|
‘Penderfynais, wedi cael fy mherswadio, gofnodi fy argraffiadau yn dilyn hanner can mlynedd ers y boddi, ac y byddwn yn gochel rhag agor Cofio Tryweryn.’
Aeth ugain mlynedd heibio ers i Watcyn L. Jones gyhoeddi Cofio Tryweryn. O fod wedi cael y fath flas ar y gyfrol gynhwysfawr honno, fy ymateb cyntaf oedd cwestiynu’r angen am ail gyfrol ar yr un testun, a rhaid cyfaddef na ddisgwyliwn fawr mwy yn hon na chrynodeb o’r gyntaf. Ond ro’n i’n collfarnu’n arw, diolch byth!
Wrth gwrs bod yma rywfaint o orgyffwrdd rhwng y ddwy gyfrol – mae peth felly’n anochel – ac fe welir hefyd ailddefnydd o rai o’r lluniau ond, drwodd a thro, mae Cofio Capel Celyn yn rhoi inni ddimensiwn ychwanegol ar y cyfnod cythryblus dan sylw, a hwnnw’n ddimensiwn oedd wir angen ei gofnodi. Ceir yma fanylu ar gyfraniad gwerthfawr rhai unigolion megis yr Arglwydd Ogmore, y bargyfreithiwr Dewi Watkin Powell (fel yr oedd, bryd hynny), Gwynfor Evans ac eraill yn y frwydr yn erbyn ‘Brad Lerpwl’ ond yr hyn a wneir hefyd yw talu teyrnged i ymdrech ddiflino’r gymuned yng Nghapel Celyn ei hun ac yn arbennig (er yn rhy gynnil, o bosib) i ysgrifenyddes weithgar y Pwyllgor Amddiffyn, sef Elizabeth Watcyn Jones, chwaer yr awdur. Mewn oes cyn bod sôn am na chyfrifiaduron na pheiriannau dyblygu, hi, yn anad neb, a ysgwyddodd y baich o lythyru â gwleidyddion a chorfforaethau ac ugeiniau o gynghorau trefol a sirol. Roedd ei hymroddiad yn amhrisiadwy, a phriodol ydi cydnabod hynny yn y gyfrol hon.
Un arall a gaiff barch haeddiannol yw’r diweddar Ifor Owen, Llanuwchllyn, y gŵr cenedlaetholgar a wnaeth cymaint yn y dirgel i helpu’r achos. Ceir gweld yn y llyfryn gopi o lythyr apêl arbennig iawn a luniwyd ganddo ar ran pobol Capel Celyn yn erfyn ar y Frenhines Elizabeth i ymyrryd ar eu rhan. Ac er na synnwyd neb gan y diffyg ymateb o Balas Buckingham, pwy sydd i ddeud na lwyddodd y llythyr hwnnw i blannu hedyn o gywilydd, hyd yn oed, o dan y Goron ei hun oherwydd, pan ddaeth yr amser, ni welwyd yr un copa walltog o’r teulu brenhinol yn yr agoriad swyddogol, a hynny er iddynt dderbyn gwahoddiad Lerpwl i fod yno.
Er nad yw Cofio Capel Celyn yn fawr mwy na llyfryn o’i gymharu â chyfrol gynta’r awdur, eto i gyd mae ei 84 tudalen yn gyforiog o wybodaeth ddadlennol sy’n rhoi gogwydd newydd, a diflewyn-ar-dafod yn aml, ar rôl ac ar gyfraniad ambell Gymro amlwg yn y cyfnod, a diffyg cyfraniad ambell un arall. Mae’r gyfrol yn gymwynas pe bai ond am hynny yn unig.
