Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cerddi Lloerig: Arwyr!
ISBN: 9781845271152 (1845271157)Dyddiad Cyhoeddi Gorffennaf 2008
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Golygwyd gan Myrddin ap Dafydd Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 196x128 mm, 72 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £4.50 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Casgliad o gerddi i blant yn sôn am arwyr. Mae arwyr yn gwneud i ni freuddwydio - ac mae barddoniaeth hefyd yn medru perthyn yn agos iawn at fyd y freuddwyd. Mae'r ddau yn un yn y gyfrol hon - cerddi am arwyr go-iawn, arwyr yn y teulu, arwyr dychmygol. Ac weithiau, mae'r collwyr yn medru bod yn arwyr hyd yn oed!

A collection of poems about heroes for children. Heroes make us dream - and poetry can sometimes be dreamy as well. Both heroes and poetry are in this volume - real heroes, heroes in the family, imaginary heroes. Occasionally the losers can be heroes as well!
Cerddi am y dewr ar dawnus ywr geiriau ar y clawr i ddisgrifior casgliad hwn, a dynan union a geir o fewn cloriaur gyfrol. Ceir rhai arwyr syn gyfarwydd i ni, rhai arwyr dychmygol, aelodau or teulu, athrawon yn yr ysgol, dyn tn, arwyr y gorffennol a rhai arwyr cyffredin fel chi a fi. Maer rhestr or rhai hynny syn cael eu portreadu fel arwyr yn ddiddiwedd. Beth bynnag yw'ch oed, mae nifer helaeth or cymeriadau syn llenwi tudalennaur gyfrol ar ffurf geiriau neu luniau yn gymeriadau yr ydym nin eu hadnabod ac yn eu gweld yn ddyddiol.

Oherwydd bod y beirdd sydd wedi cyfrannu at y gyfrol mor amrywiol, gan gynnwys ambell gerdd a ysgrifennwyd ar y cyd gan ddosbarthiadau o ddisgyblion, mae arddull, iaith a chynnwys pob cerdd yn gwahaniaethu, felly mae yna rywbeth at ddant pawb. O dudalen i dudalen, rydym yn pendilio or ysgafn ir teimladwy, or arallfydol ir dirdynnol, ir hollol annisgwyl, gyda phob cerdd yn cynnig rhywbeth gwahanol i ni.

Cyfrol syn gyfle gwych i blant glywed a defnyddio rhythm ac odl, ac i ddarllen ac ysgrifennu barddoniaeth. Cynigir amrywiaeth eang o syniadau ac awgrymiadau gyda thema fel Arwyr; wedir cyfan gall unrhyw un fod yn arwr.

Ffion Bowen

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Siawns i Ddawnsio / ...
Prydwen Elfed-Owens
£5.00
 
Prynwch
Idris y Cawr
Catherine Aran
£3.95
Cerddtastic - Cerdd ...
 
£25.00
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch