| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Hwyl Gŵyl 3: Dathlu Rygbi CymruElin Meek
Gweld rhagor o deitlau gan 'Elin Meek' |
ISBN: 9781845271114 (1845271114)Dyddiad Cyhoeddi Gorffennaf 2007
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, LlanrwstAddas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2
Fformat: Clawr Meddal, 280x210 mm, 64 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£6.95
| |
| Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
Llyfr am draddodiad, hanes, campau ac arwyr rygbi Cymru. Clip SainA book about the tradition, history, heroes and successes of Welsh rugby. Play Audio
|
|
Dyma lyfr diddorol a defnyddiol iawn sy’n llawn gwybodaeth am y gêm fawr yma yng Nghymru. Yn wir, does dim angen yr un llyfr arall arnoch, oherwydd mae popeth yn gynwysedig yma – o brif elfennau’r gêm i ddyddiadur wythnos ym mywyd chwaraewr rygbi proffesiynol i hanes y Groggs. Mae’r llyfr hwn yr un mor ddiddorol i’r cefnogwr brwd sydd eisoes yn meddwl ei fod yn gwybod popeth ag ydyw i’r cefnogwr ifanc, newydd.
Ceir yma luniau a diagramau lliw sy’n ddeniadol dros ben, ac yn gymorth arbennig wrth geisio deall rheolau’r gêm neu roi wyneb i’r enwau cyfarwydd hynny sy’n arwyr yn hanes y gêm – Barry John, Mervyn Davies a J. P. R. Williams i enwi ond ychydig. Yn anrheg Nadolig gwych, mynnwch gopi i lenwi hosan, a gallaf eich sicrhau fod yna oriau o fwynhad rhwng cloriau’r gôl adlam hwn o lyfr. Mae un peth yn sicr, bydd yna gopi ar fy silff lyfrau i! Hanfodol i bob ffan chwaraeon.
Gareth James
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
|
|
Diweddarwyd ar 16 Awst 2010
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|