddynt yn gwneud y gyfrol hon yn ddifyr ac amrywiol.
Mae’r canu yn newydd ac yn ffres, ond nid oes gwyro ymhell yma oddi wrth ein traddodiad barddol ychwaith. Mae ynddi gywyddau gofyn, cywyddau diolch, a chywyddau tro trwstan, yng nghanol cerddi telynegol a theimladwy, cerddi digri ac absẃrd a sawl cerdd sy’n deillio o’r traddodiad hip-hop.
I gyd-fynd â chyhoeddi’r gyfrol hon, neu yn hytrach o bosibl, i’w hyrwyddo, aeth y pum bardd â’u Crap ar Farddoni ar daith o gwmpas Cymru. Ac yn sgil ffresni a newydd-deb y gyfrol, nid yn unig y beirdd a oedd ar daith oedd yn ifanc, ond y gynulleidfa hefyd. Mae’r gyfrol hon yn sicr yn apelio at gynulleidfa newydd ifanc wrth i’r pum bardd yma ffurfio cenhedlaeth newydd o feirdd sy’n dechrau cyhoeddi'u barddoniaeth. Ers blynyddoedd lawer, ac yn llawer rhy hir o bosibl, mae beirdd llawer hŷn na hwynt wedi bod yn cael eu galw yn feirdd ifanc, ac mae’n hen bryd i ni gael to newydd o feirdd i arddel y teitl hwnnw.
Ifan Prys
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|