Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Alana Seren y Ddawns: Samba Syfrdanol
Arlene Phillips
ISBN: 9781845273149 (1845273141)Dyddiad Cyhoeddi Mai 2011
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Emily Huws.Addas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 196x128 mm, 112 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £4.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Mae 'na sioe ddawnsio Lladin bwysig ar fin cael ei chynnal yn Stiwdio Stepio. Ond dydi Alana ddim yn wych am ddawnsio'r samba. Ac mae ei mam wedi anghofio gwneud gwisg iddi. Mae'n gweld yr union wisg mae hi ei hangen yn Ffasiwn Steil, siop wisgoedd Madam Sera. Wedi ei rhoi amdani, caiff ei chwyrlïo mewn amrantiad i Frasil i ddawnsio mewn carnifal anhygoel!

An important Latin dance show is about to be held at the Stiwdio Stepio dance shool, but Alana is not very good at the samba. Her mother has forgotten to make her a costume. She sees the very item she wants in Madam Sera's clothes shop, Ffashiwn Steil. Once she puts it on, she is whisked in a flash to Brazil, where she dances in an incredible carnival.
Gyda fflachiadau o hud, cymeriadau sionc a dawnsfeydd o bedwar ban byd, gall y gyfres hon wireddu breuddwyd pob merch fach. Dyma fyd lle mae'r prif gymeriad yn gwisgo dillad lliwgar ac esgidiau dawnsio ac yn cael ymweld phob math o wledydd egsotig, a hynny trwy hud a lledrith.

Wedi ei hysgrifennu gan Arlene Phillips, yr arbenigwraig dawns, does ryfedd fod y gyfres hon yn gallu ysgogi pob plentyn i godi ar ei draed am ddawns fach. Samba Syfrdanol yw'r gyntaf yng nghyfres Alana, Seren y Ddawns ac mae Alana yn seren go iawn. Mae'n ceisio'i gorau glas yn ei dosbarth dawns yn Stiwdio Stepio, er bod ei Mam yn ceisio ei pherswadio i roi'r gorau i'w hobi syn mynd i holl nerth a'i hamser. Yn sgil ei hymweliad siop Madam Sera caiff Alana ei dwyn trwy hud a lledrith i ganol dawnswyr Samba carnifal ym Mrasil!

Mae cymeriadaur addasiad hwn yn arbennig o naturiol ar stori'n llawn bwrlwm. Ond ceir mwy na stori yma beth sy'n well na chael y cyfle i greu eich doli samba eich hun drwy dorrir siapau a ddarperir yn y llyfr!

Maer cyfarwyddiadau dawnsio sydd wedi eu cynnwys yn y cefn yn ddefnyddiol i unrhyw grŵp o blant egnol sydd am fentro ar y folta, neu ar rolio a chamu yn union fel dawnswyr samba Rio de Janeiro. Pwy a ŵyr efallai y byddwch chithau hefyd yn seren y ddawns?

Llinos Griffin

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Gwybodaeth Bellach:
Y gyntaf mewn cyfres newydd gyffrous am ferched cynradd syn gwirioni ar ddawnsio. Mae awdur y gyfres, Arlene Philips, yn ddawnswraig a choreograffydd profiadol ac yn adnabyddus i wylwyr rhaglenni Strictly Come Dancing a So You Think You Can Dance?.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Madog - The First White ...
Gwyn Thomas
£3.45
 
Prynwch
Blwyddlyfr Cyw
 
£3.99
 
Prynwch
Harri Potter a Maen yr ...
J. K. Rowling
£6.99
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mam - Cerddi gan Famau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Talk Welsh
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Plant
Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
£5.99
 
Prynwch