Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Byd Aneurin - Hunangofiant Mewn Llun a Gair
Aneurin Jones
ISBN: 9781847710338 (1847710336)Dyddiad Cyhoeddi Rhagfyr 2007
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Golygwyd gan Emyr Llywelyn Fformat: Clawr Caled, 200x210 mm, 180 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o brint Ein Pris: £29.95   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Hunangofiant yr artist Aneurin Jones, yn llawn celf a brasluniau na gyhoeddwyd o'r blaen. Mae'r gyfrol yn rhoi darlun o blentyndod gwledig yng Nghwm Wysg, gyrfa'r artist, ei brofiad fel athro ac artist uchel ei barch. Llawn storïau difyr.

The autobiography of artist Aneurin Jones, including images and sketches not previously published.
Bywgraffiad Awdur:
Cafodd Aneurin ei fagu yng Nghwm Wysg cyn gadael am Goleg Celf Abertawe ac yna symudodd i ardal y Preselau lle cafodd ailddarganfod y gymuned glos ar cymeriadau gwreiddiol a adnabu yn ei ieuenctid.
Gwybodaeth Bellach:
Dyma gyfrol arbennig sy'n cyfuno hunangofiant artist gyda nifer fawr o'i luniau mwyaf eiconig. Trwy gyd-fwynhau'r geiriau a'r lluniau down i ddeall sut y daeth Aneurin Jones yn brif bortreadydd y gymdeithas wledig, Gymraeg. Darllenwn am ei fagwraeth yng Nghwm Wysg, ei flynyddoedd hwyliog yng Ngholeg Celf Abertawe, ac yna'r cyfnodau ffrwythlon yn Sir Benfro a Cheredigion lle cafodd ailddarganfod y gymuned glos a'r cymeriadau gwreiddiol a adnabu yn ei ieuenctid. Yn llawn straeon ffraeth a phortreadau cofiadwy o bobl ac o anifeiliaid hefyd, dyma drysor o gyfrol sy'n cofnodi rhin a rhamant ffordd o fyw sydd ar fin diflannu, tra ar yr un pryd yn dathlu gwaith un o'r artistiaid gorau sydd gennym fel cenedl.
Yn ogystal hanes ei fywyd maer gyfrol yn cynnwys bron i ddau gant o luniau a sgestus yr artist.

Mae'r gyfrol yn llawn straeon ffraeth a phortreadau cofiadwy o bobl ac anifeiliaid, gan ddarlunio ffordd o fyw gwledig syn araf ddiflannu. Mae Aneurin yn datgelu beth syn ei ysbrydoli fel artist, sut mae'n mynd ati i dynnu llun yn ogystal ag esbonio cefndir rhai o'r lluniau.

Mae gwaith Aneurin wedi cael ei arddangos mewn orielau trwy Gymru, yn Llundain a thu hwnt, ac wedi ennill clod gan wybodusion yn ogystal phoblogrwydd rhyfeddol ymhlith gwerin Cymru.

Dywedodd Emyr Llywelyn, a gydweithiodd gydag Aneurin ar y llyfr, "Gwyddom yn ein calonnau fod lluniau Aneurin yn llefaru'r gwirionedd am berthynas dyn 'i gyd-ddyn, am berthynas dyn ag anifail, am ei berthynas 'r pridd ac yn bwysicach na dim am ei berthynas 'r hyn sy'n real ac yn dragwyddol."
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mam - Cerddi gan Famau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Talk Welsh
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Plant
Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
£5.99
 
Prynwch