|
Nofel afaelgar gan awdures brofiadol. Dyma nofel wedi'i lleoli mewn ysbyty meddwl, sy'n mentro i fyd y 'nytars' a'r gwrthodedig, gyda chanlyniadau annisgwyl. Sut mae cymdeithas yn penderfynu pwy sy'n wallgof? Pwy sydd â'r awdurdod i roddi gwragedd mewn ysbyty meddwl? Nofel gredadwy a chyfoethog.
A gripping novel by an experienced author. This novel is located at a psychiatric hospital, and ventures into the worlds of 'nutters' and the rejected, with unexpected results. How does society decide who's insane? Who has the authority to send women to an assylum? A believable and rich novel.
|
|
Iselder ar ôl geni plentyn yw’r pwnc o dan sylw yn nofel ddiweddaraf Angharad Tomos, y gyntaf ganddi ers 2004. Mae'r prif gymeriad dienw yn treulio cyfnod mewn ward seiciatryddol yn yr ysbyty, ac mae dau linyn i'r naratif: cefndir y salwch, a’r berthynas rhwng y menywod sy'n gleifion ar y ward. Yr hyn sy’n rhoi dimensiwn gwahanol i’r stori yw bod y cleifion eisoes yn adnabyddus i ni: o Heledd y cynfeirdd hyd at Bet Tywyll Heno, daw rhai o gymeriadau mwyaf ansad llenyddiaeth Gymraeg yn fyw eto ar ward Rhydderch.
Byddai'n hawdd i nofel am iselder ogordroi’n fyfïol ddiflas, ond mae Angharad Tomos yn ormod o feistr ar ei chrefft i’n siomi. Mae'n nofel gignoeth o onest sy'n gwrthod celu'r gwir am y siomedigaethau a ddaeth i ran y prif gymeriad: trawma colli plentyn yn y groth, poen erchyll genedigaeth y babi nesaf, y problemau wrth fwydo o'r fron, y rhwyg yn ei phriodas, ac yn bennaf oll pydew du'r iselder ysbryd.
Os yw'r personol yn wleidyddol, yna dyma nofel fwyaf gwleidyddol Angharad Tomos hyd yma. Daw’r prif gymeriad i’r casgliad mai gorthrwm gan ddynion sy’n gyfrifol am roi’r menywod yn yr ysbyty, ac mae mwy nag adlais o Yma o Hyd yn agwedd y rhai sydd mewn awdurdod tuag at y Gymraeg. Nid gelyniaeth sydd yma ond anwybodaeth nawddoglyd: ‘... you actually read Welsh novels don't you..,’ meddai'r seiciatrydd mewn rhyfeddod wrth y prif gymeriad, sy’n llyfrgellydd. Ar ben hynny, mae'r proffesiwn yn ymddangos yn gwbl ddi-glem ynglŷn â sut i drin salwch meddwl, yn rhannu gwahanol gyffuriau yn y gobaith y bydd un math yn gweithio, ond heb y gallu i ddeall dim ar bersonoliaethau na diwylliant y cleifion a’u cymdeithas.
Yn y diwedd, cyfeillgarwch y menywod ar y ward ac ailgydio yn y pleser o ddarllen sy’n gwella’r claf, a chan mai creadigaethau llenyddol yw’r cleifion, mae’n codi cwestiwn diddorol. Ai cymeriadau go iawn fu’n gwmni iddi ar y ward neu ffigyrau’r dychymyg? Llythyr caru at lenyddiaeth yw’r bennod olaf, ac at allu rhyfeddol llenyddiaeth i adnabod pobl a’u derbyn nhw fel maen nhw.
Bu 2007 yn flwyddyn arbennig o safbwynt y nofel Gymraeg, ac mae campwaith diweddaraf Angharad Tomos ymhlith y goreuon heb os. Bydd cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn y flwyddyn nesaf yn ornest a hanner.
Kate Crockett
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
"Dyma'r nofel fwyaf gafaelgar i mi ddarllen ers cryn amser. Credaf fod teimladau, meddyliau ac ymddygiad y prif gymeriad yn fyw a chredadwy. "
"Dyma nofel dreiddgar ond rhwydd i'w darllen sy'n agor drws i fyd anobaith salwch meddwl. Er hyn mae digon o hiwmor yma, ac ambell frawddeg sy'n eich llorio'n llwyr. Mae'r nofel yn symud yn rhwydd: er y temlais fod angen golygu ambell bennod i osgoi ailadrodd, ac ni theimlais fod y bennod olaf yn ychwanegu fawr ddim at y nofel, am mai pregeth a geir ynddi. Nofel afaelgar a phwysig sy'n dangos crefft a dawn meistrolgar Angharad Tomos. "
|