Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Straeon Nadolig Hudolus
Maureen Spurgeon, Gill Davies
ISBN: 9781845273507 (1845273508)Dyddiad Cyhoeddi Medi 2011
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Darluniwyd gan Gill GuileAddaswyd/Cyfieithwyd gan Myrddin ap Dafydd.Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1 Fformat: Clawr Caled, 340x270 mm, 64 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £6.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Casgliad o 16 o straeon a cherddi hyfryd i oedolion eu darllen ar y cyd â phlant. Bydd y storïau hudolus hyn yn sicr o gyfleu naws arbennig gŵyl y Nadolig i blant bach. Addasiad Cymraeg o Magical Christmas Stories (Brown Watson, 2006).

A collection of 16 delightful stories and poems which adults and children can read together. These stories are sure to convey to young children the magic of Christmas. A Welsh adaptation of Magical Christmas Stories (Brown Watson, 2006).
Llyfr mawr, meddal a lliwgar yw Straeon Nadolig Hudolus ac maer clawr yn dweud popeth am y gyfrol, gan ddangos llun henffasiwn o gartwnaidd o Sin Corn yn hedfan uwchben pentref bychan dan drwch o eira. Maer sled yn llawn anrhegion, dau garw bach doniol yn ei dynnu ar hen ŵr yn codi llaw yn serchog ar ddyn eira llon islaw. Llyfr o straeon bach cyfarwydd ac anghyfarwydd am yr ŵyl a geir yma, ynghyd cherddi tymhorol, ar cyfan wedi ei anelu at blant bach. Defnyddir lluniau digon henffasiwn eu harddull trwy'r gyfrol i ategur storau ar cerddi.

Mae hanes y geni ym Methlehem yma, a gwelir y cyfan drwy lygaid y mul bach oedd yn cario Mair o Nasareth i Fethlehem. Yr honiad yn y stori yw mair mul, yn hytrach na cheidwad y llety, awgrymodd y dylid defnyddior stabl; os felly, mae angen newid sgript y rhan fwyaf o ddramu Nadolig ein hysgolion, ein capeli a'n heglwysi! Maer gyfrol yn cloi gyda storir geni hefyd, ond y tro hwn drwy lygaid un or angylion bach, pan gafodd hithau fynd efor lliaws i ddathlur geni. Ond tu hwnt i'r stori drwy lygaid y mul a llygaid yr angel, Sin Corn yw canolbwynt gweddill y straeon. Mae yma rai sy'n sn am y drafferth o gyrraedd pobman mewn pryd ar noswyl Nadolig, rhai am y corachod sydd yn helpu gyda'r gwaith paratoi, ac un stori hyfryd am dri pengwin bach yn cael y fraint o wneud gwaith y ceirw ar y noson bwysig honno. Maen nhw'n straeon byrlymus a doniol, a cheir hefyd ryw dair cerdd rhwng y cloriau deniadol, ond mae'r rhain yn ymdrechu i ddal eu tir o gymharu 'r straeon apelgar.

Dyma gyfrol ddigon derbyniol ar gyfer y Nadolig ac maer clawr clustogaidd yn rhoi teimlad moethus, braf ir sawl sy'n ei fodio.

John Roberts

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council
Tabl Cynnwys:
Diwrnod Nadolig Taid
Tylwyth Teg Nadolig
Mul Bach y Nadolig
Y Dyn Eira Nadolig
Annwyl Sin Corn
Noswyl Nadolig
Nadolig Llawen!
Pengwyns Bach Sin Corn
Cartref Newydd
Y Corrach Cysglyd
Y Sanau Nadolig
Y Gaseg Eira Enfawr
Nadolig ar y Fferm
Hoff Bethau Tedi
Y Noson Fawr
Blwyddyn Gron
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
ABC (DVD091)
 
£5.99
 
Prynwch
ABC 2 (DVD107)
 
£5.99
 
Prynwch
ABC 3 (DVD121)
 
£5.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch