Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig   English  
Gwybodaeth Lyfryddol
Hen Ffordd Gymreig o Fyw / A Welsh Way of Life – Ffotograffau John Thomas Photographs
Awdur: Iwan Meical Jones
Gweld rhagor o deitlau gan 'Iwan Meical Jones'
ISBN: 9781847710710 (1847710719)
Dyddiad Cyhoeddi Hydref 2008
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 210x240 mm, 192 tudalen
Ar gael 
Does dim Ymatebion Darllenwyr i'r teitl hwn.
 
 
Hen Ffordd Gymreig o Fyw / A Welsh Way of Life – Ffotograffau John Thomas Photographs
Ein Pris: £14.95 
Cyfrol yn cynnwys casgliad o ffotograffau John Thomas, cymeriad o Gellan ger Llanbedr Pont Steffan, a deithiodd drwy Gymru yn y 19eg ganrif. Ceir hanes ei fywyd a'r hyn a'i sbardunodd i dynnu lluniau pobl, llefydd a phortreadau o gymeriadau hynod. Mae'n gofnod pwysig o hanes bywyd cefn gwlad yn ystod Oes Fictoria yng Nghymru.

A collection of photographs by John Thomas, who travelled the length and breadth of Wales in the 19th century. It includes details of his life and what inspired him to take pictures of people, places, and portraits of unique characters. This collection is an important record of rural life in the Victorian period in Wales.
English review follows

Dyma o’r diwedd ddathliad teilwng o athrylith John Thomas, y ffotograffydd mawr o oes Fictoria. Mae hyn yn bosibl oherwydd i Owen M. Edwards brynu tair mil o’r platiau gwydr a oedd yn sylfaen ffotograffiaeth yr oes, a bod ei deulu wedi rhoi’r casgliad amhrisiadwy i’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae Iwan Meical Jones yn cyflwyno hanes bywyd a gwaith John Thomas yn gryno, yn effeithiol ac yn ddwyieithog, ond crynswth y gyfrol yw cant tri deg o ffotograffau, a’r mwyafrif helaeth ohonynt yn hynod – yn cynnig taith i’r wlad dramor honno, Cymru’r gorffennol.

Tri rhaniad sydd i’r lluniau: Lleoedd, Pobl a Phortreadau. Mae’r Lleoedd yn ymestyn o Dyddewi i Ynys Enlli, o Ddinbych i Sanclêr, ond ni welir dim o Gymru’r pyllau glo a’r gweithfeydd dur ac alcam yn y casgliad hwn. Er i John Thomas fyw yn Lerpwl pan oedd e'n 15 oed hyd ei farw yn 1905, amrywiaeth y Gymru wledig a’i phobl oedd ei ddiléit – er bod yn rhaid i ni gofio ei fod yn ennill ei fara menyn trwy bortreadau stiwdio. Mae rhai o’r lleoedd yn y dewisiad hwn fel petaent heb newid o gwbl, tra bod eraill wedi newid cymaint erbyn heddiw fel na ellid eu hadnabod o’r lluniau.

O ran y Bobl a’r Portreadau, y gwahaniaeth pennaf rhyngddynt yw’r lleoliad. Yn y dosbarth cyntaf ceir grwpiau megis yn eu cyd-destun; dim ond dau lun sydd o unigolion, a’r rheiny ymhlith y lluniau mwyaf teimladwy yn y casgliad. Gwelir Gwen y Potiau, hen wraig gyda’i hasyn a’i chert, y tu allan i Swyddfa’r Post, Llandrillo. Ond y llun i mi yw Harri Bach Bodedern, gyda’i goes bren a’i ffon fagl, yntau gydag asyn a chert yn y stryd. Ymhlith y portreadau ceir ychydig o hoelion wyth y genedl, megis S. R., Michael D. Jones a Chranogwen. Ond i’r golygydd, fel rwy’n tybio, ac i’r adolygydd hwn, y campau yw’r lluniau o bobl anghofiedig megis Dic Pugh y saer coed, Bet Foxhall, Wil y Felin, Nansi’r Coed a Siôn Sodom. Dyma anrheg Nadolig ardderchog!

