Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Hawl i'r Gymraeg
Gwion Lewis
ISBN: 9781847710659 (1847710654)Dyddiad Cyhoeddi Awst 2008
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 214x140 mm, 128 tudalen Iaith: Cymraeg Adargraffu Ein Pris: £7.95   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Dyma gyfrol arloesol yn ymwneud â statws a hawliau siaradwyr Cymraeg - y gyfrol gyntaf erioed i osod y Gymraeg yng nghyd-destun cyfraith rhyngwladol a chyfraith Ewrop. Cyfrol feistrolgar sy'n cyflwyno'r ddadl dros ddeddfwriaeth Gymraeg.

A pioneering work discussing the status and language rights of Welsh speakers - the first ever book to place the Welsh language in an international and European legal context.
Un o brif ddamcaniaethau Gwion Lewis yw mai camddehongli ein sefyllfa yw gwreiddyn llawer o drafferthion y frwydr dros sicrhau hawliau i’r Gymraeg. Yn rhy aml, meddai, ‘ystyrir y Gymraeg fel ffenomen haniaethol sydd heb gysylltiad â’i siaradwyr’ (tud. 104). Yn hyn o beth hawlia fod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn pwysleisio parhad ieithyddol yn hytrach na sicrwydd ieithyddol. Pe bai’r pwyslais yn cael ei roi ar dynged y rhai sy’n defnyddio’r Gymraeg, yn hytrach nag ar dynged y Gymraeg ei hun, byddai ein dealltwriaeth o’r amryw ffyrdd y mae siaradwyr y Gymraeg yn cael eu hamddifadu o urddas gymaint â hynny yn well.

Ceisia’r awdur roi’r ddadl hon yng nghyd-destun rhyngwladol datblygiad hawliau dynol. Cynigir enghreifftiau o lwyddiant a methiant sicrhau cyfiawnder ieithyddol o brofiad yr Unol Daleithiau ac o Ewrop cyn symud ymlaen at ddangos eu perthnasedd i achosion yng Nghymru. Un o wendidau amlwg ein sefyllfa ni yw anaeddfedrwydd y fframwaith syniadol ar gyfer anffafriaeth ieithyddol. Cynigia’r awdur fod hyn wedi ei amlygu yn achos Jones v. Cyngor Sir Gwynedd. Er i’r Llys Apęl ddyfarnu nad oedd Deddf 1976 yn berthnasol, ac er i Gyngor Sir Gwynedd ennill, yn eironig iawn, medd yr awdur, yr oedd yn gam mawr yn ôl o safbwynt datblygiad cyfreithiol hawliau iaith am nad oedd y gyfraith yn cynnig fframwaith priodol ar gyfer ystyried anffafriaeth ieithyddol.

Wrth feirniadu ymgais y Gymdeithas i roi hwb seicolegol i’r Gymraeg drwy ddadlau mai’r Gymraeg yw priod iaith Cymru, dadleua’r awdur y dylid symud y ffocws o’r ymdeimlad o genedligrwydd a pherthynas y Gymraeg â’n hunaniaeth i dir sicrach o lawer. Gwneir hyn drwy bwysleisio arwyddocâd cyfreithiol datganiad fod yr iaith yn iaith genedlaethol. Ar hyn o bryd, gellid diystyru nifer o ganllawiau Ewropeaidd, gan nad oes iddynt rym yma, o’i chymharu â’r gyfraith yn Sbaen, lle rhoddir statws swyddogol i’r Gatalaneg a’r Fasgeg. Ceir ymdriniaeth o effaith Siarter Ewrop ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol ar ein sefyllfa, ac er i’r Siarter godi ymwybyddiaeth ar draws y cyfandir, teg dweud fod disgẃrs yr offeryn rhyngwladol hwn yn annelwig ac yn y pen draw yn aneffeithiol. ‘Ond ni ellir llai na digalonni am fod y Siarter yn dangos cyn lleied o uchelgais . . . nid oes arwyddocâd gwir ymarferol i’r rhan fwyaf ohono’ (tud. 60).

Beth am ein sefyllfa ni yng Nghymru heddiw? Un o brif wendidau ein system gyfredol yw’r diffyg dadansoddi cyfreithiol o ddeddfwriaeth berthnasol. Oherwydd nad yw’r iaith yn bwnc amlwg oddi fewn i’r proffesiwn, dadleua’r awdur fod yna duedd i bwysleisio’r ymlyniad emosiynol ar draul dadleuon mwy sylweddol ynglŷn â gwendidau’r testun cyfreithiol ei hun. Ei brif neges yn y cyswllt hwn, ac felly prif gymwynas y llyfr i ddealltwriaeth a strategaeth yr ymgyrch i wella statws ymarferol yr iaith, yw’r argyhoeddiad fod ‘perygl i’r mudiad iaith gael ei ddiystyru fel un ansoffistigedig os nad ydyw’n dechrau rhoi mwy o gig ar asgwrn yr ymgyrch’ (tud. 83).

Mae rhan olaf y llyfr yn ymdrin â diffygion ymarferol. Gellid gofyn y cwestiwn, ymhle mae pŵer a chyfrifoldeb yng nghyd-destun sicrhau hawl i’r Gymraeg. Yr ateb ffurfiol ddylai fod y gyfraith, y llysoedd, San Steffan, Llywodraeth y Cynulliad a llywodraeth leol. Yr ateb anffurfiol yw Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Hawlia’r awdur fod y Bwrdd wedi ei roi mewn sefyllfa amhosib, oherwydd ddiffygion Deddf Iaith 1993. Corff ymgynghorol a chynorthwyol yw’r Bwrdd, meddai’r awdur, ac felly nid oes rhyfedd na all y Bwrdd sicrhau cydymffurfiaeth ieithyddol. Gan fod Deddf 1993 wedi gwrthod hawliau iaith fel egwyddor, rhoddir y pwyslais ar ymateb i anghenion y Gymraeg a pharatoi gwasanaethau dwyieithog. Ar nifer o achosion mae’r awdur yn lladd ar y Bwrdd am a) gwobrwyo ‘mawrion y genedl’ wrth eu dewis fel aelodau; b) gwrthod cwestiynu neo-ryddfrydiaeth Deddf 1993 yn gyhoeddus; c) gwrthod ailystyried effeithlonrwydd cynlluniau iaith; ch) anwybyddu proses gwbl wrthgynhyrchiol sydd yn parlysu'r ymdrech i gynllunio dros y Gymraeg am nad yw’r Ddeddf yn meddwl ei bod yn ‘briodol’ nac ychwaith yn ‘ymarferol’ i ddisgwyl i gwmnďau ddefnyddio’r Gymraeg. Mae hyn oll yn ailadrodd beirniadaeth Williams a Morris (2000) ac yn cyfeirio at ganol y nawdegau. Nid yw’r awdur yn trafod yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, felly ni cheir unrhyw drafodaeth ar yr ymgyrch gan nifer yng Nghymru gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith, y Bwrdd, Mudiad Datblygu’r Gymraeg, Hywel Williams A.S. ac Aelodau’r Cynulliad, Cwmni Iaith ac eraill am ddeddfwriaeth newydd, am sicrhau hawliau ieithyddol, am sefydlu swydd Comisiynydd Iaith, am brif lifo hawliau iaith fel rhan o agenda cydraddoldebau. Nid oes sôn am dystiolaeth y cyrff yma gerbron Comisiwn Richard, am y drafodaeth adeiladol ynglŷn â natur a chymeriad Gorchymyn y Cynulliad Cenedlaethol ar yr Iaith Gymraeg, am yr ymwneud rhwng grwpiau pwyso, unigolion, sefydliadau cenedlaethol a Chyrff y Goron gydag eraill yng Ngwlad y Basg, Catalonia, Iwerddon, Canada, Quebec ac yn y blaen. Yn hyn oll, mae’r llyfr yn ddiffygiol, ac yn rhoi’r argraff ei fod wedi ei orffen tua 2003, neu fod yr awdur yn amharod iawn i gydnabod fod yna nifer helaeth o rai eraill yn cyfrannu i’r maes, ac nid y lleiaf ohonynt yw'r rhai o’i broffesiwn ef ei hun sydd yn dadansoddi datblygiad y gyfraith yng Nghymru a goblygiadau deddfwriaethol datganoli, newidiadau sylfaenol yn ein cyfansoddiad a mesurau Ewropeaidd sydd yn fwyfwy adlewyrchu ein realiti amlddiwylliannol.

Colin H. Williams

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Bywgraffiad Awdur:
Mae'r awdur Gwion Lewis yn fargyfreithiwr yn siambrau Landmark yn Llundain, yn arbenigo yn y gyfraith gyhoeddus a hawliau dynol. Cyn cael ei alw i'r Bar, yr oedd yn Ysgolor Fulbright ym Mhrifysgol Efrog Newydd, lle enillodd radd LLM gan ganolbwyntio ar y gyfraith ryngwladol a hawliau iaith. Mae ganddo hefyd raddau BA a BCL mewn Cyfreitheg o Goleg Iesu, Rhydychen. Cychwynnodd ar y gyfrol hon tra oedd yn Ysgolor Gwadd ym Mhrifysgol yr Undeb Ewropeaidd yn Fflorens dan nawdd Ymddiriedolaeth Saunders Lewis. Mae'n sylwebu'n gyson ar faterion rhyngwladol ar gyfer BBC Cymru.
Gwybodaeth Bellach:
Llyfr Newydd a Dadl Newydd am Ddeddf Iaith

Cyhoeddwyd llyfr newydd sy'n dwyshau'r galw am ddeddf iaith mwy cynhwysfawr ar ddydd Llun yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd - llyfr sy'n rhoi bedydd tân i Weinidog Treftadaeth newydd y Cynulliad, Alun Ffred Jones, sydd bellach yn cymryd y cyfrifoldeb dros y ddeddf iaith arfaethedig.

Dyma'r gyfrol gyntaf i'w chyhoeddi sy'n gosod y Gymraeg yng nghyd-destun cyfreithiau rhyngwladol ac Ewropeaidd. Yn ôl yr awdur Gwion Lewis: "Ni fydd y gyfraith yn ddigonol nes ei bod yn cydnabod fod gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i ddefnyddio'r iaith. Mae cyfreitheg hawliau dynol Prydain yn fwy soffistigedig nag y bu erioed yn dilyn Deddf Hawliau Dynol 1998, ac mae gan y llysoedd fframwaith gadarn bellach ar gyfer ymdrin â hawliau iaith."

Meddai Cynog Dafis, a gymerodd ran yn lansiad y gyfrol: "Mae cyhoeddi'r gyfrol hon yn ddigwyddiad o bwys ... mae'n gyfrol feistrolgar sy'n cyflwyno'r ddadl fod angen i ddeddfwriaeth newydd ar gyfer y Gymraeg gae ei seilio ar hawl siaradwyr yr iaith i'w defnyddio gydag urddas."
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Cerddi R. Williams Parry ...
R. Williams Parry
£17.50
 
Prynwch
Meddwl a'r Dychymyg ...
Simon Brooks
£4.99
 
Prynwch
Eglwys Sant Teilo
Gerallt Nash
£4.50
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Os Na Ddôn Nhw...
Cefin Roberts
£8.99
 
Prynwch
Saesneg
Dead White
Gwen Parrott
£8.99
 
Prynwch
Plant
Hudlath a'r Haearn, Yr
Cressida Cowell
£6.99
 
Prynwch