| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Blwyddyn Fawr Glyn WiseGlyn Wise
Gweld rhagor o deitlau gan 'Glyn Wise' |
ISBN: 9781845271039 (1845271033)Dyddiad Cyhoeddi Mai 2007
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, LlanrwstGolygwyd gan Beca Brown
Fformat: Clawr Meddal, 210x210 mm, 72 tudalen
Iaith: Cymraeg
Archebir yn ôl y galw Ein Pris:
£7.50
| |
| Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
|
Cyfrol sy'n adrodd hanes Glyn Wise, bachgen 18 oed o Flaenau Ffestiniog a gafodd ei dderbyn i fod yn ymgeisydd ar 'Big Brother' yn 2006. Caiff ei gofio am fod yn ddiddanwr naturiol, yn gogydd anobeithiol ac yn Gymro balch a ddaeth â'r iaith Gymraeg i sylw cynulleidfa gwbl newydd. Dyma fwrw golwg ar y modd y gwireddodd ei freuddwyd a chael enwogrwydd.
An account of Glyn Wise, an 18 year-old from Blaenau Ffestiniog who was accepted as an applicant to take part in Big Brother 2006. He is remembered for being a natural comedian, an appalling chef and a patriotic Welsh-man who exposed the Welsh language to a whole new audience. This book looks at the way he made his dreams come true and at his path to fame.
|
|
Dyma lyfr gan Beca Brown, sydd yn adrodd hanes bywyd y bachgen ifanc hoffus o Flaenau Ffestiniog. Yma, cawn wybod sut y daeth disgybl cyffredin o ysgol Dyffryn Conwy yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd y wlad. Dydi hi ddim yn gyfrinach fod bywyd Glyn wedi newid yn aruthrol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae’r llyfryn diddorol yma yn crynhoi’r digwyddiadau mewn modd hwylus a difyr. Yn ogystal â hyn, cawn ychydig o hanes Glyn yn blentyn a chyfweliad gyda mam Glyn ei hun!
A ydych chi erioed wedi breuddwydio beth yn union sydd yn rhaid ei wneud er mwyn cael bod ar y rhaglen Big Brother? Os mai’r ateb ydi ‘Do’, dyma’r llyfr i chi! Mae Glyn yn datgelu’r hyn yr oedd yn rhaid iddo ei wneud er mwyn cael lle yn nhŷ’r Big Brother, ac mae’n rhoi ychydig o gyngor i’r rhai yn eich plith sydd yn ystyried efelychu camp anhygoel Glyn o gael lle yn y tŷ gwallgof.
Mae’n siŵr fod pawb yn cofio’r stŵr a achosodd Glyn trwy siarad Cymraeg yn y tŷ gyda’i gyd-gystadleuydd, Imogen. Yn dilyn hyn, ceisiodd Big Brother wahardd y ddau rhag defnyddio’r iaith, gan gyhuddo Glyn o geisio siarad mewn cod! Yn wir, llwyddodd Glyn i gyflwyno’r iaith i gynulleidfa hollol newydd, rhywbeth roedd Glyn yn benderfynol o’i gyflawni: ‘O’n i isho dangos bod yr iaith Gymraeg yn fyw, a pha well ffordd i neud hynny na thrwy ei siarad hi efo rhywun fel Imogen’.
Ond nid ceisio hybu’r iaith Gymraeg yw’r unig beth mae o wedi bod yn ei wneud. Mae Glyn wedi ymddangos ar nifer o wahanol raglenni yn cynnwys ‘Uned 5’, ‘Planed Plant’, ‘Wedi 7’ a The Charlotte Church Show. Hefyd, mae o wedi bod yn gwneud ychydig o waith modelu. Ond yr hyn mae Glyn wedi ei fwynhau fwyaf yw cael y cyfle i gyflwyno’r rhaglen 'C2' ar Radio Cymru gyda Magi Dodd.
Ond beth bynnag mae Glyn yn penderfynu ei wneud yn y dyfodol, mae un peth yn sicr mae o am barhau i ddiddanu’r genedl, ac efallai y gwelwn Glyn yn rhyddhau llyfr arall gwerth ei ddarllen yn y dyfodol!
Llŷr Evans
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|