Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Un Dydd ar y Tro – Hunangofiant Trebor Edwards
Trebor Edwards, Elfyn Pritchard
ISBN: 9781847710819 (1847710816)Dyddiad Cyhoeddi Hydref 2008
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 215x140 mm, 176 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o Stoc - Archebir yn l y galw Ein Pris: £9.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Hunangofiant hirddisgwyliedig y canwr a'r ffermwr adnabyddus o Fetws Gwerful Goch. Yn y gyfrol hon mae Trebor yn rhoi darlun i ni o ddau fywyd - ei deithiau a'i fordeithiau yn canu ym mhedwar ban byd, a'i frwydr barhaus i gynnal baich y fferm. Mae'n rhoi cipolwg ar y newid a fu yn y byd amaeth dros gyfnod o hanner canrif, yn ogystal â'i orchestion yn y byd adloniant.

The long-awaited autobiography of Trebor Edwards, the popular tenor and farmer from Betws Gwerful Goch. Trebor portrays the two main aspects of his life - his experiences singing in all four corners of the world, and the hard labour of keeping the farm running. This book demonstrates how agriculture has changed during a period of fifty years, and tells the story of his success.
Trebor Edwards yw un or cantorion mwyaf poblogaidd a welodd Cymru erioed. Mae e wedi gwerthu swm anhygoel o recordiau ac yn llwyddo i ddenu cynulleidfaoedd niferus. Ond mae e hefyd yn ffermwr hynod o lwyddiannus, wedi mentro ac arloesi droeon, ac wedi ennill nifer o wobrau yn y sioeau mawr wrth arddangos anifeiliaid gydai feibion. Yn sgil hynny, fei hanrhydeddwyd eleni wrth gael ei ddewis yn Llywydd Sioe Frenhinol Cymru.

Yn yr hunangofiant hwn cyflwynir y ddwy agwedd hon ar ei fywyd – y canu ar ffermio. Maer gyfrol yn agor gydar geiriau Mi faswn in licio ffarmio Pen Brynie – geiriau a ddywedodd Trebor wrth ei fam pan oedd yn bymtheg oed. Taid a Nain Trebor oedd yn byw ym Mhen Brynie ac fe brynodd Trebor y fferm gan ei daid pan oedd ef yn ymddeol. Cawn glywed am ei ymdrechion parhaus i gynnal baich y fferm, yn arloesi gyda dulliau gwahanol ac yn prynu tiroedd a ffermydd hwnt ac yma i sicrhau bod cenhedlaeth nesaf y teulun gallu parhau i ffarmio a byw gerllaw. Ac maen amlwg iawn fod teulu a chymuned yn bwysig iawn i Trebor. Bur gymdeithas leol o gymorth mawr iddo ef ac Ann mewn cyfnodau anodd ac mae ef yn cyfrannu cymaint at y gymdeithas honno ac yn credun angerddol ynddi. Mae e hefyd yn weithgar iawn yn ei gapel. Roedd gweld yr agwedd hon yn chwa o awyr iach ac mae Trebor yn esiampl i bawb yn hyn o beth. Ni ddylai sylw cenedlaethol rwystro rhywun rhag tynnu ei bwysau yn lleol, medd Trebor.

O ran y canu, cawn glywed am ei ddylanwadau cynnar – ei daid oedd yn credu bod geirio clir yn bwysig, y cystadlu yn y dyddiau hynny ar ymddangosiadau ar raglenni radio a theledu. Cawn glywed hefyd am y recordio a llwyddiant anhygoel y gwahanol recordiau – mae e wedi gwerthu dros 200,000 o recordiau a CDs gydag Un Dydd ar y Tro wedi torri pob record o ran gwerthiant recordiau Cymraeg. A chawn glywed am y mordeithiau y bu arnynt, yn canu ym mhedwar ban byd.

