Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Gwich a Draig a'r Ffatri Eira
Andrew Fusek Peters
ISBN: 9781847710031 (1847710034)Dyddiad Cyhoeddi Hydref 2007
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Darluniwyd gan Gini WadeAddaswyd/Cyfieithwyd gan Meinir Wyn Edwards.Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1 Fformat: Clawr Meddal, 200x210 mm, 32 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o stoc Ein Pris: £3.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Lyfr stori a llun i blant 3-5 oed. Mae Draig a Gwich yn deffro yn y goedwig dan orchudd o eira. Maent yn adeiladu ysgol i fyny i'r awyr ac i'r ffatri eira lle mae Angel y Cymylau yn rhoi anrheg arbennig iddynt. Dilyniant i Gwich a Draig ac addasiad Cymraeg o Dragon and Mouise and the Snow Factory gan Meinir Wyn Edwards.

A children's picture book for 3 to 5 year olds. Dragon and Mousie wake up to a white world covering their forest. They build a ladder to the sky, right up to the snow factory where Cloud Angel gives them a very special present. This is a sequel to Dragon and Mousie.
Dyma stori am lygoden, o’r enw Gwich, a Draig sy’n awyddus i wybod beth yw’r flanced wen sy’n gorchuddio’r goedwig y maent yn byw ynddi. Awn ar antur i gwrdd ag ‘Angel y Cymylau’, sy’n ateb eu cwestiynau ac yn rhoi anrheg iddynt.

Yn ôl yn y goedwig mae ewythr Draig am ddarllen stori iddynt am ‘Angel y Cymylau’, ond sut gallant brofi nad cymeriad mewn stori yn unig yw hwn?

Mae hon yn stori a fydd yn ymestyn dychymyg pob plentyn ac yn sbarduno sawl trafodaeth. Gall fod yn llyfr stori neu yn llyfr darllen, ac efallai’n llyfr fyddai’n ennyn diddordeb bechgyn yn fwy na merched.

Mae darluniau Gini Wade yn hyfryd ac yn ychwanegu at naws anturiaethus y stori. Ceir nifer o ansoddeiriau a chymariaethau sydd yn eich denu i fod yn rhan o’r stori ac o anturiaethau Gwich a Draig.

Dyma lyfr hyfryd i blant sydd yn mwynhau defnyddio’u dychymyg.

Nia Wyn

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council


Bywgraffiad Awdur:
Mae Andrew Fusek Peters yn fardd, yn adrodd straeon, yn gyflwynydd teledu ac yn awdur dros 50 o lyfrau plant. Mae wedi ei enwebu ar gyfer Gwobr Carnegie ddwy waith.

Mae Gini Wade wedi ysgrifennu pedwar o lyfrau plant yn ogystal a darlunio llawer mwy. Mae'n gweithio fel DJ ac yn byw yng nghanolbarth Cymru.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Camau Bach (DVD) (Cof001)
 
£14.99
Dywysoges a'r Ddraig, Y
Audrey Wood
£2.50
 
Prynwch
Pam Mae'r Ddraig yn Goch
Eleri Davies
£3.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch