Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Llythyrau'r Wladfa 1945-2010
ISBN: 9781845272920 (1845272927)Dyddiad Cyhoeddi Awst 2010
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Golygwyd gan Mari Emlyn Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 424 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £9.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Detholiad o lythyrau cyhoeddus a phersonol gan Wladfawyr a Chymry ar y ddwy ochr i'r Iwerydd o 1945 hyd heddiw. Dilyniant i'r gyfrol Llythyrau'r Wladfa 1865-1945 a gyhoeddwyd yn 2009.

A sequel to Llythyrau'r Wladfa 1865-1945 published in 2009. This volume includes letters from 1945 onwards. Includes many black-and-white photographs.
`Wedi i ni ein dau fynd, ac i bryfed y ddaear fwyta ein cyrff, hwyrach y daw rhyw chwilotwr heibio a dod o hyd i’n llythyrau, a’u cyhoeddi mewn cyfrol! Beth a ddywedwch am hyn? Y mae popeth yn bosibl!...’

Ychydig a wyddai Evan Thomas, cyn-olygydd Y Drafod, pan ysgrifennodd y geiriau hyn mewn llythyr at Myfanwy Davies yn 1948, y byddai ei eiriau’n cael eu cyhoeddi mewn llyfr flynyddoedd yn ddiweddarach! Y ‘chwilotwr’ sydd wedi bod yn pori’n ddiwyd drwy gannoedd o lythyrau a anfonwyd rhwng y Wladfa a Chymru, 1945–2010, yw Mari Emlyn, a dyma ei hail gyfrol o ohebiaeth.

Hanes cynnar sefydlu’r Wladfa oedd yn y llyfr cyntaf, hanes sy’n fwy cyfarwydd o bosib. Mae’r gyfrol ddilynol hon yn gofnod o’r hanes mwy diweddar, yn rhoi darlun o fywyd cyffredin teuluoedd a ffrindiau o ddwy ochr yr Iwerydd. Mae'n cynnwys newyddion am eisteddfodau, ymweliadau’r Cymry, a hanesion teuluol, y cyfan wedi ei osod mewn cyd-destun o ddigwyddiadau hanesyddol y cyfnod, o Eva Perón i Ryfel y Malvinas, o ddathliadau canmlwyddiant y Wladfa i sefydlu Cynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut – a hynny yng ngeiriau’r llythyrwyr eu hunain.

Rhaid diolch i Mari Emlyn am ddiogelu’r ohebiaeth hon ar gyfer haneswyr y dyfodol. Mae’r llythyrau’n gofnod hanesyddol pwysig am sawl rheswm. Yn amlwg, mae iddynt bwysigrwydd fel ffynhonnell ffeithiau uniongyrchol am ddigwyddiadau a chyfnodau hanesyddol, fel y dywed Mair ap Iwan Roberts:

`Mae llawer o greiriau gwerthfawr ynglŷn a hanes boreu’r Wladfa i’w cael mewn cartrefi ar hyd y wlad, a’u perchnogion hwyrach ddim yn gwybod eu gwerth; eraill yn eu prisio gymaint fel nad ydynt am ollwng gafael arnynt am gyfrif yn y byd.’

Mae’r llythyrau hefyd yn rhoi darlun llawnach o gymdeithas y cyfnod, o fywyd a pherthynas teuluoedd a ffrindiau. Nodwedd ddifyr arall yw gweld sut mae iaith yr awduron, yn Gymry ac Archentwyr, yn newid dros y blynyddoedd. Mae Mari Emlyn wedi dewis cadw’r orgraff wreiddiol ac mae hynny’n bwysig o ran naws y llythyrau. Enghraifft amlwg yw effaith y Sbaeneg ar yr eirfa a’r orgraff Gymraeg, lle gallwn glywed yr acen Archentaidd – er enghraifft yn llythyr Brusselas Lewis de Arrieta at Robin Gwyndaf, `Dim ragor am eddiw. Cofiwch escrebenu...’

Erbyn diwedd y gyfrol, rydym wedi cyrraedd yr oes electronig. Bellach mae’r e-bost yn disodli’r llythyr, yn arbennig ymysg y genhedlaeth iau. Ond mae’r ohebiaeth yn parhau, a hynny mewn oes lle mae teithio a chyfathrebu dipyn yn haws. Braf yw darllen gwaith gohebwyr ifanc iawn yng nghyfrol Mari Emlyn, sy’n profi fod y cysylltiad rhwng y ddwy wlad cyn gryfed ag erioed!

Meleri MacDonald

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Bywgraffiad Awdur:
Daw Mari Emlyn yn wreiddiol o Gaerdydd, ond mae hi bellach wedi hen ymgartrefu yn Y Felinheli gyda’i gãr a’i thri mab. Cyhoeddodd ddwy nofel Cam wrth Gam a Traed Oer, cyd-ysgrifennodd y ddrama lwyfan ‘Deinameit’ ac mae hi wedi sgriptio ar gyfer sawl cyfres deledu gan gynnwys ‘Pengelli’ a ‘Tipyn o Stad’. Mae hi wedi ymweld â’r Wladfa dair gwaith.
Gwybodaeth Bellach:
Rhai dyfyniadau:

‘Dim ond un o ddisgynyddion Michael D Jones, yn ôl a ddywedodd hi ei hun wrthyf, sy’n gallu siarad Cymraeg yng Nghymru heddiw, ond y mae ugieniau o’i ddisgynyddion yn ei siarad yn groyw yn y Wladfa heddiw …’ R. Bryn Williams, 27 Ebrill, 1965

‘Yr oeddwn yn falch bod fy llythyr yn dderbyniol, rhyfedd fel yr ydym yn dod yn berthynasau agos, heb yn wybod in gilydd …’ Alice Hughes, 26 Ebrill, 1967

‘Hen dro na biasech yn nes atom yma i ni gyd bod efon gilydd am inwaith mewn oes.’ Florence Williams de Hughes, Rhagfyr 1981

‘Dw i newydd orffen darllen Cysgod y Cryman o Islwyn Ffowc Ellis – Ffantastig! Mi griais i fel llo bach ac mi wnes i mwynhau lot fawr. Dw i’n teimlo’n rhyfedd iawn wrth ddarllen y Gymraeg. Mae cymaint o bethau sydd mor gyfarwydd i ni ac ar yr un pryd yn perthyn i byd gwahanol . . .’ Christine Jones, 30 Gorffennaf, 2000
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth edrych ar y teitl hwn hefyd edrych ar y canlynol:
Brecon Beacons Myths and ...
Horatio Clare
£9.99
 
Prynwch
Cyfres Maw: Breuddwydion Maw
Richard Llwyd Edwards
£2.95
 
Prynwch
Cyfres Dechrau Da: Ystlumod
Megan Cullis
£4.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Nadolig Pwy a Ŵyr 2
Amrywiol/Various
£8.00
 
Prynwch
Saesneg
Robin Book, The
Jane Russ
£9.99
 
Prynwch
Plant
Gwyn y Carw Cloff
Tudur Dylan Jones
£6.99
 
Prynwch