Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cylchgrawn Calon: Chwilio am Seren
Cindy Jefferies
ISBN: 9781845274368 (1845274369)Dyddiad Cyhoeddi Mai 2013
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Gwenno Hughes.Addas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 192 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £4.99 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Dyma'r drydedd nofel yng nghyfres Cylchgrawn Calon gan Cindy Jefferies, awdur gwreiddiol y gyfres lwyddiannus, Gweld Sêr. Mae'r gyfres hon ar gyfer merched ychydig yn hŷn, oedran gwaelod uwchradd. Druan o Elin yn gorfod mynd â chi mae'r golygydd wedi'i ddifetha'n llwyr am dro yn hytrach na mynd ar drywydd cyfweliad efo awdur enwog!

A Welsh adaptation of Heart Magazine: Search for a Star. Ellie's thrilled to be doing work experience at teen magazine, Heart, even though life isn't all celebrity chat and fashion makeovers for the aspiring young journalist. She's trying to track down a famous author for an exclusive interview.
Cipolwg ar fywyd prysur Cylchgrawn Calon sydd iw gael yma a Chwilio am Seren ywr drydedd nofel yn y gyfres. Dyma un sydd am fod at ddant merched yn eu harddegau cynnar ac unrhyw un sydd wrth eu boddau gyda byd ffasiwn, enwogion, ar clecs diweddaraf.

Ond fel pob swydd arall, dydi bywyd ddim yn glam i gyd dim hyd yn oed wrth weithio i gylchgrawn genod! Mae Elin Cadwaladr ar brofiad gwaith yn ei hoff gylchgrawn ai bryd ar bethau mawr. Ond pan mae hin cael y dasg o ddarganfod y selb diweddaraf ar gyfer erthygl, dydi pethau ddim mor hawdd hynny! Mae Elin yn ysu i gyf-weld yr awdur dirgel, Harri Daniels, ond does dim hanes ohono yn unman. Does dim iw wneud, felly, ond canolbwyntio ar dasgau eraill, megis mynd Caswallon, ci bach y golygydd, am dro i weld ei ffrindiau, Cawr a Bwystfil, nes bod rhyw fath o gliw yn dod o rywle! Ydi hin rhoir ffidil yn y to? Ydi Harri Daniels am ymddangos o gwbl?

Fel swyddfa Calon, maer nofel hon yn brysur iawn hefyd ac yn gyflwyniad gwych i fyd gwaith. Gan sn am sandalau ffasiynol ar y dudalen gyntaf un, mae hin sicr o apelio at ferched ifanc! A phwy a ŵyr, efallai bydd ambell un awydd rhoi cynnig ar y yrfa honno ewch amdani, genod!

Llinos Griffin

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Dirgelwch yr Ogof
T. Llew Jones
£5.99
Clwb Cysgu Cŵl yn ...
Narinder Dhami
£1.00
Clwb Cysgu Cŵl, Y: ...
Sue Mongredien
£1.00
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch