|
|
EICH BASGED
EWCH I...
CYSYLLTIADAU
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Igam Ogam Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2008 |
| Awdur: Ifan Morgan Jones Gweld rhagor o deitlau gan 'Ifan Morgan Jones'
|
| ISBN: 9781847710918 (1847710913) |
Dyddiad Cyhoeddi Awst 2008
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont |
| Fformat: Clawr Meddal, 194x129 mm, 192 tudalen |
| Ar gael |
Does dim Ymatebion Darllenwyr i'r teitl hwn.
|
| | |
|
|
| |
|
|
|
Ein Pris:
£7.95
|
|
Pan gaiff Tomos Ap alwad ffôn gan ei dad mabwysiedig yn ei alw adref, mae'n amau mai cynllwyn yw'r cyfan i'w orfodi i gymryd gofal o'r fferm deuluol. Ond gyda Natur ei hun yn ceisio prynu'r lle, mae ganddo fwy na dipio defaid i boeni amdano. Nofel arobryn Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerdydd a'r Cylch 2008.
When Tomos Ap receives a phone call from his adopted father asking him to return home, he suspects there's a plot to force him to run the familial farm. But when Nature tries to take over, he has more than sheep dipping to worry about. This novel won Ifan Morgan Jones the Daniel Owen Memorial Prize at the 2008 National Eisteddfod.
|
|
Clywsoch ddywedyd bod y llyfr hwn yn ymdebygu i waith Terry Pratchett, ac yn Fabinogi modern. Ychwanegwch at hyn The Lion, the Witch and the Wardrobe (y porthwll), Star Wars (y cryman hud yw’r lightsabre) a Dr Who. Mae’n debyg fod yr awdur yn ffan o’r Arglwydd Amser ac mae darllen ei lyfr dipyn bach fel gwylio cyfres o Dr Who.
Mae’r penodau’n faith ac yn manwl droelli o sefyllfa i sefyllfa gan gwrdd â bodau arallfydol y Fabinogwlad. Tomos ap yw’r Dr ac mae Angharad yn rhyw Billie Piper o gymeriad wrth ei ochr. Mae’r mab yn dychwelyd yn anniddig o Gaerdydd, i Ben-y-bryn, fferm ei blentyndod. Ond tila yw’r cyfrifoldeb o redeg fferm o’i gymharu â’r cyfrifoldebau dychrynllyd sy’n ei wynebu wrth groesi’r porthwll, cyn dychwelyd i warchod treftadaeth chwedlonol Cymru. Mae Tomos ap a’i ffrindiau’n dod yn rhan annatod o’r chwedl ‘a does nam denig nes’ eu bod wedi cwblhau eu rhan yn y stori a delio gyda natur ei hun, ar ffurf Cyrn-y-nos.
Mae’r bydol a’r arallfydol yn bodoli ochr yn ochr â’i gilydd mewn ffordd realaidd sydd hefyd yn afreal; nid dychmygu oedd Iolo Morganwg – aeth yntau i’r un byd â Tomos ap gan ddod â’r Archdderwydd a’i gybôl yn ôl i ni, cyn gweld mwg llosgfynydd Laki fel ‘niwl dros Ddyfed’ yn 1783.
Mae’r cyfan yn sinematig iawn. Yr hyn sy’n digwydd sy’n tra-arglwyddiaethu. Nid plymio i ddyfnderoedd pob cymeriad yw byrdwn y nofel hon. Nid dyna flaenoriaeth yr awdur. Mae llif yr ysgrifennu’n rhwydd, a’r golygfeydd yn gwibio’n rhibidirês wrth ddarllen. Eisteddwch yn ôl, a mwynhewch – fel petaech chi’n gwylio Dr Who. Cewch ddadansoddi wedyn; os mynnwch.
Siân Reeves
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Bywgraffiad Awdur: Cafodd Ifan ei fagu yn y Waunfawr ger Caernarfon a'i addysgu yn Ysgol Gynradd Waunfawr, Ysgol Syr Hugh Owen ac ym mhrifysgolion Caerdydd, Bangor a Newcastle. Bellach mae'n ddirprwy Olygydd y cylchgrawn Golwg. Gwybodaeth Bellach: Nofel "Seicedelic" yn Cipio Gwobr Goffa Daniel Owen
Ifan Morgan Jones, newyddiadurwr ifanc o Benparcau ger Aberystwyth, oedd enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen, Eisteddfod Caerdydd am ei nofel Igam Ogam. Dywedodd y beirniaid fod y "nofel seicedelig" Igam Ogam gan Y Pobydd yn llawn haeddu'r wobr. Disgrifwyd y nofel fel un yn llinach awduron fel Terry Pratchett, Hayao Miyazaki a Tolkein.
Dywedodd Harri Parri ar ran y beirniaid, "Mae gan Y Pobydd ddawn brin i chwarae ar eiriau, dychymyg sy'n drên hir a chrefft sy'n peri i eiriau ddawnsio ... Ychwanegwch at y gymysgfa gyfoeth gwybodaeth am hanes Cymru a'i chwedloniaeth a dyna i chi resipi torth ryfeddol Y Pobydd."
Cafodd y gwaith ei lunio yn wreiddiol fel rhan o gwrs MA Ifan, ac ymgais oedd y nofel i argyhoeddi'r darllenydd y dylid ymfalchïo yn chwedloniaeth ein gwlad ac roedd creu byd Y Fabinogwlad oedd wedi ei gwau o rai o'r chwedlau hynny yn ddyfais berffaith er mwyn gwneud hynny.
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
|
|
|