|
Y llynedd, pan nodwyd hanner canmlwyddiant y mesur seneddol i foddi Cwm Tryweryn, llwyfannwyd drama ddirdynnol Manon Eames, Porth y Byddar. Roedd Tryweryn unwaith eto’n llenwi colofnau’r wasg Gymraeg, a’r digwyddiad yn parhau i ennyn dicter a thristwch dwfn. Syndod felly yw’r ffaith mai Martin Davis yw’r nofelydd cyntaf i fynd i’r afael â’r hanes, ac mae ei ddull o wneud hynny’n annisgwyl hefyd. Nid yw’r nofel wedi’i lleoli yng Nghwm Tryweryn, nac yn sôn am ddioddefaint y bobl a ddadleolwyd. Yn hytrach, cawn hanes tri chymeriad - Mefina, Emlyn a Des - o ddiwedd y 1950au hyd at 2007; cyffwrdd â’u bywydau yn unig a wna digwyddiadau cythryblus Tryweryn.
Trwy lygaid Mefina, sy’n astudio i fod yn nyrs, gwelwn fwrlwm Lerpwl ar ddechrau’r 1960au. Mae Mefina wedi dianc o’r hyn y mae’n ei weld yn ‘gawell’ sef agweddau cul ei theulu a’i milltir sgwâr, a’i charwriaeth ddiniwed gydag Emlyn. Ond er gwaethaf cyffro ei bywyd newydd a churiad afieithus y Merseybeat, gwelwn ei bod yn bell o fod yn rhydd. Rhaid iddi ufuddhau i reolau llym ei neuadd breswyl, a rhoi disgwyliadau ei theulu o flaen ei gyrfa a’i hapusrwydd. Mae boddi Tryweryn yn ei gorfodi i feddwl o ddifrif am ei Chymreictod a’i breuddwydion naïf am briodi meddyg cefnog.
Cenedlaetholwr tanbaid a phengaled yw Emlyn, ac nid yw’n gymeriad hawdd cydymdeimlo ag ef bob amser. Caiff boddi Tryweryn effaith fawr arno oherwydd mai yno y magwyd ei nain, a thrwy lygaid Emlyn cawn olwg ar fudiadau protest ac eithafwyr y cyfnod. Dyma gymeriad mwyaf cymhleth y nofel; mae’r Emlyn delfrydgar a welwn ar ddechrau’r nofel yn dra gwahanol i’r cymeriad tywyll a chwerw a welwn yn ddiweddarach.
Cawn safbwynt arall ar Dryweryn gan gymeriad Des O’Farrell, oherwydd ei fod yn Wyddel anwleidyddol sy’n cael ei gyflogi i weithio ar y safle. Ond, ymhen amser, daw Des i fod yn genedlaetholwr fel ei daid, a fu’n garcharor yng ngwersyll Fron-goch a chawn olwg ar gyfnod tywyll yn hanes gogledd Iwerddon.
Un o wendidau’r nofel yw ei diffyg cynildeb, a’r manylion diangen megis hanes plentyndod rhai cymeriadau ymylol. Serch hynny, mae arddull yr awdur yn eglur, a’r nofel yn rhwydd i'w darllen er ei bod yn cwmpasu cyfnod maith. Cawn hanes gafaelgar tri chymeriad difyr a thristwch Tryweryn yn gefnlen i’r cyfan.
Eiry Miles
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Gwybodaeth Bellach: Tryweryn yn Tanio Dychymyg Awdur
Ar nos Wener 31 Hydref, cynhaliwyd lansiad nofel hanesyddol newydd Martin Davis, Tonnau Tryweryn (Y Lolfa, £8.95) yn y Llew Du yn Nhalybont, Aberystwyth yng nghwmni Brigyn.
Yn ôl y wasg, nofel yw hi sy’n dilyn hynt a helynt tri chymeriad tra gwahanol i’w gilydd, dros gyfnod o hanner canrif, wrth i’w gwleidyddiaeth a digwyddiadau’u cyfnod newid cwrs eu bywydau fesul un, a dyfroedd Tryweryn yn gefnlen cyson i’r cwbwl.
Cawn hanes Mefina, merch ifanc a’i blys ar fod yn nyrs, ei chenedlaetholwr o gariad, Emlyn, a’r straen a roddir ar eu perthynas wrth i Mefina ddewis mynd i astudio i Lerpwl. Wrth i’r misoedd droi’n flynyddoedd, a Mefina wedi dod o hyd i gariad newydd, mae Emlyn yn chwerwi fwyfwy tuag at Lerpwl, a phopeth y mae’r ddinas honno yn ei gynrychioli. Ymuna â’r ymgyrchoedd yn erbyn boddi Capel Celyn, a chanfod ei hun ymhlith y rhai sydd yn barod i weithredu... ond mae cynlluniau Lerpwl yn tynnu trasiedi sydyn i’w fywyd mewn modd na ddychmygodd byth. Pan ddychwela Mefina i’r ardal rhai blynyddoedd yn ddiweddarach gyda’i gŵr, y Gwyddel Gweriniaethol Des O’Farell, sy’n derbyn swydd fel warden yng ngwaith Tryweryn, mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth. Ac wrth i ddaliadau gwleidyddol y cymeriadau gryfhau, felly hefyd y mae’r dynfa tuag at weithredu, a thrais.