Mae yma un bennod, fodd bynnag, sef y seithfed, sy’n taro’n chwithig braidd oherwydd ei naws gwbl wleidyddol. Ynddi cawn fraslun o dwf Plaid Cymru, o gyfnod ei sefydlu yn yr 1920au hyd at ein dyddiau ni, a rhoir sylw hefyd i’r ysbryd protest a dyfodd yng Nghymru yn dilyn sefydlu Cymdeithas yr Iaith. Ond yr hyn a wna’r bennod, wrth gwrs, ydi dangos fel y bu i ryw dda ddod o golli Capel Celyn; fel y bu inni fel cenedl fagu rhywfaint o asgwrn cefn ers hynny, ac fel y bu i’r geiriau ‘Cofia Dryweryn’ danio cydwybod hyd yn oed y mwya claear a’r mwya taeog yn ein plith. O edrych yn ôl, heddiw, ac o gofio bod y Pwyllgor Amddiffyn wedi derbyn cymaint o anogaeth ledled Cymru, a bod bron pob aelod seneddol Cymreig wedi gwrthwynebu’r mesur ar yr ailddarlleniad, yna mae’n anhygoel meddwl bod Cyngor Tref y Bala ei hun wedi cefnogi’r datblygiad.
‘Nid hanesydd mohonof’ meddai’r awdur. Falla mai dyna sydd wir, yn ystyr gul ac academaidd y gair, ond mae greddf hanesydd yn amlwg iawn yn y gyfrol hon eto, fel ag yn yr un o’i blaen. Bu’r ymchwil yn drwyadl a’r cofnodi’n drefnus ac, os ychwanegwn at hynny arddull gynnil a choeth, yna mae gennym yma gyfrol hynod ddiddorol a darllenadwy. Fel Cofio Tryweryn, mae Cofio Capel Celyn hefyd yn llyfr yr oedd angen ei sgrifennu.
Geraint V. Jones
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Bywgraffiad Awdur: Magwyd yr awdur Watcyn Jones yn y Llythyrdy, Capel Celyn. Ar ôl teithio'r byd gyda'r fyddin fe ddychwelodd i Gymru a mynd i ddarlithio yng Ngholeg Cyncoed, Caerdydd, ac mae dal i fyw yn y brifddinas heddiw ac yn falch o roi ei atgofion hanner canrif ers boddi Capel Celyn.
Gwybodaeth Bellach: Hanner canrif ers boddi Cwm Tryweryn mae un o bentrefwyr Capel Celyn yn cyhoeddi amheuon ynghylch y modd y deliodd nifer o wleidyddion amlwg â’r argyfwng ac a’r trigolion lleol.
Yn ei lyfr o'r enw Cofio Capel Celyn mae Watcyn Jones yn codi amheuon am yr argraff sydd wedi parhau ac a grewyd gan awduron blaenllaw ers y digwyddiad. Wrth sefydlu is-bwyllgor Amddiffyn Capel Celyn gan Blaid Cymru, mae'n honni y bu cryn ddadlau ac anghydweld a chrewyd yr argraff fod y pwyllgor wedi cyflawni mwy gan y gwnaeth: "Efallai i'r teitl roi’r argraff i rai darllenwyr papurau'r dydd fod yr is-bwyllgor yn gysylltiol â Phwyllgor Amddiffyn Capel Celyn. Hefyd, hwyrach y gellir tybio i'r beirniadu hallt wthio swyddogion Plaid Cymru i ehangu ar yr honiad iddynt gyfrannu mwy nag a wnaethpwyd yn ystod yr ymgyrch. Yn wir, gellid dadlau iddynt wneud mwy o ddrwg na ddaioni".
Mae Watcyn Jones hefyd yn honni i gofiannydd Gwynfor Evans fod yn annheg ei feirniadaeth o'r pwyllgor lleol yn y gyfrol Rhag Pob Brad. Meddai: “Roedd beirniadaeth lem o'r pwyllgor yn y gyfrol, a cheir yr argraff i'r awdur gyrraedd y farn mai Gwynfor a greodd ac a gynhaliodd pob gwrthwynebiad yn yr ymgyrch – er nad oedd yn aelod llawn o'r Pwyllgor lleol, ond yn un o ddeg a wahoddwyd i fod yn Llywydd Anrhydeddus."
Mae'r awdur hefyd o'r farn nad yw llawer o'r trigolion lleol wedi cael y clod haeddiannol "am nad oeddynt yn wybodus ym myd gwleidyddiaeth a phrotestio cyhoeddus".
|