Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Blodau Gwyllt Cymru ac Ynysoedd Prydain
John Akeroyd, Bethan Wyn Jones
ISBN: 9781845270841 (1845270843)Dyddiad Cyhoeddi Gorffennaf 2006
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Darluniwyd gan Bob GibbonsFformat: Clawr Meddal Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £12.50 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Mae'r gyfrol hon yn adnodd delfrydol i'ch helpu i adnabod blodau gwyllt a dysgu mwy amdanyn nhw. Mae pob cofnod yn cynnwys gwybodaeth am faint y blodau, eu cynefin a pha fisoedd o'r flwyddyn y maent yn debygol o ymddangos. Ceir llun lliw o bob blodyn, a chroesgyfeirio i blanhigion tebyg. Addasiad Cymraeg o A Guide to Wild Flowers of the British Isles.

This book is the ideal way to help you identify wild flowers and discover more about them. Each entry contains information on size, habitat and the months it is most likely to be spotted. Every flower is illustrated with a colour photo and is cross-referenced with similar species. A Welsh adaptation of John Akeroyd's A Guide to Wild Flowers of the British Isles.
Cyfrol syn cynnwys 240 or 1500 a mwy o flodau gwyllt mwyaf cyffredin Ynysoedd Prydain yw addasiad Cymraeg Bethan Wyn Jones o lyfr y botanegydd cydnabyddedig, John Akeroyd. Yn sicr, maen gyfrol syn llanw bwlch pendant. Serch hynny, o ddefnyddio addasiad, mae gwasg yn gyfyngedig i gynnwys y gyfrol wreiddiol a gan mai cyfrol yn canolbwyntio ar y tiroedd isel yw honno, nid ywr addasiad yn llawn adlewyrchu natur gyfoethog blodau ucheldir Cymru. Mae hyn yn wendid ond yn un syn cael ei gydnabod gan y cyhoeddwr.

Ir rhan fwyaf, mae enwau Cymraeg ar flodau gwyllt yn ddieithr neun gyfyngedig i gynnwys y border bach, ond in cyndeidiau roedd adnabod y blodau au rhinweddau meddyginiaethol a maethol yn sylfaenol bwysig. Maer llyfr yn cyfrannu at adennill y dreftadaeth werthfawr ond golledig yma.

Maen addas o ran maint a gwneuthuriad i fod yn llyfr maes ac maer lluniau o safon uchel gydar lliwiau wedi eu hargraffun gywir i adlewyrchu gwir liw'r blodyn. Gosodir blodyn ar bob tudalen a diwyg taclus syn ei gwneud yn hawdd dod o hyd i'r wybodaeth berthnasol. Yn ogystal, maer cysgodlun ar ben y ddalen yn gymorth i ddarganfod yn gyflym flodau ac iddynt strwythur penodol. Ceir disgrifiad o strwythur blodau, sut i chwilio ac adnabod blodau, eu cynefinoedd a hefyd materion ynghylch cadwraeth ar gyfraith syn ymwneud blodau gwyllt.

Cryfder pob llyfr or fath yw mynegai syml a hawdd ei ddefnyddio a hwnnw wedi ei strwythuro un ai yn l teulu a rhywogaeth, lliw a natur y blodyn, yr enw cydnabyddedig Linneaidd Lladin neur enw Cymraeg safonol. Maer blodau yn y llyfr hwn wedi eu trefnu yn l y drefn teulu a rhywogaeth gydnabyddedig, maer mynegai Cymraeg yn bresennol ond nid oes mynegai Linneaidd ar gael i glymu cynnwys y llyfr gyda safonau gwyddonol cydnabyddedig. Yn y cyd-destun gwyddonol maer enw Lladin cyn bwysiced r enw cyffredin Cymraeg. Yn ogystal, bydd botanegydd yn y maes yn aml am adnabod blodyn ac iddo strwythur penodol, er enghraifft, blodyn 5 petal melyn. Maer cysgodlun yn gymorth ond byddai mynegai yn rhestru blodau yn l eu lliw a natur, er enghraifft, yn rhestrur holl flodau 5 petal melyn gydai gilydd ar draws pob rhywogaeth, yn gymorth mawr mewn llyfr maes tebyg i hwn.

Byddwn yn cymeradwyor gyfrol ir lleygwr sydd diddordeb mewn blodau a hefyd i ysgolion sydd am astudio blodaur maes.

Penri James

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council

Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Ddraig Goch, Y
Emlyn Roberts
£6.95
 
Prynwch
Neighbours from Hell? - ...
Mike Parker
£8.95
 
Prynwch
Tales from Wales: ...
Myrddin ap Dafydd
£4.50
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch