EICH BASGED
EWCH I...
CYSYLLTIADAU
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Dyn Handi, Y |
|
|
Pris Llawn:
£6.95
Ein Pris:
£2.95
Rydych yn Arbed:
£4.00 (57.6%)
|
|
Nofel ysgafn ddarllenadwy iawn am gowboi o adeiladwr hoffus, wedi'i hysgrifennu gan Sion White, un o brif gymeriadau'r gyfres boblogaidd Pobol y Cwm. Mae'r nofel yn dilyn anturiaethau carwriaethol a gyrfaol adeiladwr ac wedi'i seilio'n fras ar rai o gymeriadau'r gyfres, sef Brandon, Gary a Britt Monk. Dyma nofel sy'n llawn hiwmor a sgandal.
A novel following the romantic adventures of a popular builder and handyman in the BBC soap-opera, Pobol y Cwm. It is written by one of the lead characters, Sion White, and based roughly on Brandon, Gary and Britt Monk, who also appear in Pobol y Cwm. This light-hearted novel is the perfect summer read and a must buy for all Pobol y Cwm fans.
|
|
Os ydych yn ddigon ffodus i fod yn mynd ar eich gwylia’ cyn bo hir, cofiwch adael lle yn y cês i’r nofel fach yma. Deunydd darllen delfrydol ar gyfer y lownjyr haul, ddwedwn i. Ynddi cawn hanes Warren, y ‘dyn handi’ a nifer o’i gyfeillion, ac os ydych, fel fi, yn ffan o Pobol y Cwm mi fyddwch yn sicr o sylwi ar y tebygrwydd rhwng Warren ac un o drigolion Cwmderi. Nid yw hyn yn fawr o syndod o gofio mai Sion White, un arall o ‘Bobol y Cwm’ ydi’r awdur. Yn ôl y manylion ar gefn y llyfr, dyma ail nofel Sion ond mae’n debyg iddo gael tipyn o gymorth gan Catrin Dafydd wrth fynd ati i groniclo hanes bywyd carwriaethol Warren.
Teimlais ar adegau yr hoffwn fod wedi dod i adnabod ambell un o’r cymeriadau eraill yn well, yn arbennig Gwenda, gwraig unig y meddyg lleol sy’n troi at Warren am gysur pan mae’r doc yn brysur yn y syrjeri, a Bev, chwaer Warren, sy’n fam sengl ond sydd hefyd yn cadw llygaid famol ar ei brodyr gwyllt.
O’r cychwyn, mae’r nofel yma yn mynd â’r darllenydd ar wibdaith drwy fywyd nwydus Warren, wrth iddo wneud ei orau i jyglo ei gariadon, ei ffrindiau a’i waith adeiladu. Mae hi felly bron yn anochel fod rhywbeth yn mynd i fynd o’i le, ac erbyn diwedd y nofel mae Warren druan mewn picil go iawn ac yn gorfod wynebu’r ffaith na chadwith y diafol mo’i was yn hir.
Er bod atsain o ffilmiau Carry On yn y nofel yma ambell dro, mae’n llwyddo i afael yn y darllenydd o’r dechrau, ond cofiwch, dwi’n siŵr y bydd Sion White yn meddwl ddwywaith cyn cerdded strydoedd Cwmderi eto!
Derfel Williams
Gellir defnyddio’r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
|
|
Gwybodaeth Bellach: Dau Lansiad i Nofel Pobol y Cwm
Ar nos Fawrth y 4ydd o Awst mi fydd nofel newydd yn cael ei lansio ar y sebon teledu Pobol y Cwm. Ond yn ogystal â bod yn rhan ganolog o’r gyfres deledu mi fydd y nofel o’r enw Y Dyn Handi hefyd yn cael ei lansio ar faes yr eisteddfod ar yr un diwrnod.
Ers misoedd bellach, mae selogion Pobol y Cwm, wedi bod yn dilyn hynt a helynt cymeriad Siôn White (sy’n cael ei bortreadu gan yr actor Jeremy Cockram), a nawr, mewn cydweithrediad â Gwasg Y Lolfa, bydd y gyfrol yn gweld golau dydd ar Pobol y Cwm nos Fawrth Awst y 5ed ar S4C ac yn cael ei chyhoeddi yn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd ar yr un diwrnod yng nghwmni actoion Pobol y Cwm. Lansir Y Dyn Handi ar stondin Y Lolfa am 12.00 dydd Mawrth Awst 4ydd yng nghwmni cynhyrchwyr Pobol y Cwm, y cyd-awdures Catrin Dafydd ac actorion y gyfres, yn cynnwys Rhys Bidder sy’n actio Macs yn y gyfres. Ar yr un diwrnod bydd noson o ofid i Sion White wrth i Brit ddarganfod fod prif gymeriad y nofel wedi ei seilio ar ei brawd, Brandon Monk!
Cyd-awdures y nofel yw Catrin Dafydd, sy’n byw yng Nghaerfyrddin. Dyma’i ail nofel Gymraeg yn dilyn Pili Pala a gyrhaeddodd restr hir llyfr y flwyddyn.
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
|
|