 chymeriadau mor fyw â’r rhain, wedi eu selio mewn hanes cymharol ddiweddar, rhaid gofyn y cwestiwn a ydyn nhw’n deillio o bobol o gig a gwaed. Ond yn ôl yr awdur Martin Davis, “Dychymyg pur ydyn nhw, pob un”. Er hynny, mae’n cyfaddef iddo wneud gwaith ymchwil trwyadl wrth baratoi, ac ymgolli yn yr hanes: "Dwi wedi astudio Hanes Cymru, dyna oedd fy ngradd a ’ngradd bellach, felly mae gen i ddiddordeb byw yn y peth. Yn achos Tonnau Tryweryn, cael fy mherswadio i’w sgwennu y gwnes i, ac roedd hynny’n ychydig o her. Weithia’, os ydi rhywun hefo gormod o ddiddordeb yn y testun, mae o’n gallu llesteirio rhywun... er, erbyn y diwadd o’n i wedi ymgolli’n llwyr!"
Yn fuan yn ei waith ymchwil daeth i sylweddoli bod ardal Cwm Tryweryn wedi chwarae rhan mewn sawl ymgyrch wleidyddol, ac nid dim ond yr amlwg: "’Nath o ’nharo i bod ’na dri pheth â rhyw fath o gysylltiad rhyngddyn nhw ag ardal Tryweryn – sef ymgyrchoedd Tryweryn ei hun, hanes Frongoch, lle ganed yr IRA i bob pwrpas, a’r ffaith bod hunanfomwyr Llundain wedi dewis canolfan ganŵio ger yr Afon Tryweryn i gael rhyw fath o gyfarfod bondio cyn cyflawni’u hymosodiad nhw. O weld y tri pheth yna, o’n i’n meddwl, wel, ma’ ’na stori yn rwla," eglura.
Teimlodd nad oedd modd creu cysylltiad uniongyrchol, ond roedd rhywbeth yn hynny wedi cydio: "O’n i ddim isio sgwennu nofel ddogfennol hanesyddol, fel y cyfryw”, meddai. Felly penderfynodd wyro oddi wrth y digwyddiadau’r ydym ni’n gyfarwydd â nhw, gan adael y rheiny’n ddim ond cefndir i’r nofel: "Pan fydda’ i’n sgwennu, dwi’n licio meddwl am y petha lleia’ tebygol, yn hytrach na dilyn rhyw drywydd amlwg," esbonia.
Gadawodd felly i’r cymeriadau arwain, a’u stori nhw sydd yn y nofel, ac nid ffeithiau moel: "Mewn gwirionedd, mae hi’n nofel am y ffordd y gwnaeth y digwyddiadau yma effeithio ar bobol a’u perthynas hefo’i gilydd. Yn aml, mae’r sgil effeithia’ yn gallu gneud llanast o fywyda’ pobol."
Mae’r bobol, neu’r cymeriadau, yma yn ein tywys drwy flynyddoedd cythryblus yn ein hanes, wrth i’w bywydau gael eu dryllio gan orthrymau y tu hwnt i’w rheolaeth, a thynnu’r darllennydd i’w byd nhw. Cawn gipolwg ar fywyd pob dydd trigolion ardal Tryweryn yn ystod cyfnod du iawn yn eu hanes, a hwnnw’n ddarlun mor fyw y mae’n peri i ni fynd o dan groen eu hofnau, eu dicter, a’u cymhellion.
Er mai yn Lloegr y cafodd Martin Davis ei fagu, cafodd ei eni yn Llanrwst, y mae wedi byw yng Nghymru er pan yn ddeunaw oed, ac mae’n ystyried ei hun yn Gymro pybyr. Mae ganddo gof plentyn o basio Capel Celyn yn ystod y 60au cynnar, ar y ffordd i aros yn eu carafán ym Mhorthmadog, a gweld y gwaith yn mynd rhagddo.
"Mae’n rhaid mai rhyw naw oed o’n i,” meddai’r awdur wrth adrodd yr hanes. “Daeth dau weithiwr ata’ i a thynnu ’nghoes i, ma’n rhaid ’mod i wedi gwisgo fatha soldiwr. ‘Whose army are you in?’, medden nhw, ‘The Free Wales Army’, medde fi’n syth! D’wn i ddim lle o’n i ’di clywed yr enw, ond mae’n rhaid ’i fod o wedi treiddio rywsut neu’i gilydd!"
Mae Tonnau Tryweryn ar gael o’ch siop lyfrau leol neu gwales.com. Tonnau Tryweryn oedd Nofel y Mis Cyngor Llyfrau Cymru ar gyfer mis Tachwedd 2008. Gwobrau: Dewiswyd gan Gyfnewidfa Lên Cymru ar gyfer ei Silff Lyfrau 2008-09.
Chosen by Wales Literature Exchange for its 2008-09 Bookcase.
|