Dyma gyfrol hynod o ddifyr a diddorol. Mae pawb yn gyfarwydd Trebor, pawb yn gwybod am ei ganu ac wedii weld gydai gi ar Itll Be Alright on the Night droeon! Ond maer gyfrol hon yn dysgu cymaint mwy i ni amdano. Mae Elfyn Pritchard wedi llwyddo i gyflwyno dyn hynaws a hawddgar dros ben mewn ffordd agos atoch chi ac rwyn siŵr y bydd yna lawer o werthu ar y gyfrol, fel ei recordiau.

Nest Gwilym

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Gwybodaeth Bellach:
Trebor Edwards yw un o'r tenoriaid Cymraeg mwyaf poblogaidd erioed. Prin i unrhyw gantor Cymraeg gael y fath lwyddiant, gyda'i recordiau'n gwerthu degau o filoedd, a chynulleidfaoedd yn tyrru i'w berfformiadau ledled Cymru a thu hwnt.

Enillodd bum disg aur am werthiant ei recordiau ac mae bellach wedi gwerthu dros 200,000 o recordiau a CDs, gyda "Un Dydd ar y Tro" yn torri pob record o ran gwerthiant recordiau Cymraeg.

Ond breuddwyd Trebor erioed oedd cael ffermio Pen y Bryniau. A thrwy dipyn o lwc a llawer o waith caled mi lwyddodd i wireddu'r freuddwyd honno, gan ddod yn un o amaethwyr amlycaf ei fro. Yn 2008 cafodd yr anrhydedd o fod yn Llywydd Sioe Frenhinol Cymru - braint gwbl haeddiannol yn sgil ei ymroddiad yn cynnal gwerthoedd cefn gwlad ym Mro Gwerful.

Yn y gyfrol hon mae Trebor yn rhoi darlun i ni o ddau fywyd - ei deithiau a'i fordeithiau yn canu ym mhedwar ban byd, a'i frwydr barhaus i gynnal baich y fferm. Mae'n rhoi cipolwg ar y newid a fu yn y byd amaeth dros gyfnod o hanner canrif, yn ogystal 'i orchestion yn y byd adloniant; dau fywyd y mae'n dal i'w mwynhau, un dydd ar y tro ...

Trebor yn Trafod y Byd a'r Betws

Trebor Edwards: y canwr Cymraeg sydd wedi gwerthu dros 200,000 o recordiau, y gŵr a welwyd yn gyson ar lwyfannau ledled Cymru a thu hwnt, ffarmwr llewyrchus a Llywydd y Sioe Frenhinol yn 2008. Dyma rhai or ffeithiau moel y maer rhan fwyaf ohonom nin eu gwybod. Ond yn ei hunangofiant newydd Un Dydd ar y Tro, a gyhoeddir gan Y Lolfa yr wythnos hon, cawn ddod i adnabod y gŵr y tu l ir llais swynol.

Er enghraifft, pwy fyddain dyfalu fod Trebor Edwards yn poenin ofnadwy am anghofioi eiriau, yn torri ei wallt pob pum wythnos yn ddi-ffael ac wedi bod ar 19 o fordeithiau dros y 25 mlynedd diwethaf?
Er ei holl lwyddiant ym myd canu, o amgylch fferm Pen Bryniau ger Corwen mae byd Trebor Edwards wedi troi ers iddo fod yn fachgen ifanc. Yn wir, maer gyfrol yn cychwyn gydar geiriau ddywedodd Trebor wrth ei fam yn bymtheg oed, Mi faswn in licio ffarmio Pen Brynie ac maer rhan gyntaf or gyfrol yn frith o atgofion am y plentyndod hapus a gafodd ym mynwes ei fro. Maen sn am redeg or ysgol bentref ym Metws Gwerful Goch am fferm ei daid, Pen Bryniau, ar bob cyfle ac am y dylanwad cafodd y gŵr arbennig hwn ar ei ddyfodol, nid yn unig ym myd amaeth ond hefyd ym myd canu: "Roedd Taid yn gerddorol iawn, a chanddo glust dda a llais bariton," meddai Trebor. "Bydde hel rownd y piano i ganu yn rhan naturiol o fywyd a diddanwch cefn gwlad, a finne, y boi soprano byrgoes, wrth fy modd pan gawn fy nghanmol am ganu."

