Eich basged
Mae eich Basged yn Wag
Ewch i...
Gwerthwyr Gorau
Dolenni
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Cyfres Stori Sydyn: Y Gwledydd BychainBethan Gwanas
Gweld rhagor o deitlau gan 'Bethan Gwanas' |
ISBN: 9781847710369 (1847710360)Dyddiad Cyhoeddi Chwefror 2008
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bontFformat: Clawr Meddal, 197x128 mm, 76 tudalen
Iaith: Cymraeg
Allan o brint Ein Pris:
£1.99
| |
| Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
|
Un o gyfrolau byr a chyflym y gyfres Stori Sydyn sy'n adrodd profiadau Bethan Gwanas yn teithio yn rhai o wledydd bychain Ewrop, gan gyflwyno rhywfaint o'u hanes a'u diwylliant.
A title in the short and fast-paced Quick Reads series which relates some of Bethan Gwanas's experiences while travelling to some of Europe's smaller countries, and recounts something of their histories and cultures.
|
|
Mae Bethan Gwanas yn prysur droi yn Michael Palin Cymru. Wedi iddi ddod i amlygrwydd yn gyntaf fel nofelwraig, mae hi bellach yr un mor adnabyddus, os nad yn fwy felly, fel teithwraig. Gyda thair cyfres o Ar y Lein y tu ôl iddi, derbyniodd gynnig gan Radio Cymru i gyflwyno rhaglen radio ar rai o wledydd bychain Ewrop, a chydymaith i’r gyfres honno yw’r llyfr hwn.
Yn y llyfr, cawn gwmni Bethan wrth iddi deithio i Wlad y Basg, Llydaw a Norwy gan edrych ar agweddau fel hanes, iaith, diwylliant ac addysg y gwledydd yma, a chymharu eu sefyllfaoedd gydag un Cymru. Teg dweud fod y dewis olaf ychydig yn ddadleuol yr unig beth sy’n fychan am Norwy yw ei phoblogaeth, ac yn wahanol i Wlad y Basg, Llydaw a Chymru, tydi hi ddim yn rhan o wladwriaeth fwy chwaith, a tydi cymariaethau ieithyddol ddim yn gwneud llawer o synnwyr gan mai dau fersiwn o’r un iaith sydd i’w cael yno mewn gwirionedd.
Yn sicr, mae gan Gymru lawer i’w ddysgu gan brofiadau’r gwledydd eraill ac mae’r daith yn gadael rhywun i deimlo'n hanner trist a hanner balch o’n sefyllfa ni. Ar un llaw, pam na all llywodraeth Cymru fabwysiadu polisi fel yng Ngwlad y Basg ble mae pob plentyn yn cael ei addysg drwy gyfrwng y Fasgeg? Ond wedyn, gallwn fod yn ddiolchgar ein bod yn fwy ffodus na’r Llydawyr sydd ond yn gallu derbyn addysg yn eu hiaith eu hunain os ydynt yn fodlon talu amdano mewn ysgolion preifat. Mae’r llyfr yn llawn o gymariaethau tebyg o wahanol agweddau ar fywydau’r gwledydd bychain yma, a chawn gwrdd â chymeriadau sydd yn rhannu llawer o’r gobeithion a'r ofnau sydd gennym ni’r Cymry.
Caiff hyn i gyd ei adrodd yn arddull anffurfiol a nodweddiadol ysgafn yr awdur, ond mae’r bwriad yn un difrifol ac ar ddiwedd y llyfr cawn ‘faniffesto’ Bethan ble mae’n defnyddio'r hyn a ddysgodd ar ei thaith i awgrymu sut all Cymru newid er gwell.
Aled Elwyn Jones
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Gwybodaeth Bellach: Mae Bethan Gwanas wedi bod yn teithio i bob cwr o’r byd dros y blynyddoedd diwethaf ac mae ei hargraffiadau di-flewyn-ar-dafod a ffraeth wedi rhoi cip i wylwyr S4C o fywyd ym mhob cornel o’r byd.
Mewn cyfrol sydd newydd ei gyhoeddi mae Bethan yn dilyn trywydd llai egsotig nag arfer ac yn canolbwyntio ar rai o’r gwledydd bychain sy’n nes adref. Yn y gyfrol Y Gwledydd Bychain mae Bethan yn troi ei golygon at Wlad y Basg, Llydaw a Norwy. Mae’n cyflwyno diwylliant, naws, iaith a ffordd o fyw y gwledydd gan eu cymharu gyda Chymru a chan gesio gweld os oes gan Gymru wersi i’w dysgu wrthynt. Ymysg nifer o bethau eraill mae’n trafod sut mae merched yn cael eu trin yn Norwy, annibyniaeth i Wlad y Basg a diwylliant gwerin Llydaw.
Bethan Gwanas yw’r awdures fwyaf poblogaidd sy’n ysgrifennu yn Gymraeg, ac fel ei llyfrau eraill a’i cholofnau yn yr Herald, mae Y Gwledydd Bychain yn gyfrol ddarllenadwy a difyr sy’n cynnig golwg wahanol ar wledydd eraill sydd ar y cyrion.
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|
|
Rhagor o Deitlau
|
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
|
Llyfr y Mis
|