Eich basged
Mae eich Basged yn Wag
Ewch i...
Gwerthwyr Gorau
Dolenni
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Pentigily Dilyn Llwybr Arfordir Sir BenfroHefin Wyn
Gweld rhagor o deitlau gan 'Hefin Wyn' |
ISBN: 9781847710420 (1847710425)Dyddiad Cyhoeddi Mai 2008
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bontFformat: Clawr Meddal, 215x158 mm, 352 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£14.95
| |
| Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
|
Llyfr taith yn dilyn llwybr arfordir gogledd Sir Benfro, o'r traeth Gwyn i Niwgwl. Cyfrol llawn lluniau a hanesion am drigolion ardal y wes wes gan awdur difyr a thalentog.
A book of walks on the coastal path of northern Pembrokeshire. Includes pictures and several accounts and stories about the inhabitants of the area.
|
|
Ers agor Llwybr Arfordir Sir Benfro yn 1970 mae dwsinau o lyfrau tywys wedi eu hysgrifennu er mwyn cynorthwyo’r cerddwr ar ei hyd, ond dyma'r llyfr cyntaf y gwn i amdano yn Gymraeg. Ond nid yw’r llyfr hwn yn gofyn am ddim mwy gan y darllenwr nag aros yn ei gadair esmwyth a gadael i’r awdur wneud y gwaith caled wrth ei ddilyn ar hyd y llwybr pentigily o’i ddechrau i’w ddiwedd – sef o Landudoch yn y gogledd hyd at Lanrhath, neu Amroth, yn y de.
Efallai, ar yr olwg gyntaf, y gallai cyfrol 350 tudalen ymddangos yn fwy o her na cherdded 299 km y llwybr ei hun, ond yn fuan iawn bydd y darllenydd wedi ymgolli yn y dathliad hwn o fywyd yn Sir Benfro heddiw. Wrth fynd ar ei daith, mae Hefin Wyn yn llwyddo i blethu ynghyd gyfoeth o hanesion y gorffennol gyda sylwadau treiddgar am realiti presennol y sir mewn modd difyr. Ac ar yr un pryd mae e’n cyflwyno oriel o gymeriadau cofiadwy y cyfarfu â hwy ar y daith, ynghyd ag eraill o’r gorffennol. Efallai taw’r elfen fwyaf diddorol yw sylwadau'r awdur ar ddigwyddiadau cyfoes sy’n effeithio ar fywydau trigolion ac ymwelwyr â Sir Benfro heddiw.
Wrth fynd â ni yn gwmni iddo ar y siwrnai, ceisia’r awdur hefyd ddangos taw rhywbeth sydd bellach yn perthyn i’r gorffennol yw sôn am dde’r sir fel Anglia Transwalliana, neu Loegr Fechan. Dro ar ôl tro ar ei daith mae e’n mynnu tynnu ein sylw at gysylltiadau Cymreig a Chymraeg, hyd yn oed yn y rhannau mwyaf deheuol. Ond wrth iddo wneud hynny, mae e hefyd yn cofnodi beth sydd wedi digwydd i’r Gymraeg yng ngogledd y sir ac mae ei ddisgrifiad o sefyllfa’r iaith yn ardal Tyddewi yn arbennig o drawiadol.
Dim ond un gŵyn fach sydd gen i: nid oes mynegai. Mae angen mynegai ar lyfr fel hwn sy’n gyforiog o hanesion a ffeithiau, a hynny er mwyn helpu'r truan sydd weithiau'n anghofio ble yn union y darllenodd yr hanes neu’r ffaith ddifyr y mae am eu hailddarllen.
Lyn Léwis Dafis
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Gwybodaeth Bellach: Ystyrir llinell 'Y Landsker' yn Sir Benfro fel ffin rhwng siaradwyr Cymraeg a siaradwyr Saesneg yr ardal, ond mae'r awdur adnabyddus Hefin Wyn nawr yn galw am "ddileu'r Landsker bondigrybwyll".
Yr hanesydd George Owen oedd y cyntaf i dynnu sylw at y rhaniad hwn yn Sir Benfro, a defnyddiodd y term cyfreithiol 'land-scar' a olygai 'ffin', ar sail ffos neu glawdd ar draws tir. Yn ddiweddarach mabwysiadodd rhai ysgrifenwyr a haneswyr y term 'landsker' fel gair a ddynodai rhaniad ieithyddol ac a gyfeiriai at linell a ymestynnai ar draws gwlad o Niwgwl hyd at Llanrhath ond nad oedd yn bod mewn gwirionedd.
Ond yn ei gyfrol newydd Pentigily mae Hefin Wyn yn honni y gwnaed mwy o ddrwg nag o dda trwy orfodi meddylfryd y rhaniad anweladwy ar feddyliau trigolion y sir. Meddai Hefin Wyn: "Rhodded y gorau i'r disgrifiad Little England Beyond Wales unwaith ac am byth. Yr un bobl yw pobl Sir Benfro gyfan yn rhannu'r un diwylliant ond bod ganddynt ddwy iaith i'w fynegi a heddiw maent yn fwy unol nag erioed. Cladder y 'landsker' bondigrybwyll o dan y clawdd cerrig ar draeth Niwgwl neu yn siafftiau'r gweithfeydd glo gerllaw". Mae'r gyfrol yn lyfr taith sy'n cwmpasu llwybr arfordir enwog Sir Benfro, ac yn gyfrol a ddisgrifiwyd fel un "anhepgor i bawb sydd am ddysgu am hanes, cymeriadau a threftadaeth hynod y sir."
Pentigily yw trydydd llyfr taith yr awdur, sydd bellach yn byw ym Maenclochog. Mae Hefin Wyn hefyd yn awdurdod ar ganu poblogaidd Cymraeg a chyhoeddodd ddwy gyfrol ar yr hanes hwnnw yn ddiweddar, sef Be bop a Lula'r Delyn Aur a Ble wyt ti rhwng? |
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|
|
Rhagor o Deitlau
|
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
|
Llyfr y Mis
|