Ymhen hir a hwyr, daeth Trebor yn berchen ar Ben Bryniau, yn ogystal dilyn gyrfa lewyrchus ym myd canu, yn gyntaf wrth gystadlu mewn eisteddfodau lleol ac yna wrth ymddangos ar y radio ar teledu ar raglenni megis Cais am Gn, Trebor, Taro Tant, Noson Lawen a llawer mwy. Fel y dywedai yn y gyfrol, "Er mod i, ar hyd y blynyddoedd, wedi cyfri fy hun yn ffarmwr yn gynta', allwn i ddim dychmygu byd heb ganu ynddo a dallwn i chwaith, hyd yn oed yng nghanol y prysurdeb mwya', ddim dychmygu peidio canu fy hun."

A ymlaen i ddweud mai ei hoff gantorion ydir rhai syn geirion glir: Gwyn Hughes Jones, Rhys Meirion, Bryn Terfel, Sian Cothi, Bethan Dudley, Marian Roberts, Katherine Jenkins a Pavarotti.

Maer gyfrol yn llaw hanesion doniol am lygad Trebor am fargen, ai arferiad i ddod yn l o gyngerdd wedi taro bargen am anifeiliaid, trelar, cynaeafwr neu hyd yn oed foto beic pedair olwyn unwaith!

Wrth gwrs, un or hanesion mwyaf enwog or rheiny ywr stori am y clip teledu a wnaeth Trebor ar ci yn fyd-enwog wedi iddo ymddangos ar raglen Dennis Norden Itll be Alright on the Night.
Wrth gofior digwyddiad meddai Trebor, "Un pnawn roedd y criw ffilmio wrthi a finnen eistedd efo Sbot y ci ar y glaswellt, yn ffilmio cefndir ar gyfer fy nghn Yr Hen Shep maen debyg, pan wnes i sylweddoli bod y criw camera yn chwerthin fel pethe gwirion. Dene droi i weld be oedd yn digwydd a sylwi ar Sbot yn llithro wysg ei din i lawr y llechwedd, gan grafu ei hun yn y llawr fel pe bai ei ben-l ar dn!

Roedd ymateb y gwylwyr yn ddiddorol iawn. Mi ges i sawl paced o bils a phowdrach o bob math drwyr post gan wahanol bobol yn awgrymu bod llyngyr ar y ci! Rhai o ddifri, ond fydda pawb ddim yn deud pwy oedden nhw chwaith, a dwin dal i ame ambell un!"
Elfyn Pritchard or Sarnau, a anwyd o fewn pedair milltir i Trebor yng Ngwyddelwern, a gyd-ysgrifennodd yr hunangofiant gyda Trebor ac Ann, ei wraig, dros gyfnod o ychydig fisoedd.

Meddai, "Gan ein bod nin dod or un ardal, rydym yn rhannu rhai atgofion - or cynhaeafu, y lorri laeth ac ati felly roedd hynnyn help. Roedd Ann hefyd wedi cadw llawer o doriadau a llythyrau dros y blynyddoedd felly roedd y rheinyn ddefnyddiol iawn o ran rhoir darlun cyfan at ei gilydd."

"Yr argraff rwyn ei gael yw ei fod yn ddyn hynaws dros ben, er ei fod wedi wynebu trasiedi yn ei fywyd fel pawb arall. Mae ganddo deulu mawr yn byw yn lleol, ac maen trin pawb yr un fath. Rhyw ffordd mae hynnyn dod drosodd yn ei gyngherdde fo, a dyna yw cyfrinach ei lwyddiant maen siŵr."
Diweddarwyd ar 08 Mawrth 2011
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Scrabble yn Gymraeg
 
£28.99
 
Prynwch
Atlas Cenedlaethol Cymru ...
 
£299.00
 
Prynwch
Lesotho
R. Van de Geek & A. C. A Van d
£4.50
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mam - Cerddi gan Famau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Talk Welsh
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Plant
Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
£5.99
 
Prynwch