Gerald Morgan

********************

At last we have a worthy celebration of the genius of John Thomas, the Welsh Victorian photographer. It was made possible in the first place because Owen M. Edwards bought three thousand of the glass plates which Thomas used, later to be given by the family to the National Library. Iwan Meical Jones introduces the life and work of John Thomas concisely, effectively and briefly, but the bulk of the volume is the 130 chosen pictures, which take us back to that foreign land, the Welsh past.

The photos are divided into three groups: Places, People and Portraits. The Places stretch from St David’s to Bardsey, from Denbigh to St Clears, though there is nothing here of coal-mining, steel-and-tinplace-working Wales. Although John Thomas lived in Liverpool from the age of 15 till his death in 1905, the variety of rural Wales and its people was his delight, though he earned his bread-and-butter through run-of-the-mill portraiture. Some of the places in this selection seem to have changed hardly at all in a hundred years, while others are no longer recognisable.

As for the People and Portraits, the main difference between the divisions is their locations. In the first section we see people in groups and in their working contexts, though the two most touching are of individuals: Gwen y Potiau, an old woman with a donkey and cart outside Llandrillo Post Office, and (the one I love the most) Harri Bach of Bodedern, with his peg-leg and crutch alongside his donkey and cart. Among the Portraits are some of the nation’s pillars: Lloyd George, Michael D. Jones and Cranogwen. But to the editor (as I suspect) and to me, the great feats are the pictures of people who left no other trace behind them – Dic Pugh the carpenter, Bet Foxhall, Wil y Felin, Nansi’r Coed and Siôn Sodom. A splendid Christmas present!

Gerald Morgan

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Bywgraffiad Awdur:
Awdur y testun sy’n cyd-fynd â’r lluniau yw Iwan Meical Jones, sy’n Bennaeth Isadran Gofal Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau ar ffotograffwyr Cymru, ond dyma ei gyfrol gyntaf.
Gwybodaeth Bellach:
Dathlu bywyd a gwaith un o ffotograffwyr mawr y byd

Am y tro cyntaf cyhoeddir casgliad sylweddol o luniau ffotograffydd Cymreig pwysicaf oes Fictoria – John Thomas. Fe’i disgrifir fel “un o ffotograffwyr mawr y byd” gan awdur llyfr newydd a phennaeth Gofal Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Iwan Meical.

Cymro o Gellan, Ceredigion oedd John Thomas, a bu’n tynnu lluniau ar hyd a lled Cymru yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ar ôl dechrau trwy wahodd nifer o bregethwyr adnabyddus i eistedd iddo. Bu'r fenter yn llwyddiant ac erbyn 1867 roedd yn ddigon hyderus i gychwyn ei fusnes ffotograffig ei hun, 'The Cambrian Gallery'. Parhaodd â'r gwaith am yn agos i ddeugain mlynedd gan deithio drwy'r rhan fwyaf o Gymru yn tynnu lluniau o olygfeydd yn ogystal â phobl.

Yn ôl yr awdur, “Yng ngwaith John Thomas mae gennym gofnod sydd yn bersonol, yn emosiynol ac yn llawn bywyd. Nid yn unig y mae’n ffotograffydd Cymreig o bwys, ond y mae’n un o ffotograffwyr mwya’r byd.”

Cyfrol ddwyieithog am fywyd a gwaith John Thomas yw Hen Ffordd Gymreig o Fyw / A Welsh Way of Life. Dyma’r unig gyfrol lle ceir casgliad sylweddol o’i ffotograffau gyda’i gilydd. Mae 130 o luniau ynddi, yn darlunio teithiau John Thomas o gwmpas Cymru yn ystod ei oes.

Meddai Iwan Meical: “Mae ei waith yn annatod gysylltiedig â Chymru’r cyfnod hwnnw, pryd y gwelwyd newidiadau chwyldroadol yn y wlad… ac mewn oes pan oedd pawb yn galw am bortreadau oedd yn eu dangos fel pobl barchus, roedd John Thomas yn eithriad oherwydd ei fod yn dewis tynnu lluniau gweithwyr cyffredin, a hyd yn oed gardotwyr a phobl feddw.”

Trwy ei luniau o’r ffeiriau a’r porthladdoedd, yn ogystal â’r capeli a’r golygfeydd, ceir golwg newydd, arloesol ar Gymru a Chymry’r cyfnod.