Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig   English  
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Stori Sydyn: Operation Julie
Awdur: Lyn Ebenezer
Gweld rhagor o deitlau gan 'Lyn Ebenezer'
ISBN: 9781847710253 (1847710255)
Dyddiad Cyhoeddi Rhagfyr 2009
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 197x128 mm, 104 tudalen
Ar gael 
Does dim Ymatebion Darllenwyr i'r teitl hwn.
 
 
Cyfres Stori Sydyn: Operation Julie
Ein Pris: £1.99 
Teitl yn y gyfres o gyfrolau byr a chyflym Stori Sydyn. Cyflwyniad i un o rwydweithiau cyffuriau mwya'r byd a oedd ar waith yng nghanolbarth Cymru yng nghanol y 70au. Mewn labordy anial ar bwys Tregaron cynhyrchwyd gwerth miliynnau o bunnau o LSD pur - labordy a arweiniodd at un o'r achosion troseddol mwyaf diddorol a chwedlonol erioed. Cyhoeddwyd gyntaf ym mis Chwefror 2008.

A title in the short and fast-paced series Quick Reads. An introduction to the history of one of the world's biggest drugs networks that was active in mid Wales in the mid 1970s. In a rural laboratory near Tregaron pure LSD valued at millions of pounds was produced and seized; this lead to an interesting and legendary criminal case. Reprint; first published February 2008.
Cymeriadau lliwgar yn ymddangos yng nghefn gwlad Cymru, heddlu cudd yn byw fel hipis mewn carafán, ac aelodau o’r Rolling Stones yn Nhregaron! Mewn byd ffuglennol, efallai y gallech gredu fod y pethau anhygoel yma wedi digwydd go iawn. Ond, yn wir, ffeithiau yw’r rhain, ac fe ddigwyddodd hyn i gyd yng Nghwm Blaencaron yn ystod y 1970au.

Mae’n anodd credu i’r ymgyrch hon, a alwyd yn ‘Operation Julie’, barhau am dros dair blynedd. Arestiwyd 120 o bobl, canfuwyd gwerth £100 miliwn o dabledi LSD, ac ardal Tregaron yng ngorllewin Cymru oedd canolbwynt yr holl helynt.

Gyda Dick Lee, Pennaeth Uned Gyffuriau’r heddlu, yn arwain yr ymgyrch, defnyddiwyd pob math o dechnegau newydd ac arloesol i wrando ar sgyrsiau ffôn y troseddwyr, ac i ddilyn eu ceir ar hyd lonydd bychain cefn gwlad Cymru.

Mae sawl hanesyn doniol ac ysgafn yn y llyfr megis y stori am ddefaid yn cnoi drwy’r ceblau a roddwyd mewn caeau i drosglwyddo gwybodaeth bwysig i'r heddlu. Trodd y trosglwyddydd mewn un man yn erial radio am fod y defaid wedi cnoi drwy’r tâp insiwleiddio, a’r heddweision yn gwrando ar Caniadaeth y Cysegr!

Roedd y byd cyffuriau yn Llundain, America ac ar draws y byd a’i lygaid ar gefn gwlad Cymru yn y cyfnod hwn. Bu aelodau’r grŵp cyffuriau a’r gwerthwyr cyffuriau yn byw ymysg trigolion yr ardal am flynyddoedd, a doedd hi ddim yn beth anghyffredin i weld ‘Smiles’, neu Alston Frederick Hughes (i roi ei enw cywir iddo) yn yfed yn nhafarn y Talbot yn Nhregaron.

Wedi blynyddoedd o wylio a gwrando, tarodd Operation Julie ar fore dydd Gwener 25 Mawrth 1977. Disgynnodd yr heddlu ar Dregaron, Llanddewibrefi, Maesycrugiau a Chwm-ann. Yng nghartref un o’r dynion yn Llundain, canfuwyd gwerth miloedd o LSD pur mewn pecynnau o uwd ac Alpen!

Roedd yr heddlu wedi llwyddo i ddal nifer fawr o’r grŵp cyffuriau a oedd yn gweithio yn yr ardal, ond noda Lyn Ebenezer fod cylch Tregaron, hyd heddiw, yn llawn hanesion a straeon anhygoel am gyffuriau ac arian wedi'u cuddio mewn stof llosgi coed, neu ar y mynydd uwchlaw pentref Llanddewibrefi.

Llyfr clir, syml ac uniongyrchol yn cyflwyno hanes yr ymgyrch mewn ffordd ysgafn a diddorol.

Hawys Tomos

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Gwybodaeth Bellach:
LSD ac Operation Julie yn rhoi Llanddewibrefi ar y map – eto fyth

Rhwng gwyrthiau Dewi Sant ac ymddangosiadau ar y rhaglen Little Britain, daeth Llanddewibrefi i gryn enwogrwydd ar hyd y blynyddoedd, ond i lawer rhyfeddod mwya'r lle oedd iddo ddod yn un o ganolfannau cyffuriau enwoca'r byd yn yr 1970au. Ac mewn llyfr newydd gan Lyn Ebenezer fe ddatgelir pwy oedd yn cymryd pa gyffuriau yn yr ardal a sut y llwyddodd yr heddlu i chwalu rhwydwaith cyffuriau mwya'r byd gydag Operation Julie yn 1977.

Mae'r awdur, a oedd yn newyddiadurwr gyda'r Cymro ar y pryd, yn datgelu sut y tyfodd Llanddewibrefi i fod yn ganolfan i sêr y byd pop yn Lloegr, yn cynnwys y Rolling Stones, Jimmy Hendrix ac Eric Clapton, a oedd yn dod i aros gyda'r chwedlonol David Litvinoff yn Llanddewibrefi yn niwedd y 60au. Yn ôl yr awdur "Mae hi bron yn sicr fod Bob Dylan wedi aros gyda Litvinoff am chwe wythnos yn ystod haf 1969 ar ôl iddo fod yn yr Wyl bop yn Ynys Wyth, ac mi wnaeth Keith Richards o'r Rolling Stones gyfaddef ei fod yn ymweld â'r lle a'i fod wedi defnyddio pob cyffur anghyfreithlon oedd yn bod, ac ambell un nad oedd yn bod!"

Ond mae'r llyfr Operation Julie yn delio'n bennaf gyda chyrch enwog yr heddlu a ddaeth i roi stop ar y rhwydwaith cyffuriau anferth lle cynhyrchwyd gwerth miliynnau o LSD pur yng nghefn gwlad Cymru. Ym mis Mawrth 1977 fe arestiodd yr heddlu ddegau o bobl a ffeindio chwe miliwn tab o LSD – y stash mwya o gyffuriau anghyfreithlon erioed. Roedd 800 o heddlu yn rhan o'r ymgyrch. Arestiwyd 120 o bobl i gyd, a daethpwyd o hyd i dabledi LSD gwerth £100 miliwn! Dyma'r achos mwyaf o'i fath erioed, a ddaeth a Llanddewibrefi, Tregaron a Carno i enwogrwydd drwy’r byd.

Cyhoeddir y gyfrol Operation Julie gan Y Lolfa fel rhan o'r gyfres Stori Sydyn sy'n cael ei gefnogi gan Cyngor Llyfrau Cymru a Sgiliau Sylfaenol Cymru. Y llyfrau eraill yn y gyfres yw (Caryl Lewis), Dyn y Syrcas (Derfel Williams) a Y Gwledydd Bychan (Bethan Gwanas).